Cyhoeddwyd 15/05/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
15 Mai 2015
Erthygl gan Anike Igunnu, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru
Hwyluso'r Drefn
Ym mis Awst 2011, cyhoeddodd Alun Davies, sef y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ar y pryd, y byddai adolygiad o'r baich rheoleiddio ar ffermwyr a rheolwyr tir Cymru. Penodwyd Gareth Williams gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad annibynnol. Cylch gorchwyl yr adolygiad oedd:
- sicrhau gwell rheoleiddio o fewn fframwaith priodol;
- gwella gwasanaeth cwsmeriaid i’r ffermwyr; a
- sicrhau sector mwy proffidiol o safbwynt busnes.
Cyhoeddwyd canfyddiadau'r adolygiad,
Hwyluso'r Drefn - Adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes ffermio, ym mis Rhagfyr 2011, a chafodd 74 o argymhellion eu gwneud i Lywodraeth Cymru. Roedd tair amserlen ar gyfer cyflawni'r argymhellion hyn, sef enillion cyflym (Q), tymor byr (S), a thymor canolig (M). Yn ôl yr adroddiad:
- erbyn mis Gorffennaf 2012, rhaid i’r 20 o enillion cyflym fod ar waith, gan nodi cynnydd a pharodrwydd i ddatblygu.
- erbyn mis Gorffennaf 2013, rhaid i’r 35 o argymhellion tymor byr fod ar waith, rhai ohonynt yn allweddol i’r cyfnod terfynol.
- erbyn mis Gorffennaf 2015, rhaid i’r 19 o argymhellion tymor canolig fod ar waith yn llawn.
Mae'r adroddiad yn dweud y dylid ystyried unrhyw beth yn llai na’r canlyniadau hyn yn fethiant oni bai bod polisïau wedi pennu bod canlyniad gwahanol yn ddymunol.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 (
Datganiad Ysgrifenedig - Ymateb Llywodraeth Cymru i 'Hwyluso'r Drefn' - adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes ffermio a derbyniodd pob un o'r argymhellion. Yn dilyn hynny, gwahoddwyd Gareth Williams i adolygu gwaith Llywodraeth Cymru o ran cyflawni'r argymhellion.
Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw,
Hwyluso'r Drefn - Gweithio Gyda’n Gilydd i Hybu Twf Busnesau Fferm yng Nghymru, ym mis Mawrth 2013. Lliwiwyd yr argymhellion a oedd wedi'u cwblhau yn wyrdd, y rhai a oedd ar y gweill yn las, a'r argymhellion nad oedd wedi'u cychwyn ar ddyddiad yr adroddiad yn goch. Yr adeg honno, canfuwyd fod 29 o'r 74 argymhelliad wedi'u cwblhau, bod 39 argymhelliad ar y gweill, a bod 6 argymhelliad heb eu cychwyn. Yn ogystal â hynny, gwnaed pedwar argymhelliad arall.
Yna, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad arall,
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad diweddaru hwyluso’r drefn – Gweithio gyda’n gilydd i hybu twf busnesau fferm yng Nghymru ym mis Ebrill 2013.
Beth sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn?
Gweler isod enghreifftiau o argymhellion a oedd yn y parthau gwyrdd, glas a choch pan adroddodd Llywodraeth Cymru ddiwethaf ar hynt ei gwaith ddwy flynedd yn ôl.
Parth gwyrdd (wedi'u cwblhau)
- Dylid talu arian cyhoeddus i ffermwyr ar sail contract ffurfiol ym mhob achos - erbyn mis Ebrill 2012
- Llywodraeth Cymru i sicrhau hyfforddiant digonol i swyddogion cynllunio lleol - erbyn mis Hydref 2012
Parth glas (ar y gweill)
- Dylid sicrhau bod gan swyddogion sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â ffermwyr wybodaeth a dealltwriaeth - erbyn mis Rhagfyr 2013
- Rhaid i bob datblygiad polisi newydd gynnwys cynllun cyfathrebu - erbyn mis Gorffennaf 2013
Parth coch (eto i gychwyn)
- Dylid sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu hesbonio a'u cyfathrebu'n effeithiol - erbyn mis Gorffennaf 2013
- Dylai Taliadau Gwledig Cymru sefydlu tîm apeliadau arbenigol - erbyn mis Mai 2015
Ni fu unrhyw ddiweddariadau pellach ers mis Ebrill 2013 ar statws y 49 argymhelliad sy'n weddill. Roedd gofyn i Lywodraeth Cymru gwblhau pob un o'r 74 argymhelliad erbyn mis Gorffennaf 2015, ac mae'r dyddiad hwnnw ar y gorwel bellach.
*Llun o Flickr gan Chrissy Polcino. Trwyddedwyd gan Creative Commons.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg