arwyddion ffyrdd lle mae newid yn y terfyn cyflymder rhwng 20mya a 30mya

arwyddion ffyrdd lle mae newid yn y terfyn cyflymder rhwng 20mya a 30mya

20mya yng Nghymru: gweithredu ac effeithiolrwydd

Cyhoeddwyd 17/10/2023   |   Amser darllen munudau

Ar 17 Medi cafodd y terfyn cyflymder statudol ar ffyrdd cyfyngedig Cymru – sef y rhai â goleuadau stryd heb fod yn fwy na 200 lath ar wahân arnynt – ei leihau o 30mya i 20mya.

Er bod 20mya yn cael ei defnyddio’n helaeth ledled y DU, dyma'r cynllun cenedlaethol cyntaf.

Mae'n deg dweud bod y polisi wedi ennyn ymateb. Mae'r ddeiseb fwyaf (o bell ffordd) yn hanes y Senedd yn gwrthwynebu'r newid ac yn dal i gasglu llofnodion.

Dyma'r gyntaf o ddwy erthygl sy'n trafod y materion yr ydym yn cael ein holi amdanynt yn Ymchwil y Senedd. Mae'n edrych ar weithredu a thystiolaeth ar effeithiolrwydd. Bydd yr ail yn edrych ar fonitro a gorfodi.

Sut y daethom i’r fan hon?

Sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu 20mya yn 2019. Cyhoeddwyd ei adroddiad ar 15 Gorffennaf 2020 ac roedd yn cefnogi terfynau o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig. Ar yr un diwrnod, trafododd y Senedd a chytunodd ar gynnig ei bod:

Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol (lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir yr awr.

Cafodd cynigion i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya eu cynnwys ym maniffestos etholiad Senedd 2021 y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, a Rhaglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru yn dilyn hynny.

Cymeradwyodd y Senedd ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022. Cafodd y cynllun ei dreialu mewn saith ardal.

Mae awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, fel awdurdodau priffyrdd ar gyfer ffyrdd lleol a chefnffyrdd yn y drefn honno, wedi bod yn gweithio ar gyflwyno'r polisi. Wrth wneud hynny, maent yn cymhwyso canllawiau Llywodraeth Cymru i nodi pa ffyrdd y dylid eu heithrio a chadw terfyn o 30mya.

Mae agweddau'r cyhoedd wedi amrywio. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y cynigion yn ystod haf 2021, gyda 47 y cant o'r ymatebwyr yn cefnogi'r newid, a 53 y cant yn gwrthwynebu.

Awgrymodd data arolwg o agweddau’r cyhoedd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020 y byddai 80 y cant o'r cyhoedd “o blaid terfyn cyflymder o 20mya yn yr ardal yr oeddent yn byw ynddi”. Canfu arolwg arall ym mis Medi 2022 fod 60 y cant o blaid cynlluniau Llywodraeth Cymru "i leihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya mewn cymunedau preswyl ledled Cymru".

Awgrymodd arolwg barn a gynhaliwyd ar gyfer ITV Cymru ychydig cyn i'r polisi gael ei gyflwyno mai dim ond 31 y cant oedd yn cefnogi’r cynlluniau, gyda 66 y cant yn gwrthwynebu.

Fodd bynnag, awgrymodd arolwg barn ar wahân a gynhaliwyd gan Redfield & Wilton Strategies ar 16-17 Medi fod 46 y cant yn cefnogi'r newid, gyda 34 y cant yn gwrthwynebu.

A yw'n bolisi cyffredinol?

Ffigur 1: Amcangyfrif o hyd y ffordd yn ôl terfyn cyflymder y ffordd, Cymru, Medi 2023

Siart sy'n dangos hyd ffyrdd Cymru yn ôl terfyn cyflymder cyn ac ar ôl cyflwyno terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig. Mae’r siart yn dangos, yn dilyn y newid, fod 63 y cant o ffyrdd Cymru yn ôl hyd yn 30mya neu’n uwch, o gymharu â 97 y cant o’r blaen. Ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, roedd 37 y cant o'r holl ffyrdd yn ôl hyd ar 30mya cyn y newid, gan symud i 37 y cant ar 20mya yn dilyn y newid.

Ffynhonnell: Datganiad ystadegol ad hoc gan Lywodraeth Cymru

Mae Ffigur 1 yn dangos bod cyfran y ffyrdd yn ôl hyd sy'n 40mya neu'n uwch yn aros yn ddigyfnewid.

Mae proffil ffyrdd eraill wedi newid. Bellach, mae 37 y cant o ffyrdd yn ôl hyd yn 20mya, gan godi o 2 y cant cyn y newid, tra bod cyfran y ffyrdd 30mya wedi gostwng o 37 y cant i 3 y cant.

A oes llawer o amrywiaeth ar draws Cymru?

Oes. Mae Ffigur 2 yn dangos cyfran y rhwydwaith ffyrdd ym mhob awdurdod lleol sydd â therfyn cyflymder o 30mya ar 4 Hydref 2023 (ar ôl i'r terfyn gael ei gyflwyno ar 17 Medi).

Mae'n cynnwys cefnffyrdd, y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, yn ogystal â ffyrdd lleol sy'n gyfrifoldeb i awdurdodau lleol.

Ffigur 2: cyfran rhwydwaith ffyrdd Cymru sydd â therfynau cyflymder o 30mya (4 Hydref 2023)

Dangos ar y map
Dangos ar graff bar

Map yn dangos y gyfran uchaf o derfynau cyflymder o 30mya ar y rhwydweithiau ffyrdd mewn awdurdodau lleol yn ne Cymru. Mae gan Sir Benfro, Ceredigion, Powys ac awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru gyfran is o eithriadau.

Graff sy'n dangos yr amrywiad yng nghyfran y ffyrdd sydd wedi'u heithrio. Mae'r cyfrannau uchaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr (10.2 y cant), Abertawe (10.3 y cant) a Blaenau Gwent (9.9 y cant). Mae llai nag 1 y cant o rwydweithiau ffyrdd Ynys Môn, Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych wedi’u heithrio. Ledled Cymru, mae 2.8 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd wedi'i eithrio. Mae ffigurau ar gyfer yr holl ardaloedd ar gael i’w lawrlwytho isod.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru / MapDataCymru. Data ar gael yma i'w lawrlwytho.

Llywodraeth Cymru a'r Senedd sy’n gyfrifol am newid y gyfraith i gyflwyno'r terfyn cyflymder newydd, tra bod awdurdodau priffyrdd yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfynu ar gyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd lleol yn eu hardal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod awdurdodau lleol wedi dehongli ei chanllawiau ar eithriadau yn wahanol. Mae Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud:

We’ll be reviewing the guidance but each local authority is going to have to review its own implementation. There are 22 local authorities… They are the local highway authorities. I can’t tell them what to do. I can set the national regulations which we have, we can issue guidance, we can provide funding, but we can’t tell them what to do on their streets.

Felly mae cyfran hyd y ffordd yn ôl terfyn cyflymder yn debygol o newid.

A yw 20mya yn effeithiol o ran lleihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd?

Mae'r berthynas rhwng cyflymder a risg/difrifoldeb damweiniau wedi hen ennill ei phlwyf. Er enghraifft, daeth adroddiad ymchwil 2018 Fforwm Trafnidiaeth Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, cyflymder a’r risg o ddamweiniau , i’r casgliad a ganlyn:

There have been a number of research efforts undertaken in the last few decades which have all shown a close correlation between speed, road crash frequency and severity: when speed increases, the risk of a crash and of its severity increases as well.

Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd terfynau cyflymder o 20mya wedi bod yn gymysg. Canfu adroddiad ar effeithiolrwydd terfynau cyflymder 20mya Llywodraeth y DU 2018 nad oedd digon o dystiolaeth bod terfynau 20mya mewn ardaloedd preswyl wedi arwain at newid sylweddol mewn gwrthdrawiadau a damweiniau.

Mewn cyferbyniad, canfu adolygiad o dystiolaeth yn 2018 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru dystiolaeth gymedrol i gref fod terfyn cyflymder o 20mya yn lleihau anafiadau.

Mae rhan o'r her yn deillio o wahanol ddulliau gweithredu. Mae’r ardaloedd â therfyn cyflymder yn amrywio o ran maint, ac mae gwahaniaeth rhwng terfynau 20 mya hunanorfodol (heb fesurau gostegu traffig), a pharthau 20mya gyda mesurau gostegu traffig.

Mae astudiaethau yn aml yn tynnu sylw at yr angen am ragor o ymchwil ac asesiad hirdymor o ganlyniadau diogelwch ar y ffyrdd.

Mae'r enghraifft o Belfast, y mae’r ddeiseb a dorrodd record yn cyfeirio ati, yn dangos y pwynt hwn.

Gwelodd Belfast 76 o strydoedd canol y ddinas yn cael eu symud i 20mya yn 2016. Canfu adolygiad dilynol o'r cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, na chafodd cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya fawr o effaith o ran lleihau gwrthdrawiadau traffig, anafiadau a chyflymder ar y ffyrdd pan gaiff ei weithredu yng nghanol dinas.

Fodd bynnag, yn hytrach na dod i’r casgliad bod terfynau o 20mya yn aneffeithiol, dywedodd yr adolygiad:

The intervention was implemented at the city centre scale (only 76 streets) in comparison to the recent city-wide intervention in Edinburgh which showed significant reductions in road traffic speed, collisions and casualties. Large scale implementation of 20 mph speed limit interventions may be an important factor for effectiveness (scale).

Daeth gwerthusiad 2021 o gynllun ledled dinas Caeredin i'r casgliad ei fod yn gysylltiedig â gostyngiadau ystyrlon mewn cyflymder traffig. Adroddodd adolygiad tair blynedd ar ôl gweithredu ostyngiad o 30 y cant mewn gwrthdrawiadau a gostyngiad o 31 y cant mewn anafiadau.

Mae Transport for London wedi canfod canlyniadau tebyg ar gyfer ei gynllun ardal eang, gyda gwrthdrawiadau yn gostwng 25 y cant dros ddwy flynedd hyd at fis Mehefin 2022, a'r rhai sy'n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol i lawr 24 y cant.

Mae effaith y pandemig ar y ddwy astudiaeth hyn yn aneglur.

Pam mae pobl yn siarad am Sbaen?

Cyflwynodd Sbaen derfyn cyflymder o 30 cilometr yr awr (tua 19 mya) ar y rhan fwyaf o ffyrdd trefol ym mis Mai 2021.

Er nad y newid yn Sbaen oedd y sbardun ar gyfer polisi Cymru, dywedodd datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru ar 11 Medi 2023:

Ers hynny, mae Sbaen wedi nodi 20% yn llai o farwolaethau ar ffyrdd trefol, gyda marwolaethau wedi gostwng 34% ar gyfer beicwyr a 24% ar gyfer cerddwyr.

Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys dyddiadau, ond mae'r ffigurau'n adlewyrchu data a gyflwynwyd mewn datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Sbaen ym mis Medi 2022 yn cymharu data damweiniau ffyrdd 2021 â data yn 2019.

Mae eraill wedi cwestiynu hyn. Er enghraifft, awgrymodd ffynonellau cyfryngau fod cyfanswm y marwolaethau ar y ffyrdd yn Sbaen wedi cynyddu rhwng 2019 a 2022.

Mae data rhagarweiniol damweiniau ffordd Sbaen ar gyfer 2022 yn cael eu hatgynhyrchu yn ffigurau 3 a 4.

Ffigur 3: Nifer y dioddefwyr damweiniau ffordd ar bob math o ffyrdd yn Sbaen (2013-2022)

Siart yn dangos nifer y dioddefwyr damweiniau ffordd ar bob math o ffyrdd yn Sbaen rhwng 2013 a 2022. Mae hyn yn dangos bod y niferoedd a laddwyd ac a anafwyd ar holl ffyrdd Sbaen wedi gostwng rhwng 2019, sef y flwyddyn lawn olaf cyn y pandemig, a 2022. Mae hefyd yn dangos bod y niferoedd ym mhob categori wedi gostwng yn ystod y pandemig cyn gwella.

Ffigur 4: Nifer y dioddefwyr damweiniau ffordd ar ffyrdd Sbaen yn ôl math o ffordd (2013-2022)

Nifer y dioddefwyr damweiniau ffordd ar ffyrdd Sbaen yn ôl math o ffordd rhwng 2013 a 2022. Mae hyn yn dangos y duedd ar gyfer ffyrdd trefol, lle y cyflwynwyd terfyn o 30 cilometr yr awr yn 2021, a ffyrdd rhyngdrefol mwy. Gostyngodd nifer y marwolaethau a mân anafiadau ar ffyrdd trefol, ond mae nifer y bobl a gafodd eu derbyn i’r ysbyty yn cynyddu rhwng 2019 a 2022. Cynyddodd marwolaethau ar ffyrdd rhyngdrefol, ond gwelwyd gostyngiadau yn y categorïau eraill o ran difrifoldeb damweiniau.

Nodi: Mae'r data ar gyfer Catalwnia yn rhai dros dro.

Ffynhonnell: Arsyllfa Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol Sbaen

At ei gilydd, gostyngodd y niferoedd a laddwyd ac a anafwyd ar holl ffyrdd Sbaen rhwng 2019, sef y flwyddyn lawn olaf cyn y pandemig, a 2022.

Fe wnaeth ffyrdd trefol, lle daeth y newid terfyn o 30 cilometr yr awr i rym, weld marwolaethau ac anafiadau mân yn gostwng, ond cynyddodd nifer y bobl a gafodd eu derbyn i’r ysbyty rhwng 2019 a 2022.

Gwelodd ffyrdd mwy rhyngdrefol, nad effeithiwyd arnynt gan y newid, farwolaethau yn cynyddu, ond roedd gostyngiadau yn y categorïau eraill o ran difrifoldeb damweiniau.

Er bod Llywodraethau Sbaen a Chymru yn gywir wrth nodi gostyngiadau mewn marwolaethau ar ffyrdd trefol rhwng 2019 a 2021, mae ffigurau 3 a 4 yn awgrymu bod y pandemig wedi cael effaith.

Mae'n edrych fel y bydd angen mwy o ddata i ddeall effaith y newid yn Sbaen yn llawn.

Gallwch hefyd ddarllen ein hail erthygl sy’n edrych ar orfodi a monitro.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru