Ar 5 Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog bum Bil newydd i’w cyflwyno eleni. Bydd y rhain yn gweithio tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu “Cymru decach, wyrddach a chryfach”.
Mae Rhaglen Ddeddfwriaethol ar gyfer 2022-23 Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a diogelu'r amgylchedd. Mae’n cynnwys cynlluniau i wahardd gwerthu plastigau untro, creu fframwaith newydd i gefnogi ffermwyr, a lleihau’r tebygolrwydd o dirlithriadau o domenni glo nas defnyddir.
Tynnodd y Prif Weinidog sylw at yr effaith y mae is-ddeddfwriaeth, yn enwedig yn ymwneud â Covid-19 ac ymadael â’r UE, yn parhau i’w chael ar lwyth gwaith Llywodraeth Cymru a’r Senedd.
Awgrymodd hefyd fod ‘bwriadau’ deddfwriaethol presennol Llywodraeth y DU yn creu “risg sylweddol i Gymru ac i ddatganoli”.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar y pum cynnig, ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen ddeddfwriaethol ehangach.
Pa Filiau newydd sy'n cael eu cynnig?
Yn ei ddatganiad, nododd y Prif Weinidog bum Bil y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno eleni.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil i wahardd neu gyfyngu ar werthu rhai plastigau untro, megis gwellt a chytleri plastig.
Mae'r Prif Weinidog yn gobeithio defnyddio’r ddeddfwriaeth hon fel achos prawf fel rhan o her gyfreithiol barhaus Llywodraeth Cymru i weld a yw Deddf Marchnad Fewnol 2020 y DU yn cyfyngu ar effaith ymarferol cyfraith Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog y bydd yn ceisio cyflwyno'r Bil drwy broses ‘hwyluso’ i gynorthwyo’r her gyfreithiol hon.
Yn dilyn y Papur Gwyn ar Aer Glân a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Aer Glân i gyflwyno targedau ansawdd aer “uchelgeisiol” a fframwaith rheoleiddio mwy cadarn i leihau allyriadau niweidiol a gwella ansawdd aer.
Bydd y Bil hwn, a oedd yn rhan o Raglen Ddeddfwriaethol y llynedd, yn diwygio’r gefnogaeth i amaethyddiaeth Cymru, gyda phwyslais ar “gynhyrchu bwyd sy'n gynaliadwy ac o ansawdd uchel” a “gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â hynny”.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amlinelliad o Gynllun Ffermio Cynaliadwy, a bydd yn ymgynghori yn ei gylch cyn cyflwyno’r Bil yn yr hydref.
Yn dilyn gwaith a wnaed gan y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo a Chomisiwn y Gyfraith, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn ar Ddiogelwch Tip Glo ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mai 2022.
Bydd casgliadau’r ymgynghoriad hwn yn llywio Bil i sefydlu “dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomennydd glo segur” i ddiogelu cymunedau a’r amgylchedd, a chefnogi seilwaith hollbwysig drwy leihau’r tebygolrwydd o dirlithriadau.
Gwnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli pwerau pellach i Lywodraeth Cymru i roi cydsyniad i brosiectau seilwaith mawr ar y tir ac ar y môr.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar broses gydsynio newydd yn 2018. Bydd y cynigion hyn yn llywio Bil i symleiddio’r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr a byddant yn cyflwyno gofyniad unigol ar gyfer cydsyniad i lunio a gweithredu prosiect.
Beth am is-ddeddfwriaeth?
Tynnodd y Prif Weinidog sylw at bwysigrwydd is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â chyflawni Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae is-ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys cyfreithiau ar y cwricwlwm i Gymru a therfynau cyflymder diofyn o 20mya.
Dywedodd y Prif Weinidog fod rheoliadau ar y Pandemig Covid-19 a’r ymadawiad â’r UE wedi effeithio’n sylweddol ar lwyth gwaith Llywodraeth Cymru a’r Senedd. Bydd deddfwriaeth ymadael â’r UE yn parhau i gael ei chyflwyno tan ddiwedd y flwyddyn hon.
Hefyd, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau eleni i weithredu'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ac agweddau ar Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, megis y 'Ddyletswydd Gonestrwydd'.
Beth fu’r ymateb i’r rhaglen?
Gwnaeth Aelodau o bob plaid groesawu llawer o’r Biliau yn y rhaglen, ond codwyd pryderon am Filiau a gafodd eu hepgor. Adleisiodd rhai Aelodau bryderon y Prif Weinidog ynghylch nifer y Biliau sy’n cael eu gwneud yn Senedd y DU mewn meysydd datganoledig fel “risg sylweddol i Gymru ac i ddatganoli”.
Croesawodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, lawer o feysydd y Rhaglen, megis y Bil ar aer glân, y Bil ar ddiogelwch tomenni glo, a chynlluniau i wahardd plastigau untro, ond mynegodd siom ynghylch diffyg Biliau ar awtistiaeth ac Iaith Arwyddion Prydain. Galwodd ar y Prif Weinidog i gefnogi cynigion Peter Fox AS ar gyfer Bil Bwyd.
Cefnogodd Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru, lawer o’r Biliau yn y Rhaglen, ond beirniadodd nifer y Biliau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno (pump o gymharu â chyfartaledd o 15 yn Senedd yr Alban a 14 yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon). Galwodd am fwy o gapasiti i gefnogi Biliau Aelodau a Phwyllgorau.
Cododd nifer o Aelodau bryderon hefyd ynghylch absenoldeb Bil ar lywodraethu amgylcheddol. Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud bod y trefniadau dros dro sydd ar waith yn “gweithio’n foddhaol” fel mesur interim ac y bydd Bil yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon.
Beth yw hynt Biliau cyfredol?
Mae’r Senedd yn dal i ystyried pedwar Bil a gyflwynwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae’r siart isod yn dangos y diweddaraf am y Biliau hyn.
Mae'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a’r Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) ill dau yn cyrraedd diwedd eu taith drwy'r Senedd. Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). ei gyflwyno ar 7 Mehefin 2022.
Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sef Bil Cydgrynhoi cyntaf y Senedd, ei gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2022. Mae Biliau Cydgrynhoi yn dilyn gweithdrefn wahanol yn y Senedd.
Edrych tua'r dyfodol
Yn ogystal â’r Biliau arfaethedig, amlinellodd y Prif Weinidog ei fwriad i gyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth cyn diwedd 2023 ar gynigion ar gyfer Diwygio'r Senedd, rheoleiddio Gwasanaethau Bysiau a diwygio’r Dreth Gyngor drwy Fil Cyllid Llywodraeth Leol. Ar ben hynny, fe ymchwilir i opsiynau ar gyfer diwygio ardrethi annomestig.
Mater i’r Senedd fydd ystyried a ddylai’r Biliau a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog, a’r rhai sydd ar y gweill, ddod yn gyfraith.
Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru