Terfyn safonol o 20mya – a allai terfynau cyflymder newydd leihau nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru?

Cyhoeddwyd 23/06/2022   |   Amser darllen munudau

Er gwaethaf gostyngiad cyffredinol yn nifer y gwrthdrawiadau traffig ers 1993, cafwyd bron i fil o ddigwyddiadau difrifol yng Nghymru yn 2018. Arweiniodd y rhain at 1137 o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, ac roedd 80 ohonynt yn blant.

Mae'r data yn dangos bod y gyfran fwyaf wedi digwydd ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 30mya, sy'n cynrychioli 50 y cant o'r holl wrthdrawiadau a 40 y cant o wrthdrawiadau lle cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol.

Cyfanswm nifer y bobl a laddwyd neu a anafwydl yn ôl terfyn cyflymder y ffordd yn 2018

graffiau sy'n dangos cyfran y gwrthdrawiadau/gwrthdrawiadau difrifol yn ôl terfyn cyflymder ffyrdd sy'n dangos bod 50 y cant o'r holl wrthdrawiadau yn digwydd ar ffyrdd 30mya, 40 y cant o'r holl wrthdrawiadau difrifol yn digwydd ar ffyrdd 30mya; y ddau hyn yw'r gyfran fwyaf, yn y drefn honno.

Ffynhonnell: llywodraeth Cymru

Targedau diogelwch ar y ffyrdd

Yn 2013, pennodd Llywodraeth Cymru dri tharged i wella diogelwch ar y ffyrdd o’i gymharu â’r llinell sylfaen gyfartalog ar gyfer 2004-2008 a chyrraedd sefyllfa erbyn 2020 lle byddai:

40 y cant yn llai yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru

25 y cant yn llai o feicwyr modur yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru

40 y cant yn llai o bobl ifanc (16-24 oed) yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru

Adolygwyd y Fframwaith Diogelwch Ffyrdd yn 2018. Penderfynwyd, er y byddai'r targedau'n aros yr un fath hyd at 2020, y byddai perfformiad yn erbyn y targedau yn cael ei fesur yn y dyfodol yn erbyn cyfartaledd dros bum mlynedd.

Pan gaiff llinellau sylfaen 2004-08 eu cymharu â chyfartaleddau 2016-19, mae'r data'n awgrymu mai dim ond y targed ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol oedd yn gwneud cynnydd digonol. Mae data a gyhoeddwyd yn 2021 yn datgan bod COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar nifer y damweiniau ffordd a'r bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu yn 2020. Gostyngodd maint y traffig ar y ffyrdd 23.4 y cant o'i gymharu â 2019 ac roedd damweiniau lle cafwyd anafiadau personol 33.9 y cant yn is nag yn 2019.

A yw targedau diogelwch ar y ffyrdd 2020 wedi’u bodloni?

Tabl yn dangos dangosyddion perfformiad allweddol i leihau gwrthdrawiadau yng Nghymru a chynnydd erbyn 2018. Mae hyn yn dangos bod cynnydd ar ei hôl hi ar gyfer dau o'r targedau tra bod un wedi'i gyflawni yn ôl pob golwg.

Ffynhonnell: llywodraeth Cymru. Mae saethau llwyd yn dangos y gostyngiad targed. Mae’r gwyrdd yn dangos y gostyngiad gwirioneddol yn nifer yr anafiadau KSI (lladdwyd neu a anafwyd yn ddifrifol) o linell sylfaen 2004-08 i gyfartaledd 2016-2019.

A oes llawer o wahaniaeth rhwng 20mya a 30mya?

30mya yw'r terfyn cyflymder safonol ar gyfer y rhan fwyaf o'n strydoedd trefol a phreswyl, a elwir yn 'ffyrdd cyfyngedig'. Diffinnir y rhain fel ffyrdd â goleuadau stryd bob 200 llath.

Yn 2018, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Dr Adrian Davis adolygu'r dystiolaeth y gall lleihau terfynau cyflymder trefol leihau nifer y gwrthdrawiadau. Daeth yr Adolygiad i'r casgliad a ganlyn:

For casualty reduction the evidence is consistent that casualties are reduced as a result of 20mph speed limits.

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud bod hyn yn rhannol oherwydd bod mwy o amser i yrwyr ymateb. Mae'n cymryd tua eiliad i berson ymateb i ddigwyddiad annisgwyl, ac ar gyflymder uwch bydd y cerbyd wedi teithio ymhellach yn ystod y cyfnod hwnnw. Canfu fod gostyngiad o 6 y cant yn nifer y gwrthdrawiadau am bob gostyngiad o 1mya mewn cyflymder cyfartalog ar ffyrdd trefol.

Yn 2019, sefydlodd Lee Waters, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd, Grŵp Tasglu i wneud argymhellion ar sut i gyflwyno 20mya yn genedlaethol. Canfu’r Grŵp Tasglu 'dystiolaeth lethol' dros fwy na dau ddegawd bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac anafiadau llai difrifol. Mae’n nodi bod y risg o rywun yn cael ei ladd bron bum gwaith yn uwch mewn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ar 31mya (50 cilomedr yr awr) o'i gymharu â'r un math o wrthdrawiad ar 18.6mya (30 cilomedr yr awr).

Ar y pwynt y byddai car 20mya wedi stopio, byddai car 30mya yn dal i fod yn gwneud 24mya.

Anghydraddoldebau iechyd

Yn ei achos dros newid, mae adroddiad y Grŵp Tasglu yn cyfeirio at anghydraddoldebau iechyd presennol, er enghraifft, y cysylltiad rhwng anafiadau traffig a thlodi. Mae marwolaethau plant sy'n cerdded mewn cymdogaethau difreintiedig dros bedair gwaith yn uwch na’r rhai mewn cymdogaethau cefnog. Mae un adroddiad yn awgrymu bod hyn yn rhannol oherwydd bod cerbydau'n cymryd llwbr byrrach drwy strydoedd preswyl ynghyd â'r tebygolrwydd llai y bydd gan blant ardd neu iard chwarae yn agos i'w cartrefi.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi mai traffig sy'n symud yn gyflym yw un o ofnau mwyaf rhieni wrth benderfynu sut mae eu plant yn teithio i'r ysgol. Canfu fod teithio mewn car o ganlyniad i’r ofn hwnnw yn cael effaith ddeuol o gynyddu traffig ar y ffyrdd tra hefyd yn arwain at ddiffyg ymarfer corff ar draws oes y plentyn, gan achosi 'anghydraddoldebau cymdeithasol, corfforol ac iechyd meddwl pellach'.

Beth sy'n cael ei gynnig?

Dim ond tua 1 y cant o’r rhwydwaith ffyrdd trefol yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn destun cyfyngiadau 20 milltir yr awr, er bod y rhan fwyaf o ffyrdd yn gwasanaethu ardaloedd preswyl yn unig. Ar hyn o bryd, gall yr awdurdod priffyrdd newid cyflymder ffordd i 20 milltir yr awr gan ddefnyddio Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ac mae angen dangos arwyddion rheolaidd er mwyn dangos bod terfyn cyflymder gwahanol ar y ffordd honno. Mae awdurdodau lleol wedi nodi bod cost a chymhlethdod hyn yn rhwystr i gyflwyno terfynau 20 milltir yr awr.

Mae Llywodraeth Cymru felly yn cynnig newid y terfyn cyflymder cenedlaethol safonol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya.

Ym mis Tachwedd 2020 cynhaliodd Llywodraeth Cymru arolwg cenedlaethol a chanfod bod cefnogaeth gref i'r cynlluniau, yn enwedig ymhlith rhieni neu'r rhai a oedd yn byw gyda phlant:

Wedyn gofynnwyd i'r holl gyfranogwyr yn uniongyrchol a fyddent o blaid terfyn cyflymder o 20mya yn yr ardal yr oeddent yn byw ynddi. Dywedodd pedwar o bob pum oedolyn yng Nghymru (80%) y byddent, o'u cymharu ag un o bob pump (20%) a ddywedodd na fyddent.

Yn dilyn hyn, dechreuodd cynllun peilot yn 2021 i gyflwyno terfynau 20mya mewn wyth ardal ledled Cymru. Nod hyn yw datblygu trefniadau gorfodi a datrys unrhyw broblemau nad oedd modd eu rhagwelwyd cyn cyflwyno’r terfynau cyflymder yn llawn, a gynlluniwyd ar gyfer 2023.

Nid pawb sy’n cefnogi’r polisi hwn. Er i Lywodraeth Cymru weld bod cefnogaeth i’r polisi yn y data arolwg ac mewn grwpiau ffocws, nododd 53 y cant o'r ymatebion i'w hymgynghoriad ar y cynigion eu bod yn ei wrthwynebu. Roedd rhai o'r rhesymau a roddwyd yn cynnwys amseroedd teithio hirach, mwy o dagfeydd, a’r ffaith y gallai 'gythruddo' gyrwyr. Mae Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn ystyried deiseb sy'n gwrthwynebu'r dull cenedlaethol o osod terfyn cyflymder safonol o 20mya.

O dan y cynigion, ni fyddai newid y terfyn cyflymder safonol yn effeithio ar bwerau awdurdodau lleol i bennu terfynau cyflymder lleol, yn hytrach, byddai'n gwrthdroi'r broses. Byddai eithriadau i 20mya yn gofyn am Orchymyn Rheoleiddio Traffig lle gellir cyfiawnhau cyflymder uwch. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi datblygu offeryn i gynorthwyo awdurdodau i gyflawni dull cyson o wneud eithriadau ledled Cymru.

Y broses ddeddfwriaethol

Yn dilyn dadl yn y Senedd ym mis Gorffennaf 2020, roedd cefnogaeth drawsbleidiol i fwriad Llywodraeth Cymru i ddechrau’r broses o ddiwygio’r terfynau cyflymder, gyda 45 o 53 o Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio o blaid.

Mae Adran 81 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i gynyddu neu ostwng y terfyn cyflymder ar gyfer ffyrdd cyfyngedig. Byddai angen i'r Senedd basio hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol, h.y. byddai angen pleidlais arall i gymeradwyo'r ddeddfwriaeth.

Roedd y cyhoeddiad ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021 yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon o fewn blwyddyn gyntaf y Senedd. Gosododd Llywodraeth Cymru yr offeryn statudol drafft ar 21 Mehefin, gyda’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn wedi’i threfnu ar gyfer 12 Gorffennaf. Gallwch wylio’n fyw ar Senedd.tv.


Erthygl gan Rhiannon Hardiman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru