Y Prif Weinidog yn gosod yr agenda ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod

Cyhoeddwyd 15/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2022   |   Amser darllen munudau

Ar 5 Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog bum Bil newydd i’w cyflwyno eleni. Bydd y rhain yn gweithio tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu “Cymru decach, wyrddach a chryfach”.

Mae Rhaglen Ddeddfwriaethol ar gyfer 2022-23 Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a diogelu'r amgylchedd. Mae’n cynnwys cynlluniau i wahardd gwerthu plastigau untro, creu fframwaith newydd i gefnogi ffermwyr, a lleihau’r tebygolrwydd o dirlithriadau o domenni glo nas defnyddir.

Tynnodd y Prif Weinidog sylw at yr effaith y mae is-ddeddfwriaeth, yn enwedig yn ymwneud â Covid-19 ac ymadael â’r UE, yn parhau i’w chael ar lwyth gwaith Llywodraeth Cymru a’r Senedd.

Awgrymodd hefyd fod ‘bwriadau’ deddfwriaethol presennol Llywodraeth y DU yn creu “risg sylweddol i Gymru ac i ddatganoli”.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y pum cynnig, ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen ddeddfwriaethol ehangach.

Pa Filiau newydd sy'n cael eu cynnig?

Yn ei ddatganiad, nododd y Prif Weinidog bum Bil y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno eleni.

Plastigau untro

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil i wahardd neu gyfyngu ar werthu rhai plastigau untro, megis gwellt a chytleri plastig.

Mae'r Prif Weinidog yn gobeithio defnyddio’r ddeddfwriaeth hon fel achos prawf fel rhan o her gyfreithiol barhaus Llywodraeth Cymru i weld a yw Deddf Marchnad Fewnol 2020 y DU yn cyfyngu ar effaith ymarferol cyfraith Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd yn ceisio cyflwyno'r Bil drwy broses ‘hwyluso’  i gynorthwyo’r her gyfreithiol hon.

Aer glân

Yn dilyn y Papur Gwyn ar Aer Glân a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Aer Glân i gyflwyno targedau ansawdd aer “uchelgeisiol” a fframwaith rheoleiddio mwy cadarn i leihau allyriadau niweidiol a gwella ansawdd aer.

Amaeth

Bydd y Bil hwn, a oedd yn rhan o Raglen Ddeddfwriaethol y llynedd, yn diwygio’r gefnogaeth i amaethyddiaeth Cymru, gyda phwyslais ar “gynhyrchu bwyd sy'n gynaliadwy ac o ansawdd uchel” a “gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â hynny”.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amlinelliad o Gynllun Ffermio Cynaliadwy, a bydd yn ymgynghori yn ei gylch cyn cyflwyno’r Bil yn yr hydref.

Diogelwch tomenni glo

Yn dilyn gwaith a wnaed gan y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo a Chomisiwn y Gyfraith, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn ar Ddiogelwch Tip Glo ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mai 2022.

Bydd casgliadau’r ymgynghoriad hwn yn llywio Bil i sefydlu “dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomennydd glo segur” i ddiogelu cymunedau a’r amgylchedd, a chefnogi seilwaith hollbwysig drwy leihau’r tebygolrwydd o dirlithriadau.

Cydsynio seilwaith

Gwnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli pwerau pellach i Lywodraeth Cymru i roi cydsyniad i brosiectau seilwaith mawr ar y tir ac ar y môr.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar broses gydsynio newydd yn 2018. Bydd y cynigion hyn yn llywio Bil i symleiddio’r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr a byddant yn cyflwyno gofyniad unigol ar gyfer cydsyniad i lunio a gweithredu prosiect.

Beth am is-ddeddfwriaeth?

Tynnodd y Prif Weinidog sylw at bwysigrwydd is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â chyflawni Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae is-ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys cyfreithiau ar y cwricwlwm i Gymru a therfynau cyflymder diofyn o 20mya.

Dywedodd y Prif Weinidog fod rheoliadau ar y Pandemig Covid-19 a’r ymadawiad â’r UE wedi effeithio’n sylweddol ar lwyth gwaith Llywodraeth Cymru a’r Senedd. Bydd deddfwriaeth ymadael â’r UE yn parhau i gael ei chyflwyno tan ddiwedd y flwyddyn hon.

Hefyd, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau eleni i weithredu'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ac agweddau ar Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, megis y 'Ddyletswydd Gonestrwydd'.

Beth fu’r ymateb i’r rhaglen?

Gwnaeth Aelodau o bob plaid groesawu llawer o’r Biliau yn y rhaglen, ond codwyd pryderon am Filiau a gafodd eu hepgor. Adleisiodd rhai Aelodau bryderon y Prif Weinidog ynghylch nifer y Biliau sy’n cael eu gwneud yn Senedd y DU mewn meysydd datganoledig fel “risg sylweddol i Gymru ac i ddatganoli”.

Croesawodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, lawer o feysydd y Rhaglen, megis y Bil ar aer glân, y Bil ar ddiogelwch tomenni glo, a chynlluniau i wahardd plastigau untro, ond mynegodd siom ynghylch diffyg Biliau ar awtistiaeth ac Iaith Arwyddion Prydain. Galwodd ar y Prif Weinidog i gefnogi cynigion Peter Fox AS ar gyfer Bil Bwyd.

Cefnogodd Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru, lawer o’r Biliau yn y Rhaglen, ond beirniadodd nifer y Biliau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno (pump o gymharu â chyfartaledd o 15 yn Senedd yr Alban a 14 yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon). Galwodd am fwy o gapasiti i gefnogi Biliau Aelodau a Phwyllgorau.

Cododd nifer o Aelodau bryderon hefyd ynghylch absenoldeb Bil ar lywodraethu amgylcheddol. Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud bod y trefniadau dros dro sydd ar waith yn “gweithio’n foddhaol” fel mesur interim ac y bydd Bil yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon.

Beth yw hynt Biliau cyfredol?

Mae’r Senedd yn dal i ystyried pedwar Bil a gyflwynwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae’r siart isod yn dangos y diweddaraf am y Biliau hyn.

Siart yn dangos hynt y Biliau sy’n cael eu hystyried gan y Senedd ar hyn o bryd. Mae'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a’r Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) ill dau wedi bod trwy Gyfnod 4, mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 1, ac mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ar gyfnod Ystyriaeth Gychwynnol.

Mae'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a’r Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) ill dau yn cyrraedd diwedd eu taith drwy'r Senedd. Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). ei gyflwyno ar 7 Mehefin 2022.

Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sef Bil Cydgrynhoi cyntaf y Senedd, ei gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2022. Mae Biliau Cydgrynhoi yn dilyn gweithdrefn wahanol yn y Senedd.

Edrych tua'r dyfodol

Yn ogystal â’r Biliau arfaethedig, amlinellodd y Prif Weinidog ei fwriad i gyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth cyn diwedd 2023 ar gynigion ar gyfer Diwygio'r Senedd, rheoleiddio Gwasanaethau Bysiau a diwygio’r Dreth Gyngor drwy Fil Cyllid Llywodraeth Leol. Ar ben hynny, fe ymchwilir i opsiynau ar gyfer diwygio ardrethi annomestig.

Mater i’r Senedd fydd ystyried a ddylai’r Biliau a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog, a’r rhai sydd ar y gweill, ddod yn gyfraith.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru