Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cyrraedd cyfnod olaf gwaith craffu’r Senedd

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/12/2020   |   Amser darllen munudau

Dyma ddiweddariad o erthygl flaenorol a gyhoeddwyd ar 25 Medi 2020

Mae Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf Llywodraeth Cymru ar fin cyrraedd ei gyfnod craffu olaf yn y Senedd – sef dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 25 Tachwedd dan arweiniad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Mae'r erthygl hon yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am y Fframwaith, ac yn cynnwys lincs i’r prif ddogfennau.

Neidio:

Beth yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a pham ei fod yn bwysig?

Beth yw’r prif bolisïau yn y Fframwaith drafft?

Sut mae ‘map’ y Fframwaith drafft yn edrych?

Beth fydd y Senedd yn ei drafod yn y ddadl?

Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar y Fframwaith drafft?

Sut cafodd y Fframwaith drafft ei ddatblygu?

Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar fersiynau blaenorol o’r Fframwaith drafft?

Sut y mae’r Fframwaith drafft wedi newid o ganlyniad i’r gwaith craffu?

Beth yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a pham ei fod yn bwysig?

Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn strategaeth ofodol genedlaethol 20 mlynedd newydd. Mae'n nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac fe’i gelwir yn 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040'.

Mae’n ddogfen bwysig oherwydd bod ganddi statws ‘cynllun datblygu’.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau cynllunio yn unol â’r Fframwaith. Rhaid i gynlluniau eraill – sef Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) (nad ydynt wedi’u cyflwyno eto) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) – gyd-fynd â’r Fframwaith.

Nid oedd gan ragflaenydd y Fframwaith - Cynllun Gofodol Cymru - statws cynllun datblygu.

Mae’n ofynnol, o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, cyhoeddi FfDC a rhaid ei adolygu bob pum mlynedd o leiaf.

Caiff ei ystyried ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru – a bydd ar frig hierarchaeth polisïau cynllunio.

Beth yw’r prif bolisïau yn y Fframwaith drafft?

Mae’r polisïau yn yr FfDC drafft yn cynnwys:

  • tair ‘Ardal Dwf Genedlaethol’ lle bydd twf sylweddol ym maes cyflogaeth a thai, a buddsoddi mewn seilwaith
    • Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd;
    • Bae Abertawe a Llanelli; a
    • Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
  • tair ‘Ardal Dwf Ranbarthol’ i gyd-fynd â’r Ardaloedd Twf Cenedlaethol:
    • y De-orllewin;
    • y Canolbarth; a
    • y Gogledd.
  • pedwar rhanbarth, a Chynllun Datblygu Strategol ar gyfer pob un;
  • nifer benodol o gartrefi newydd i’w codi ym mhob rhanbarth erbyn 2039 (amcangyfrif yw’r niferoedd hyn, yn seiliedig ar y data presennol. Nid yw’n ofynnol cadw at y niferoedd hyn ac nid targedau ydynt):
    • y Gogledd - 16,200;
    • y Canolbarth - 1,800;
    • y De-orllewin - 25,600; a
    • y De-ddwyrain - 66,400.
  • bydd 48 y cant o gartrefi newydd yng Nghymru yn dai fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd gyntaf;
  • rhoi canol trefi yn gyntaf, llywio twf ac adfywio trefol drwy greu lleoedd a drwy ddatblygu arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus;
  • gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol;
  • hybu cynlluniau ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel ar raddfa eang ac ar raddfa fach;
  • hybu cyfathrebu digidol;
  • rheoli peryglon llifogydd;
  • hybu cymunedau gwledig a’r economi wledig; a
  • datblygu coedwig genedlaethol, parc rhanbarthol y Cymoedd; lleiniau glas a rhwydweithiau ecolegol a seilwaith gwyrdd cydnerth.

Sut mae ‘map’ y Fframwaith drafft yn edrych?

Dyma ddiagram strategol o’r FfDC drafft:

Beth fydd y Senedd yn ei drafod yn y ddadl?

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gerbron y Senedd am ‘gyfnod trafod’ o 60 diwrnod. Mae’n rhaid i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gynnwys adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori a sut mae Llywodraeth Cymru wedi eu dwyn i ystyriaeth.

Gosododd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yr FfDC drafft ac adroddiad yr ymgynghoriad gerbron y Senedd ar 21 Medi ac, wrth wneud hynny, dechreuodd y cyfnod o 60 diwrnod.

Yn ei datganiad, dywedodd y bydd y Fframwaith yn “sicrhau datgarboneiddio, ecosystemau cydnerth a chynhwysol, a thwf economaidd teg.”

Hefyd, cyhoeddodd nifer o ddogfennau eraill gan gynnwys dogfen yn cynnwys newidiadau i’r Fframwaith drafft a ymgynghorwyd yn ei chylch yn 2019 a dogfen yn esbonio sut y bydd yr FfDC yn cael ei fonitro.

Ni all y Senedd 'gymeradwyo' y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Yn hytrach, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried penderfyniadau neu argymhellion a wneir gan y Senedd – neu unrhyw un o'i bwyllgorau – wrth benderfynu a ddylid diwygio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ai peidio. Rhaid iddi gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol terfynol sy’n nodi sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol terfynol ym mis Chwefror 2021.

Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar y Fframwaith drafft?

Arweiniodd Llywodraeth Cymru ddadl yn y Senedd ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ar ôl ei osod ym mis Medi.

Yn dilyn y ddadl, craffodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr FfDC drafft yn fanylach. Mae adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd, yn nodi’r newidiadau sylweddol a wnaed i’r FfDC drafft yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor ar y fersiwn flaenorol yn 2019 (gweler isod am ragor o wybodaeth am hyn).

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys:

  • mwy o bwyslais ar yr adferiad ar ôl y pandemig;
  • nodi y dylai fod perthynas ailadroddol rhwng Cynlluniau Datblygu Strategol a bargeinion twf, sy’n mynd y ddwy ffordd;
  • rhoi mwy o gyfeiriad o ran risg llifogydd ac addasu arfordirol, yn enwedig mewn perthynas ag ardaloedd twf;
  • rhoi strategaeth ar waith i wella’r seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan, gan gynnwys yng nghanolbarth Cymru;
  • sicrhau aliniad rhwng yr FfDC a'r Cynllun Morol Cenedlaethol fel nad yw gwaith datblygu ar dir yn atal prosiectau ynni adnewyddadwy posibl ar y môr yn y dyfodol;
  • cynnwys datganiad mai'r FfDC yw haen uchaf y cynllun datblygu, ac y bydd Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael eu hasesu yn eu herbyn; a
  • mwy o bwyslais ar wella’r cysylltiad rhwng gogledd a de Cymru a chysylltiadau trafnidiaeth rhyngranbarthol eraill o bwysigrwydd cenedlaethol.

Cyhoeddodd Gwasanaeth Ymchwil y Senedd bapur briffio i gefnogi gwaith craffu’r Pwyllgor.

Edrychodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu hefyd ar yr FfDC drafft. Ysgrifennodd at y Gweinidog ar 18 Tachwedd yn gwneud argymhellion ar:

  • yr iaith Gymraeg;
  • atebolrwydd ar y lefel ranbarthol;
  • cydbwysedd y ffocws rhwng ardaloedd gwledig a threfol;
  • a thai fforddiadwy.

Y ddadl ar 25 Tachwedd fydd y cyfnod olaf ym mhroses graffu’r Senedd. Bydd yn cael ei harwain gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a bydd pob Aelod o'r Senedd yn cael cyfle i drafod canfyddiadau'r Pwyllgorau a rhoi eu barn.

Sut cafodd y Fframwaith drafft ei ddatblygu?

Dechreuodd y gwaith i ddatblygu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn 2016. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llinell amser yn dangos y gwahanol gamau sy'n gysylltiedig â datblygu'r Fframwaith. Mae hyn yn cynnwys:

  • datblygu Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd (Ionawr – Medi 2016);
  • casglu tystiolaeth ac ymgymryd â gwaith ymgysylltu i ddatblygu gweledigaeth, amcanion a dewisiadau ar gyfer y Fframwaith (Hydref 2016 – Mawrth 2018);
  • cyhoeddi ac ymgynghori ynghylch materion, dewisiadau a’r dewis a ffefrir o ran y Fframwaith, gyda chymorth asesiadau ac adroddiadau amgylcheddol (Ebrill 2018 – Gorffennaf 2018);
  • trafod ymatebion i’r ymgynghoriad ar y dewis a ffefrir a pharatoi'r Fframwaith drafft (Gorffennaf 2018 – Awst 2019);
  • ymgynghori ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, trafod ymatebion a pharatoi adroddiad yr ymgynghoriad (Awst 2019 – Mehefin 2020);
  • y Senedd i drafod yr FfDC drafft a’r newidiadau arfaethedig (Medi – Tachwedd 2020); a
  • chyhoeddi'r Fframwaith terfynol (Chwefror 2020).

Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar fersiynau blaenorol o’r Fframwaith drafft?

Bu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar y dewis a ffefrir ar gyfer y Fframwaith ym mis Mehefin 2018. Yna, ysgrifennodd at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad ar amrywiaeth o faterion. Ymatebodd y Gweinidog ym mis Medi 2018.

Craffodd y Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ar ddiwedd 2019. Lluniodd Adroddiad y Pwyllgor – a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr – 50 o gasgliadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i gasgliadau'r Pwyllgor wedi'i gynnwys yn adroddiad yr ymgynghoriad a osodwyd ar 21 Medi.

Trafododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr FfDC drafft hefyd, a hynny ym mis Tachwedd 2019, ac ysgrifennodd at y Gweinidog. Unwaith eto, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn adroddiad yr ymgynghoriad.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd bapur ymchwil i gynorthwyo’r Pwyllgorau i graffu ar y Fframwaith drafft bryd hynny.

Cafodd Ludi Simpson, Athro Astudiaethau Poblogaeth ym Mhrifysgol Manceinion, ei gomisiynu gennym o dan Gynllun Cymrodoriaeth Ymchwil y Senedd, i adolygu nifer y tai roedd yr FfDC drafft yn amcangyfrif yr oedd eu hangen.

Sut y mae’r Fframwaith drafft wedi newid o ganlyniad i’r gwaith craffu?

Mae’r newidiadau sylweddol yn yr FfDC drafft sy’n cyd-fynd â chasgliadau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnwys y canlynol:

  • cysylltiadau cliriach â dogfennau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cynllun Carbon Isel Cymru, y Strategaeth Drafnidiaeth a Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru;
  • rhoi rhagor o fanylion am y modd y caiff yr FfDC ei fonitro a’i adolygu;
  • cryfhau'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol o ran ymateb i newid yn yr hinsawdd, er enghraifft trwy gynnwys polisi newydd ar reoli risg llifogydd; a
  • rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio meini prawf wrth ystyried datblygiadau ynni adnewyddadwy.

Roedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’n credu nad oedd yr FfDC drafft yn ddigon uchelgeisiol, ond gwrthododd Llywodraeth Cymru yr asesiad hwn yn bendant gan ddweud bod yr FfDC yn cynnwys polisïau “i’w gwneud yn bosibl i welliannau radical gael eu gwneud i olwg lleoedd a’r ffordd y maent yn gweithredu”.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bryderon y Pwyllgor o ran y diffyg cynnydd ar y lefel ranbarthol, gan ddweud bod yBil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn mandadu paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol. Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd â sylwadau’r Pwyllgor ar gryfhau cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru a rhwng Cymru a mannau eraill.

Roedd yn well gan y ddau Bwyllgor rannu Cymru yn bedwar rhanbarth yn hytrach na’n dri, fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Cytunodd Llywodraeth Cymru â hyn.

Bydd dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y FfDC drafft yn cael ei chynnal brynhawn Mercher 25 Tachwedd. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru