Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau argymhellion "Hwyluso'r Drefn" yn agosáu

Cyhoeddwyd 15/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Mai 2015 Erthygl gan Anike Igunnu, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Delwedd o fuchod ar fferm

Hwyluso'r Drefn

Ym mis Awst 2011, cyhoeddodd Alun Davies, sef y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ar y pryd, y byddai adolygiad o'r baich rheoleiddio ar ffermwyr a rheolwyr tir Cymru. Penodwyd Gareth Williams gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad annibynnol. Cylch gorchwyl yr adolygiad oedd:
  • sicrhau gwell rheoleiddio o fewn fframwaith priodol;
  • gwella gwasanaeth cwsmeriaid i’r ffermwyr; a
  • sicrhau sector mwy proffidiol o safbwynt busnes.
Cyhoeddwyd canfyddiadau'r adolygiad, Hwyluso'r Drefn - Adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes ffermio, ym mis Rhagfyr 2011, a chafodd 74 o argymhellion eu gwneud i Lywodraeth Cymru. Roedd tair amserlen ar gyfer cyflawni'r argymhellion hyn, sef enillion cyflym (Q), tymor byr (S), a thymor canolig (M). Yn ôl yr adroddiad:
  • erbyn mis Gorffennaf 2012, rhaid i’r 20 o enillion cyflym fod ar waith, gan nodi cynnydd a pharodrwydd i ddatblygu.
  • erbyn mis Gorffennaf 2013, rhaid i’r 35 o argymhellion tymor byr fod ar waith, rhai ohonynt yn allweddol i’r cyfnod terfynol.
  • erbyn mis Gorffennaf 2015, rhaid i’r 19 o argymhellion tymor canolig fod ar waith yn llawn.
Mae'r adroddiad yn dweud y dylid ystyried unrhyw beth yn llai na’r canlyniadau hyn yn fethiant oni bai bod polisïau wedi pennu bod canlyniad gwahanol yn ddymunol. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 (Datganiad Ysgrifenedig - Ymateb Llywodraeth Cymru i 'Hwyluso'r Drefn'  - adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes ffermio a derbyniodd pob un o'r argymhellion. Yn dilyn hynny, gwahoddwyd Gareth Williams i adolygu gwaith Llywodraeth Cymru o ran cyflawni'r argymhellion. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw, Hwyluso'r Drefn - Gweithio Gyda’n Gilydd i Hybu Twf Busnesau Fferm yng Nghymru, ym mis Mawrth 2013.  Lliwiwyd yr argymhellion a oedd wedi'u cwblhau yn wyrdd, y rhai a oedd ar y gweill yn las, a'r argymhellion nad oedd wedi'u cychwyn ar ddyddiad yr adroddiad yn goch. Yr adeg honno, canfuwyd fod 29 o'r 74 argymhelliad wedi'u cwblhau, bod 39 argymhelliad ar y gweill, a bod 6 argymhelliad heb eu cychwyn.  Yn ogystal â hynny, gwnaed pedwar argymhelliad arall. Yna, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad arall, Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad diweddaru hwyluso’r drefn – Gweithio gyda’n gilydd i hybu twf busnesau fferm yng Nghymru ym mis Ebrill 2013.

Beth sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn?

Gweler isod enghreifftiau o argymhellion a oedd yn y parthau gwyrdd, glas a choch pan adroddodd Llywodraeth Cymru ddiwethaf ar hynt ei gwaith ddwy flynedd yn ôl.

Parth gwyrdd (wedi'u cwblhau)

  • Dylid talu arian cyhoeddus i ffermwyr ar sail contract ffurfiol ym mhob achos - erbyn mis Ebrill 2012
  • Llywodraeth Cymru i sicrhau hyfforddiant digonol i swyddogion cynllunio lleol - erbyn mis Hydref 2012

Parth glas (ar y gweill)

  • Dylid sicrhau bod gan swyddogion sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â ffermwyr wybodaeth a dealltwriaeth - erbyn mis Rhagfyr 2013
  • Rhaid i bob datblygiad polisi newydd gynnwys cynllun cyfathrebu - erbyn mis Gorffennaf 2013

Parth coch (eto i gychwyn)

  • Dylid sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu hesbonio a'u cyfathrebu'n effeithiol - erbyn mis Gorffennaf 2013
  • Dylai Taliadau Gwledig Cymru sefydlu tîm apeliadau arbenigol - erbyn mis Mai 2015
Ni fu unrhyw ddiweddariadau pellach ers mis Ebrill 2013 ar statws y 49 argymhelliad sy'n weddill.  Roedd gofyn i Lywodraeth Cymru gwblhau pob un o'r 74 argymhelliad erbyn mis Gorffennaf 2015, ac mae'r dyddiad hwnnw ar y gorwel bellach. *Llun o Flickr gan Chrissy Polcino. Trwyddedwyd gan Creative Commons. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg