Y Pumed Cynulliad: Ethol y Llywydd

Cyhoeddwyd 06/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

6 Mai 2016 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dyma lun o'r Siambr Darn cyntaf o fusnes brys y Cynulliad newydd yw ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd. Mae’r Rheolau Sefydlog yn datgan: “Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros bob busnes arall”. Rôl y Llywydd Prif rôl y Llywydd yw cadeirio’r Cyfarfod Llawn, gan gadw trefn ac amddiffyn hawliau Aelodau’r Cynulliad. Ef neu hi sy’n gyfrifol am sicrhau yr ymdrinnir â busnes ar sail gyfartal a diduedd. Hefyd, y Llywydd sy’n gyfrifol am y Rheolau Sefydlog, ac ef neu hi yw’r awdurdod terfynol ar eu dehongliad. Mae’r Dirprwy Lywydd yn dirprwyo ar ran y Llywydd yn ôl yr angen. Gall y Dirprwy Lywydd gyflawni swyddogaethau’r Llywydd yn absenoldeb y Llywydd, neu os nad yw’r Llywydd yn gallu gweithredu am unrhyw reswm. Nid yw’r Fonesig Rosemary Butler, Llywydd y Pedwerydd Cynulliad, yn sefyll i gael ei hail-ethol i’r Cynulliad, er ei bod wedi parhau yn y swydd drwy gydol cyfnod y diddymiad yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n rhaid i’r Dirprwy Lywydd roi’r gorau i’r swydd pan fydd cyfnod y diddymiad yn dechrau. Enwebiadau I ddechrau, y Llywydd cyfredol sy’n cadeirio’r cyfarfod cyntaf, gan wahodd enwebiadau. Yn gyntaf, mae’n rhaid i enwebiad gael ei eilio gan Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i’r un y mae’r Aelod sy’n enwebu yn perthyn iddo. Os yw’n ymddangos nad oes unrhyw Aelod yn debyg o gael ei enwebu a’i eilio gan aelodau o grwpiau gwleidyddol gwahanol, bydd y cadeirydd yn gohirio’r trafodion. Gall y cadeirydd, ar ôl ailddechrau’r trafodion, dderbyn enwebiadau sy’n cael eu heilio gan aelodau o’r un grŵp gwleidyddol â’r Aelod sy’n enwebu. Os mai dim ond un enwebiad sydd, bydd y cadeirydd yn cynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn Llywydd (neu’n Ddirprwy Lywydd). Os gwrthwynebir y cynnig hwn, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r cadeirydd drefnu bod pleidlais yn cael ei chynnal drwy bleidlais gyfrinachol. Os oes mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac nad oes unrhyw un ohonynt yn ennill mwy na hanner y pleidleisiau mewn pleidlais, bydd yr ymgeisydd sydd wedi cael y nifer leiaf o bleidleisiau yn cael ei eithrio a bydd rhagor o bleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal hyd nes y bydd un ymgeisydd yn ennill mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd. Rhaid i’r Aelod a etholir yn Llywydd dyngu’r llw neu roi cadarnhad ar unwaith os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, ac yna bydd yn symud i’r gadair. Ni ddylai’r Cynulliad ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd sy’n perthyn:
  • i’r un grŵp gwleidyddol;
  • i grwpiau gwleidyddol gwahanol sydd ill dau yn y Llywodraeth;
  • i grwpiau gwleidyddol gwahanol sydd ill dau yn wrthbleidiau.
Gellir datgymhwyso’r rheolau hyn drwy benderfyniad gan y Cynulliad os yw statws y grwpiau gwleidyddol yn newid. Rhaid i’r penderfyniad gael ei gymeradwyo gan fwyafrif o ddwy ran o dair o’r Aelodau. Yn 2007, cafodd yr Arglwydd Elis-Thomas (Plaid Cymru) a Rosemary Butler (Llafur) eu hethol yn Llywydd a Dirprwy Lywydd, yn y drefn honno, yng nghyfarfod cyntaf y Cynulliad. Fodd bynnag, rai misoedd yn ddiweddarach, ffurfiodd Plaid Cymru a Llafur Lywodraeth glymblaid, a phenderfynodd y Cynulliad y dylid caniatáu iddynt aros yn eu swyddi. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg