Llun o weithiwr adeiladu yn adeiladu ffordd.

Llun o weithiwr adeiladu yn adeiladu ffordd.

Y Gronfa Twf Lleol: pa mor effeithiol y bydd yn sbarduno datblygiad rhanbarthol?

Cyhoeddwyd 09/03/2026

Dywed yr Athro Kevin Morgan fod gan Gymru un o'r problemau datblygu economaidd mwyaf yng Ngorllewin Ewrop. Bydd y Gronfa Twf Lleol newydd, a fydd yn disodli'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.

Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar y Gronfa Twf Lleol ar 11 Mawrth, mae'r erthygl hon yn amlinellu'r heriau economaidd y mae'r gronfa yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Mae hefyd yn trafod sut y bydd y dyluniad arfaethedig a'r dull o gyflawni'r gronfa yn effeithio ar ba mor effeithiol ydyw wrth gyfrannu at fynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae ein herthygl fis Rhagfyr diwethaf yn nodi sut y bydd y Gronfa Twf Lleol yn gweithredu.

Pa heriau bydd y Gronfa Twf Lleol yn ceisio eu datrys?

Mae’r Athro Morgan yn tynnu sylw at y ffaith bod Cymru yn agosáu at ganrif o ddirywiad economaidd cymharol. Mae wedi galw am rymuster aruthrol ac ystyriaeth aml-flwyddyn i ddechrau mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu economi Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio’r Gronfa Twf Lleol ar gyfer "cefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael â materion sy’n arwain at anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru". Mae'r ffigurau diweddaraf o 2023 yn dangos bod Cynnyrch Domestig Gros y pen yng Nghymru yn 73.6% o gyfartaledd y DU a bod ein cynhyrchiant y pen yn 84.9% o gyfartaledd y DU. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn amlygu bod ein lefelau gwerth ychwanegol gros neu gynhyrchiant cyffredinol [y pen] fwy neu lai lle'r oeddent 25 i 30 mlynedd yn ôl fel cyfran o gyfartaledd y DU. Er bod diweithdra yn is ar hyn o bryd na chyfartaledd y DU, mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfartaledd y DU am lawer o'r deng mlynedd diwethaf.

Mae yna hefyd amrywiad sylweddol mewn perfformiad economaidd ar draws gwahanol rannau o Gymru.

I ba raddau y bydd y Gronfa Twf Lleol yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn?

Fe wnaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru dynnu sylw at y ffaith na fydd un ffrwd ariannu yn newid perfformiad economaidd Cymru ar ei phen ei hun:

…let's be under no illusion: this isn't the policy lever that's going to change Wales's economic fortunes; it's a supplement, not the answer on its own.

Mae rhanddeiliaid yn gytûn mai’r blaenoriaethau cywir yw’r meysydd y bydd y Gronfa Twf Lleol yn eu cwmpasu. Nodwyd yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru fod "cefnogaeth gref i ganolbwyntio ar anweithgarwch economaidd, bylchau mewn cynhyrchiant ac anghydraddoldebau". Fodd bynnag, mae pryderon am ddyluniad arfaethedig y Gronfa Twf Lleol o ran sicrhau'r manteision mwyaf posibl. Er enghraifft, mae’r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol (ICA) yn dweud fel hyn am y cynigion presennol:

…we won't have the big vision, we won't have the transformative projects that we really need to have, and we certainly won't have the capability of having anything like a long-term programme for investment.

Bydd gostyngiadau cyllid hefyd yn cynnig her. Mae Llywodraeth y DU yn darparu £547 miliwn i Gymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol rhwng 2026-27 a 2028-29, sydd tua £182 miliwn y flwyddyn. Mae’r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol (ICA) yn cyfrifo bod y cyllid blynyddol y bydd Cymru'n ei gael drwy'r Gronfa Twf Lleol wedi cael ei leihau bron i hanner o'i gymharu â lefel y cyllid a gafodd Cymru drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2024-25. Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn "siomedig gyda’r gostyngiad mawr yn y cyllid y bydd Cymru yn ei gael” o’i gymharu â’r ffrydiau ariannu blaenorol.

Sut fydd dyraniadau refeniw a chyfalaf yn effeithio ar ddarpariaeth y gronfa?

Yng Nghymru, bydd y Gronfa Twf Lleol yn cynnwys tua 70% o gyllid cyfalaf (gwariant ar asedau sefydlog fel adeiladau ac offer) a 30% o gyllid refeniw (gwariant ar gostau o ddydd i ddydd fel cyflogau). Mae hwn yn newid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a oedd yn cynnwys cyllid refeniw yn bennaf, ac mae yn gyson â dull Llywodraeth y DU o ymdrin â strategaeth ddiwydiannol. Mae sefyllfa’r Gronfa Twf Lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr. Bydd y Gronfa Twf Lleol yn Lloegr yn newid o gynnwys tua 25% o gyfalaf a 75% o refeniw yn 2026-27 i tua 60% o gyfalaf a 40% o refeniw yn 2028-29.

Bydd heriau sylweddol yn gysylltiedig â darparu cronfa gyfalaf yn bennaf, sy'n para am dair blynedd. Nododd yr ICA na weithiodd hyn o’r blaen:

We had thought the Treasury had learnt the lesson, so clearly demonstrated by Johnson-era levelling up initiatives, that it is unrealistic to expect meaningful capital projects to be delivered on short timescales.

Er gwaethaf yr heriau a amlinellwyd, mae yna ffyrdd o wario cyllid cyfalaf dros gyfnod byr a allai fod yn effeithiol. Dywedodd yr Athro Paul Boyle wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y gallai prifysgolion gynyddu twf a chynhyrchiant trwy fuddsoddi mewn offer. Dywedodd yr Athro Morgan y byddai canolbwyntio o ddifri ar safleoedd ac eiddo yn cael effaith wirioneddol.

Clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig bryder cyffredin ynghylch y rhaniad cyfalaf-refeniw, oherwydd yr effaith bosibl y bydd yn ei chael ar swyddi mewn awdurdodau lleol. Esboniodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe fel a ganlyn:

One of the challenges with the split that’s been proposed in terms of revenue/capital is that we’ve got, across Wales, over 2,000 people employed on programmes that are supported through the current SPF programme, through the revenue that’s provided.

Mae Llywodraeth Cymru yn “anhapus iawn” gyda’r rhaniad presennol, ac mae wedi ceisio lliniaru sgil-effeithiau posibl drwy gyflwyno blwyddyn bontio ar gyfer y gronfa, a fydd yn defnyddio mecanweithiau presennol cyflawni’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn dyrannu cyllid yn yr un modd â'r Gronfa honno.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cwrdd â Llywodraeth y DU i geisio newid y drefn, ond nid yw'n meddwl "ein bod mewn sefyllfa nawr lle rydyn ni'n mynd i weld newid meddwl gan Lywodraeth y DU ar y pwynt penodol hwnnw”. Dywedodd Llywodraeth y DU wrth yr Ysgrifennydd Cabinet, pan fydd y Gronfa Dwf Faerol Gylchol sydd ar gyfer Lloegr yn unig, wedi’i chyfuno â'r Gronfa Twf Lleol, bydd gan Awdurdodau Strategol Maerol Lloegr hefyd raniad o tua 70% o gyfalaf a 30% o refeniw. Ni chafodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig eu hargyhoeddi gan yr esboniad hwn, gan nad oedd yn credu ei bod yn gymhariaeth debyg at ei thebyg.

Pa rolau y dylai sefydliadau eu chwarae wrth ddarparu'r gronfa?

Bu anghydfodau ynghylch pa lefel o lywodraeth ddylai gyflwyno rhaglenni datblygu rhanbarthol yn nodwedd o fentrau diweddar. Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd rhai ymyriadau Cronfa Twf Lleol ar gyfer Cymru-gyfan, ond y bydd y mwyafrif yn cael eu datblygu'n rhanbarthol yn dilyn y cyfnod pontio, gan Gyd-bwyllgorau Corfforaethol.

Wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, roedd rhai "yn mynegi pryder ynghylch capasiti presennol y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, aeddfedrwydd llywodraethu a chynrychiolaeth sectoraidd". Fe wnaeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig dynnu sylw at heriau yr oedd rhai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi'u hwynebu wrth gyflawni bargeinion dinesig a thwf ac wrth gyfeirio buddsoddiad tuag at ardaloedd mwy difreintiedig yn economaidd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai'n gweithio gyda llywodraeth leol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o'r flwyddyn bontio i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd. Dywedodd fod Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi'u dewis am y rhesymau a ganlyn:

Strategic economic development, regional transport planning and land use planning are going to be core levers that will be required to underpin regional growth and will be crucial to the success of the local growth fund.

Mae penderfyniadau ynghylch y Gronfa Twf Lleol wedi dod yn ôl at Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd i'r Senedd ar berfformiad y gronfa, ac i Lywodraeth y DU drwy adolygiad blynyddol. Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet y cynnig bod Llywodraeth y DU yn goruchwylio fel perthynas â chyffyrddiad ysgafn iawn o'i gymharu â gweithio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ar Gronfeydd Strwythurol yr UE. Fodd bynnag, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn pryderu am faint o reolaeth fydd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r gronfa. Mae wedi galw am egluro'r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y mae’r ddwy lywodraeth wrthi’n ei lunio ar gyfer y Gronfa Twf.

Beth sydd nesaf?

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun buddsoddi, ac mae'n gobeithio cwblhau ei Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r gronfa, cyn i'r gronfa ddechrau yn 2026-27.

Gallwch wylio'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Senedd TV.

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.