Senedd Cymru

Senedd Cymru

Y Senedd i drafod adroddiad y Pwyllgor ynghylch cynigion o ran system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd

Cyhoeddwyd 07/03/2025   |   Amser darllen munudau

Cyn hir, mae’n bosibl y bydd gan bleidleiswyr gyfle i ddisodli Aelod o’r Senedd gydag un arall rhwng etholiadau, os caiff cynlluniau eu datblygu i gyflwyno system ‘adalw’ yng Nghymru.

Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gyda phob plaid yn y Senedd erbyn etholiad 2026, er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg o ran sancsiwn a phŵer i ddiswyddo Aelodau o’r Senedd. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, bellach, wedi datblygu opsiynau ar gyfer sut y gallai hyn weithio'n ymarferol.

Ddydd Mercher 12 Mawrth, bydd y Senedd yn trafod Adroddiad y Pwyllgor a'i argymhelliad y dylid cyflwyno system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

Beth yw system adalw?

Mae mecanweithiau ‘adalw’ yn caniatáu i bleidleiswyr ddiswyddo gwleidyddion rhwng etholiadau. Maent yn gymharol brin ledled y byd, ond mae system wedi bod ar waith ar gyfer Aelodau Senedd y DU ers 2015.

At hynny, mae Senedd yr Alban yn ystyried Bil Aelod a gyflwynwyd gan Graham Simpson ASA, a fyddai’n sefydlu system adalw yn yr Alban.

Beth mae'r Pwyllgor Safonau wedi'i argymell?

Mae’r Pwyllgor yn cytuno’n llwyr â’r egwyddor o gyflwyno system adalw ar gyfer y Senedd. Mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddwyn deddfwriaeth yn ei blaen er mwyn cyflwyno system cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Nod argymhellion yr adroddiad yw creu system bwrpasol sy’n ystyried yr amgylchiadau penodol yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

  • Bod proses safonau’r Senedd yn cynnwys sancsiwn annibynnol ar gyfer cynnal balot adalw os yw Aelod o’r Senedd wedi torri’r cod ymddygiad, gyda chanllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer pryd y dylid ei ddefnyddio;
  • os yw cynnal balot yn gymwys, gofynnir i etholwyr a ydynt am gadw'r Aelod neu ‘ddiswyddo a disodli’ gyda'r ymgeisydd nesaf ar restr plaid yr Aelod o dan sylw, yn etholiad diwethaf y Senedd;
  • dylid cynnal y bleidlais ar un diwrnod ar draws gorsafoedd pleidleisio lluosog mewn proses debyg i is-etholiad, ar ôl cyfnod rhybudd o chwe wythnos;
  • os bydd mwyafrif y cyfranogwyr yn pleidleisio dros adalw’r Aelod o’r Senedd, bydd yn colli ei sedd yn awtomatig a bydd yr ymgeisydd nesaf ar restr plaid yr Aelod o dan sylw’n cael ei ethol; a hefyd
  • dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r gymuned etholiadol i sicrhau bod pleidleiswyr yn cael gwybod am y rheswm dros adalw’r Aelod, a’r opsiynau sydd ar gael iddynt.

Sut mae hyn yn wahanol i'r system ar gyfer Aelodau Seneddol?

Hyd yn hyn, o dan system Tŷ’r Cyffredin, mae pedwar Aelod Seneddol wedi’u diswyddo. Dim ond o dan amgylchiadau arbennig y gellir sbarduno deiseb adalw yn San Steffan. Er enghraifft, os caiff AS ei wahardd am o leiaf 10 diwrnod eistedd.

O dan system San Steffan, mae deiseb adalw ar agor am 6 wythnos. Os bydd 10% o bleidleiswyr cofrestredig yn yr etholaeth yn llofnodi'r ddeiseb yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd yr Aelod Seneddol yn cael ei adalw, ac yn colli ei sedd.

Pan gaiff Aelod Seneddol ei adalw yn San Steffan, llenwir ei sedd drwy gynnal is-etholiad. Caiff yr Aelod Seneddol sydd wedi’i adalw sefyll yn yr isetholiad.

Nid yw system San Steffan yn cael ei hargymell gan y Pwyllgor. O 2026 ymlaen, bydd y Senedd yn defnyddio system etholiadol wahanol i’r un bresennol – cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig – bydd hynny'n dileu'r posibilrwydd o isetholiadau. Mae’r system etholiadol newydd hon yn golygu pe bai system adalw San Steffan yn cael ei defnyddio ar gyfer y Senedd, dim ond 10% o etholwyr Aelod fyddai’n adalw’r Aelod. Fodd bynnag, byddai hefyd yn golygu na fyddai cyfle i adennill ei sedd isetholiad, oherwydd byddent yn cael eu disodli’n awtomatig gan yr ymgeisydd nesaf o’u plaid wleidyddol, a oedd ar y rhestr o’r etholiad blaenorol.

A yw cynnig y Pwyllgor yn tynnu dewis oddi ar bleidleiswyr?

Mae argymhellion y Pwyllgor wedi cael eu beirniadu gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (neu’r ERS). Mae gan yr ERS bryderon am yr effaith y byddai'r system yn ei chael ar ddewis ac atebolrwydd pleidleiswyr.

Mae o’r farn y byddai’r system a argymhellir gan y Pwyllgor yn atal pleidleiswyr rhag cael y cyfle i gosbi plaid wleidyddol, yn ogystal ag unigolyn. Y rheswm dros hynny yw y byddai Aelod sy’n cael ei adalw’n cael ei ddisodli’n awtomatig gan y person nesaf ar restr ei blaid wleidyddol, o etholiad diwethaf y Senedd.

Mae'r ERS yn cefnogi'r egwyddor o adalw ond eisiau system sydd, ym marn y gymdeithas, yn sicrhau y gall pleidleiswyr benderfynu pwy sy'n eu cynrychioli, yn hytrach na phleidiau gwleidyddol.

Dywedodd Hannah Blythyn AS, Cadeirydd y Pwyllgor, wrth bodlediad Walescast y BBC mai’r her oedd yn wynebu’r Pwyllgor oedd dod o hyd i ateb sy’n ymarferol gyda’r system etholiadol sy’n cael ei chyflwyno yn 2026. Dywedodd mai atebolrwydd unigol yw pwyslais gwaith y Pwyllgor, a'i bod yn bwysig bod y system yn syml ac yn hygyrch i'r cyhoedd ei deall.

Beth arall sy'n digwydd i gryfhau atebolrwydd?

Mae Adroddiad y Pwyllgor yn ffurfio rhan o raglen waith fwy eang sy’n ystyried y modd y mae cyfundrefn safonau’r Senedd yn gweithredu.

Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch ‘dichell fwriadol’, a oedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gryfhau’r gyfraith er mwyn atal a chosbi Aelodau o’r Senedd, ac ymgeiswyr etholiadol sy’n dweud celwydd yn fwriadol. Byddai hynny'n cynnwys cryfhau’r cyfreithiau presennol sy’n ymwneud ag etholiadau’r Senedd, a chryfhau gweithdrefnau safonau’r Senedd a’r Cod Ymddygiad i Aelodau.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Pwyllgor hefyd wedi ymrwymo i adolygu'r strwythurau a'r gweithdrefnau sy'n cefnogi'r fframwaith safonau. Bydd hyn yn cynnwys effeithiolrwydd polisi Urddas a Pharch y Senedd, ystyried y rhwystrau i gael mynediad at y gyfundrefn safonau ac a oes angen unrhyw newidiadau deddfwriaethol i wneud y system yn fwy effeithiol.

Y camau nesaf

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor ac wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno Bil i sefydlu system adalw yn ystod tymor presennol y Senedd.

Mae'r Llywodraeth wedi derbyn, mewn egwyddor, argymhellion y Pwyllgor i system adalw fod yn sancsiwn ar ei ben ei hun, ond bydd yn archwilio a ddylid cynnwys dedfryd o garchar o lai na 12 mis fel sbardun awtomatig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud, er y gellir pasio deddfwriaeth sylfaenol yn ystod tymor y Senedd hon, y bydd angen i’r broses o’i rhoi ar waith (e.e. datblygu a phasio is-ddeddfwriaeth) fod yn un gyflym ar ôl etholiad 2026.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 12 Mawrth 2025. Gallwch ddilyn y trafodion ar Senedd.tv.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru