Mae cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach fel arfer yn cynnwys gosod paneli solar a thyrbinau gwynt mewn eiddo domestig ac annomestig. Mae enghreifftiau eraill o dechnolegau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer a phympiau gwres o’r ddaear, systemau biomas a systemau gwres a phŵer cyfunedig (CHP).
Mae'r canllaw cyflym hwn yn edrych ar sut mae'r math hwn o ddatblygiad yn cael ei reoli, pa fath o offer sy'n cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir, a phryd mae angen gwneud cais cynllunio.
Erthygl gan Rhiannon Hardiman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru