Bydd Cyfnod 3 o ystyriaeth y Senedd o Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn digwydd ddydd Mawrth 6 Mai. Yn yr erthygl hon, rydym yn nodi rhywfaint o wybodaeth gefndirol berthnasol, gan gynnwys ein crynodeb o'r newidiadau i'r Bil yng Nghyfnod 2.
- Yng Nghyfnod 3 o broses ddeddfwriaethol y Senedd, mae pob un o Aelodau o’r Senedd yn gallu cyflwyno gwelliannau.
- Mae cyfanswm o 76 o welliannau wedi'u cyflwyno i'w hystyried ar draws 15 ‘grŵp’:
- 28 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS;
- 27 gan Cefin Campbell AS, Plaid Cymru; a
- 21 gan Tom Giffard AS, y Ceidwadwyr Cymreig.
- Yn ei hanfod, mae'r Bil yn cynnig newidiadau i'r ffordd y caiff darpariaeth addysg Gymraeg statudol ei chynllunio a'i darparu. Y bwriad yw y bydd yn cefnogi strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050.
- Cafodd y Bil ei ddiwygio yng Nghyfnod 2 gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 13 Chwefror a 19 Chwefror. Ystyriwyd cyfanswm o 157 o welliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 2, a derbyniwyd 93 ohonynt.
- Mae fersiwn wedi’i diweddaru o'r Bil a Memorandwm Esboniadol diwygiedig wedi'u cyhoeddi yn dilyn Cyfnod 2.
- Gallwch ddysgu mwy am y Bil, a'i daith drwy'r Senedd hyd yn hyn yn ein:
- crynodeb o’r newidiadau i’r Bil yng Nghyfnod 2;
- erthygl ynghylch gwaith craffu'r Senedd yng Nghyfnod 1; a
- Crynodeb o’r Bil cychwynnol yn egluro beth mae’r Bil (fel y’i cyflwynwyd) yn ei wneud.
- Yn dilyn Cyfnod 3, bydd y Bil (ar ei ffurf derfynol) yn destun pleidlais ddydd Mawrth 13 Mai ynghylch a ddylai’r Senedd basio’r ddeddfwriaeth (Cyfnod 4).
- Gallwch ddilyn trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth 6 Mai yn fyw ar Senedd.tv a darllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.
Pigion gan Osian Bowyer a Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru