Y Senedd i gynnal dadl ar drydydd Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Cyhoeddwyd 17/10/2025

Nid yw materion sy'n effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc byth yn bell o agenda'r Senedd. Mae'r rhain yn cynnwys ystod eang o feysydd polisi fel gofal plant, anghenion dysgu ychwanegol, tlodi plant ac iechyd meddwl plant. Bydd y mis hwn hefyd yn gweld Ymchwiliad COVID-19 y DU yn casglu tystiolaeth am effaith ddofn y pandemig ar blant a phobl ifanc.

Yn ei thrydedd Adroddiad Blynyddol fel Comisiynydd Plant, mae Rocio Cifuentes yn amlinellu ei barn am y sefyllfa i blant yng Nghymru yn 2024-25. Mae hefyd yn gwneud argymhellion ar gyfer beth arall y mae angen ei wneud yn ei barn hi.

Bydd Aelodau o’r Senedd yn cael dweud eu dweud ar yr amrywiaeth eang o faterion sy’n cael eu codi yn yr adroddiad pan gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 21 Hydref.

Pa bwerau sydd gan y Comisiynydd?

Prif ddiben y rôl yw diogelu a hyrwyddo hawliau a llesiant plant. Mae ystod eang o hawliau wedi'u nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn gan gynnwys diogelu, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru roi 'sylw dyledus' i’r Confensiwn ym mhopeth maent yn ei wneud.

Mae gan y Comisiynydd set o bwerau cyfreithiol sy'n ei galluogi i:

  • Adolygu’r effaith a geir ar blant wrth i gyrff cyhoeddus a ddiffiniwyd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, arfer eu swyddogaethau neu fwriadu arfer eu swyddogaethau;
  • Adolygu a monitro pa mor effeithiol yw trefniadau cyrff cyhoeddus a ddiffiniwyd ar gyfer cwynion, datgelu camarfer ac eiriolaeth, o safbwynt diogelu a hybu hawliau a lles plant;
  • Archwilio achosion yng nghyswllt plant unigol o dan amgylchiadau penodol;
  • Rhoi cymorth i blant o dan amgylchiadau penodol;
  • Cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar unrhyw faterion sy’n destun pryder iddi sy’n effeithio ar hawliau a lles plant ac nad oes ganddi bŵer i weithredu yn eu cylch.

Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau sy'n golygu nad oes gan y Comisiynydd y pŵer i weithredu yn y sefyllfaoedd a ganlyn:

  • Materion sydd heb eu datganoli i’r Senedd, sy’n cynnwys mewnfudo a lloches, budd-daliadau lles, cyfiawnder a phlismona, a phlant yn y lluoedd arfog;
  • Lle gall CAFCASS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Plant a’r Llysoedd) weithredu a lle mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau yng nghyswllt achosion teulu;
  • Ni chaiff ymchwilio i unrhyw fater neu adrodd arno os yw neu os bu’n destun achos cyfreithiol.

629 o achosion o gyngor a chymorth i blant a phobl ifanc

Yng Nghymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, mae rôl y Comisiynydd yn cynnwys rhoi cyngor a chefnogaeth uniongyrchol ar achosion unigol. Mae hyn drwy'r Tîm Cyngor a Chymorth Hawliau Plant, sy'n cynnig llinell gymorth am ddim.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Swyddogion Ymchwiliadau a Chyngor. Mae'n nodi mai cyfanswm nifer yr achosion a gafodd eu trin yn 2024-25 oedd 659, cynnydd bach o'i gymharu â'r 623 o achosion a reolwyd yn y flwyddyn flaenorol.

  • Roedd 40% o'r achosion hyn yn ymwneud ag Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol: Roedd y rhain yn cynnwys materion yn ymwneud â chwynion ysgol, mynediad at gefnogaeth briodol, bwlio, penderfyniadau ynghylch lleoliadau, a heriau ynghylch gwaharddiadau a chludiant. Roeddent hefyd yn cynnwys pryderon ynghylch asesiadau, anghydfodau ynghylch lleoliadau, pryderon ynghylch darpariaeth, a diffyg mynediad at gymorth priodol.
  • Roedd 24% o achosion yn ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys cwynion am ansawdd gwasanaethau, darparu ac ariannu cymorth, a phryderon ynghylch sefydlogrwydd lleoliadau.

Mae’r Comisiynydd yn nodi bod y 'ddealltwriaeth a gafwyd trwy ein gwaith achosion yn helpu i lywio ein gwaith dylanwadu'. Mae’n mynd yn ei blaen i nodi:

Mae hynny’n galluogi’r swyddfa i symud materion sy’n dod i’r amlwg ymlaen gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, gan sicrhau bod achosion unigol yn cyfrannu at newid systemig ehangach.

26 o argymhellion ar gyfer newid

Mae'r adroddiad yn gwneud 26 o argymhellion ar gyfer newid ar draws ystod eang o feysydd polisi. 

Nid yw’n syndod, yn seiliedig ar y gwaith achos y gwnaeth y Comisiynydd ymdrin ag ef, bod y rhain yn cynnwys galwadau am newid mewn cysylltiad â chwynion ysgolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae meysydd polisi eraill lle mae'r Comisiynydd yn dweud bod angen newid yn cynnwys tlodi plant, tai, trafnidiaeth, anabledd, iechyd meddwl a chorfforol, niwroamrywiaeth, cydlyniant cymunedol a diogelu. Gallwch ddarllen mwy am y manylion yn yr adroddiad.

Mae ffynonellau gwybodaeth eraill am waith presennol y Comisiynydd yn cynnwys:

Gallwch wylio Aelodau o'r Senedd yn trafod adroddiad y Comisiynydd a materion sy'n effeithio ar blant ar Senedd TV ddydd Mawrth 21 Hydref.

Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.