Llun o safle adeiladu tai sydd â thai ar wahanol gamau adeiladu, a pheiriannau trwm yn y blaen.

Llun o safle adeiladu tai sydd â thai ar wahanol gamau adeiladu, a pheiriannau trwm yn y blaen.

Y Gyfres Cynllunio: Caniatâd cynllunio a datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt

Cyhoeddwyd 17/09/2021   |   Amser darllen munudau

Rydym wedi diweddaru ein hysbysiadau hwylus ar ganiatâd cynllunio a datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt.

Mae ein papur briffio ar ganiatâd cynllunio yn egluro beth yw caniatâd cynllunio, yn disgrifio'r gwahanol fathau o ganiatâd cynllunio ac yn nodi sut mae penderfyniadau cynllunio yn cael eu gwneud. Mae hefyd yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â chais, a sut y gall datblygwyr apelio yn erbyn penderfyniad.

Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Cynllunio 4 - Caniatâd cynllunio

Mae ein papur briffio ar ddatblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt yn nodi'r mathau o ddatblygiadau nad oes angen caniatâd arnynt, ac yn egluro beth yw datblygiad a ganiateir. Mae hefyd yn cyfeirio at y newidiadau diweddaraf i hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru.

Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Cynllunio 3 – Datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt

Erthygl gan Aoife Mahon, Francesca Howorth and Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru