Oedolion a phlant yn beicio ar Lwybr Arfordir Cymru yn Abertawe

Oedolion a phlant yn beicio ar Lwybr Arfordir Cymru yn Abertawe

Y Ddeddf Teithio Llesol: 10 mlynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 09/11/2023   |   Amser darllen munud

Yn gynnar ym mis Hydref daeth Aelodau, rhanddeiliaid a chefnogwyr ynghyd i nodi bod deng mlynedd wedi mynd heibio ers i Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) gael ei phasio’n unfrydol gan y Senedd. Disgrifiodd Sustrans y Ddeddf yn 2013 fel “deddfwriaeth arloesol”, ac roedd Llywodraeth Cymru â’r nod o weld “cerdded a beicio y ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas”.

Ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach, a yw wedi cyflawni'r hyn yr oedd am ei wneud?

Beth yw teithio llesol a beth yw'r manteision?

Mae 'teithio llesol' yn cyfeirio at deithiau bob dydd a wneir drwy gerdded, beicio neu deithio fel arall ar olwyn. Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar gerdded a seiclo at ddiben, fel teithio i'r ysgol neu’r gwaith, yn hytrach nag er hamdden yn unig.

Teithio llesol yw'r dull rhataf a mwyaf gwyrdd o deithio, felly dyma'r dull mwyaf hygyrch a chyfeillgar i'r hinsawdd. Canfu tystiolaeth o astudiaethau poblogaeth hydredol lluosog yn y DU bod teithio llesol yn helpu i gynnal a gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol drwy gydol oes unigolyn.

Canfu Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn 2022 hefyd fod cymudo llesol yn gysylltiedig â gostyngiad o tua 10 y cant yn y risg ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd a gostyngiad o 30 y cant yn y risg o ddiabetes math 2.

Mae adroddiad yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans ar deithio llesol a chostau byw yn awgrymu, yn ogystal â helpu unigolion i arbed arian, y gall teithio llesol hybu twf economaidd. Mae’n amlygu’r manteision i ganol trefi a strydoedd mawr ac mae gwaith ymchwil yn awgrymu y gall gwelliannau o ran cerdded a beicio gynyddu gwariant manwerthu lleol hyd at 30 y cant.

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?

Ymhlith darpariaethau eraill, mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i wella’r ddarpariaeth teithio llesol yn barhaus drwy sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNMs) bob tair blynedd sy’n dangos llwybrau teithio llesol presennol, ochr yn ochr â llwybrau llesol arfaethedig newydd.

Sut mae gwelliannau teithio llesol yn cael eu hariannu?

Ers 2018 mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi awdurdodau lleol yn bennaf drwy ei Chronfa Teithio Llesol. Mae hyn yn cynnwys dyraniad craidd i bob awdurdod, i wneud gwelliannau parhaus ar raddfa fach, gyda gweddill y cyllid yn amodol ar broses ymgeisio gystadleuol ar gyfer cynlluniau mwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid drwy fecanweithiau eraill, fel y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Yn 2016, dywedodd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad ar y pryd bod “diffyg cyllid penodol a diffyg arweinyddiaeth [yn golygu nad yw] y Ddeddf… yn cyrraedd ei llawn botensial”. Yn 2018, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (EIS) y Senedd waith craffu ar ôl-deddfu ar y Ddeddf. Un o'i argymhellion dilynol oedd y dylid pennu cyllid Llywodraeth Cymru ar £17-£20 y pen y flwyddyn.

Ffigur 1: Arian teithio llesol Llywodraeth Cymru per capita 2018-19 i 2023-4

 

Nodyn: Nid yw’r ffigurau’n cynnwys darpariaeth teithio llesol o fewn costau prosiectau ehangach, er enghraifft cynlluniau eraill ar gyfer ffyrdd neu drafnidiaeth gyhoeddus, cynlluniau aml-fod eraill neu gynlluniau teithio llesol a ariennir o gyllidebau awdurdodau lleol eu hunain.

Ffynhonnell: Papur gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 25 Ionawr 2023.

Er y cyrhaeddwyd y lefel hon yn 2021-22, y flwyddyn ganlynol bu gostyngiad o ran cyllid, er ei fod yn parhau wedi’i osod o fewn y paramedrau a argymhellwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn “ostyngiad tymor byr” ac awgrymwyd y byddai cyfanswm y cyllid yn cael ei osod ar £80 miliwn ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Ynghylch pam na chyrhaeddwyd y lefel hon ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

We're spending less than we had originally thought we would, and that's partly because…there are some real capacity and capability constraints across local government, and they simply haven't been able to spend all the money that we wanted them to spend.

A yw cyfraddau teithio llesol wedi cynyddu?

Er bod cyllid wedi cynyddu, nid yw hyn eto wedi trosi’n gynnydd o ran cyfraddau teithio llesol.

Roedd data a gasglwyd drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022-23 yn dangos bod 51 y cant o oedolion (16+ oed) yn cerdded, a 6 y cant o oedolion (16+ oed) yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol.

Dangosydd canlyniadau: Arolwg Cenedlaethol Cymru - teithio llesol

Dewiswch gwestiwn:
Yn cerdded (10 munud+) neu’n beicio o leiaf unwaith yr wythnos fel dull o deithio
Pa mor aml y defnyddiwyd beic i gyrraedd rhywle
Pa mor aml y gwnaethoch gerddodd am 10 munud i gyrraedd rhywle
Dewiswch ddadansoddiad:
Cyfanswm
Oedran
Rhyw
Iechyd
Salwch
Amddifadedd materol
Gwledig/trefol

Yn y tri mis diwethaf, pa mor aml ydych chi wedi cerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio?

Pob ymatebydd, 2017-18 i 2022-23

Mae’r bariau ansicrwydd yn adlewyrchu ansicrwydd wrth amcangyfrif gwerthoedd yn seiliedig ar sampl o faint cyfyngedig o ddata arolwg. Pan fydd gan bwyntiau data gyfyngau hyder sy’n gorgyffwrdd, mae’n dangos nad oes digon o dystiolaeth ystadegol i ddod i’r casgliad eu bod yn sylweddol wahanol i’w gilydd.
* Oherwydd pandemig Covid-19, newidiodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei ffordd o weithio o gasglu data wyneb yn wyneb i gasglu data dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer 2020-21 ymlaen. Dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau uniongyrchol â chanlyniadau cynharach.

Er nad yw’n bosibl cymharu cyfraddau teithio llesol yn uniongyrchol rhwng pan basiwyd y Ddeddf a nawr, gan fod dulliau casglu data a meintiau samplau wedi newid, nid yw’r data’n darparu unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod dim cynnydd sylweddol mewn teithio llesol ers 2013.

Beth ddylid ei wneud i newid y sefyllfa hon?

Yn 2022, dywedodd panel adolygu arbenigol Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Deithio Llesol (y panel) fod gan y Ddeddf “gymaint i’w gynnig i Gymru…ond nid ydym wedi gwireddu ei llawn botensial”. Mae'n gwneud 51 o argymhellion, gan gynnwys bod y bwrdd teithio llesol yn cael ei ailstrwythuro, bod angen gwell dull monitro ac y dylid cynnal ymgyrch newid diwylliant genedlaethol.

Amlygodd hefyd bod angen cynyddu teithio llesol i’r ysgol. Yn ei adroddiad diweddar ar 'Ffyrdd Gwyrdd' canfu Pwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru , er bod awydd ymhlith pobl ifanc i gerdded neu feicio'n amlach nag y maent ar hyn o bryd, nid “oedd y seilwaith yn gwneud hwn yn opsiwn deniadol, diogel na chyfleus”.

Prif argymhelliad y panel oedd cyhoeddi cynllun cyflawni cenedlaethol newydd erbyn diwedd 2022. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y caiff cynllun ei gyhoeddi’n fuan.

O ran ariannu, cydnabu’r panel fod hwn wedi bod yn “faes sylweddol o gynnydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf…oherwydd, i raddau helaeth, i lefel yr ewyllys gwleidyddol wella’n sylweddol”. Mae'n deg dweud bod polisi trafnidiaeth diweddar Llywodraeth Cymru – gan gynnwys ei thargedau sifft moddol uchelgeisiol, ei hadolygiad ffyrdd a’i pholisi terfynau cyflymder 20mya rhagosodedig – yn cyfeirio at ragor o ffocws gwleidyddol ar gynyddu cyfraddau teithio llesol. O ran y mater diwethaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog yn ddiweddar wrth y cyfryngau, ynghyd â llai o anafiadau, ei fod hefyd yn disgwyl y byddai cynnydd o ran lefelau cerdded a beicio. Dywedodd, os na fyddent yn cyflawni’r pethau hynny, yna yn amlwg ni fydd y polisi [20mya] wedi llwyddo.

Roedd adroddiad y panel yn awgrymu ‘y gellir priodoli o leiaf rywfaint o danberfformiad y Ddeddf i wendidau o ran ei geiriad’. Mae ymdrechion i fynd i'r afael â hyn wedi'u gwneud wrth graffu ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). O ystyried bod y cysylltiadau agos rhwng ansawdd aer a theithio llesol wedi’u hamlygu yn ystod gwaith craffu yng nghyfnod 1, gwelir y Bil fel cyfle i gryfhau dyletswyddau sy’n ymwneud â hyrwyddo teithio llesol.

Cyflwynwyd sawl gwelliant, gan gynnwys un gwelliant gan y Llywodraeth, wedi hynny yn ystod trafodion cyfnod 2. Roedd hyn yn cynnwys gwelliant gan Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol a fyddai wedi’i gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau o fewn 12 mis i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Er i Aelodau'r Pwyllgor a'r Dirprwy Weinidog benderfynu peidio â'u symud i bleidlais, fe gytunon nhw i barhau â’r ddeialog adeiladol i geisio cyrraedd rhywbeth hyd yn oed yn well …yn y cyfnod nesaf.

Beth nesaf?

Mae’n amlwg, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, er bod rhagor o arian cyhoeddus wedi dod yn sgil y Ddeddf, nid yw wedi cael effaith sylweddol eto ar gyfraddau teithio llesol.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu gwariant yn y blynyddoedd i ddod, a bod angen diwygiad eithaf sylweddol i fecanweithiau cyflawni, gan adeiladu ar adroddiad y panel.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru