Flwyddyn yn ddiweddarach: Beth sydd yn Adroddiad Blynyddol 2017-18 Comisiynydd Plant Cymru?

Cyhoeddwyd 12/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ogystal â thrafod Adroddiad Blynyddol 2017-18 Comisiynydd Plant Cymru yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon, efallai y bydd Aelodau'r Cynulliad am fyfyrio ar ddiweddariad Sally Holland ar y gwahaniaeth y mae adroddiad y flwyddyn flaenorol wedi'i wneud.

Cynhelir y ddadl hon ddydd Mawrth 13 Tachwedd 2018 ac mae'n gyfle i Aelodau'r Cynulliad drafod y materion diweddaraf sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru a chlywed sut y mae Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu ymateb. Disgwylir cyhoeddi ymateb ysgrifenedig ffurfiol Llywodraeth Cymru ar ôl y ddadl.

Y penawdau eleni?

Dyma rai o'r argymhellion y mae'r Comisiynydd yn galw amdanynt:

  • Cyflwyno Bil cyn gynted â phosibl sy'n dileu amddiffyniad 'cosb resymol'
  • Llywodraeth Cymru i weithio gydag ymadawyr gofal ac awdurdodau lleol i lunio gwybodaeth ariannol glir i helpu pobl ifanc i gael mynediad i'r ystod o grantiau, budd-daliadau a hawliau sydd ar gael wrth adael gofal.
  • Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei chanllawiau newydd Addysg Ddewisol yn y Cartref i ymgynghori arnynt eleni, i geisio bodloni'r tri nod a ganlyn yn llawn:
    • Sicrhau bod dim plentyn yng Nghymru yn byw yn anweledig o wasanaethau a chymdeithas yn gyffredinol.
    • Bod pob plentyn yn cael addysg addas, a bod ganddo fynediad i’w hawliau dynol, gan gynnwys gofal iechyd a diogelwch.
    • Dylai pob plentyn gael y cyfle i fynegi ei farn ac i rannu ei brofiadau am ei addysg.
  • Llywodraeth Cymru i sicrhau bod darpariaeth Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ar gyfer ardal pob bwrdd iechyd yn cynnwys mynediad 24/7 i rota o bediatregwyr ac archwilwyr meddygol fforensig sydd wedi’u hyfforddi’n addas a bod gwasanaethau cwnsela ac adferiad digonol ar gael i ddioddefwyr ledled Cymru.
  • Llywodraeth Cymru yn gwneud addysg perthnasoedd iach yn rhan statudol o’r cwricwlwm newydd.
  • Diwygio'r cwricwlwm i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn dysgu am eu hawliau a bod eu cyfranogiad yn cael ei wreiddio’n systematig yng nghyfnod nesaf datblygu’r cwricwlwm.
  • Dylai Llywodraeth Cymru a'r pedwar heddlu sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn parhau i gael perthynas gadarnhaol â swyddog cyswllt â’r heddlu drwy Raglen Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan.
  • Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant tuag at gomisiynu darpariaeth newydd sy’n gallu diwallu anghenion gofal ac iechyd meddwl y nifer fach o bobl ifanc sydd ag anawsterau ymddygiad ac emosiynol heriol iawn, nad oes fawr ddim darpariaeth breswyl addas iddynt yng Nghymru ar hyn o bryd.

Beth sydd wedi newid ers y llynedd?

Mae Sally Holland hanner ffordd drwy ei chyfnod fel Comisiynydd, a bydd am sicrhau mai ei gwaddol yn y tymor hwy yw ei bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau plant. Yn ddiweddar, cyhoeddodd diweddariad byw o'r cynnydd wrth ddatblygu argymhellion ei Hadroddiad Blynyddol 2016-17. Mae'r ddogfen ddiweddaru hon yn sgorio cynnydd yn ôl system goleuadau traffig. O'r 19 argymhelliad yn ei hadroddiad 2016-17, mae Sally Holland yn dosbarthu cynnydd ar 4 fel Gwyrdd ac ar 10 fel Oren. Mae 5 wedi'u categoreiddio fel coch, sy'n golygu'r canlynol:

Dim tystiolaeth o newidiadau o ran polisi ac arfer ers i'r argymhelliad gael ei wneud. Dim gwelliant o ran profiadau'r plant.

Y rhain yw:

  • Addysg ddewisol yn y cartref
  • Gofal plant
  • Eiriolaeth iechyd
  • BSL/cymorth ar gyfer anghenion cyfathrebu plant byddar a'r rhai â nam ar eu clyw
  • Elw mewn gwasanaethau gofal

Mae modd gweld ymateb Aelodau'r Cynulliad i'r hyn y mae'r Comisiynydd Plant wedi'i ddweud ar Senedd TV yma, tua 5.30 prynhawn dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018.

Bydd Aelodau o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn siarad yn uniongyrchol gan Sally Holland ac yn trafod ymhellach y materion a godwyd yn yr adroddiad ar ddydd Iau 22 Tachwedd 2018 o 9.30 -11.00. Gellir gweld cy cyfarfod ar Senedd TV.


Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru