Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant: Pa mor y dda mae'n gweithio? - Rhan 1

Cyhoeddwyd 28/03/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi’i disgrifio fel un sy'n "torri tir newydd". Ei diben yw trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a darparu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer gwella llesiant plant ac oedolion y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr di-dâl. Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru werthusiad annibynnol o'r Ddeddf, a ddaeth i ben ddiwedd 2022. Cafodd nifer o adroddiadau cychwynnol eu cyhoeddi yn ystod y gwerthusiad. Wrth i ni aros am yr adroddiad terfynol a'r casgliadau cyffredinol, mae'r gyfres ddwy ran hon o erthyglau’n edrych ar yr hyn rydym yn ei wybod hyd yn hyn ynghylch a yw'r ddeddfwriaeth yn cael yr effaith a ddymunir.

Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych ar y Ddeddf a'r gweithlu a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd ein hail erthygl (a gaiff ei chyhoeddi yfory) yn edrych ar farn defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr di-dâl.

Beth y mae'r Ddeddf yn ei wneud?

Mae'r ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ystod eang o feysydd, ac mae ei nodau'n cynnwys:

  • gofalwyr yn cael yr un hawl i gael asesiad a chymorth â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt;
  • gwella asesiadau a chanolbwyntio ar 'beth sy'n bwysig' i'r person;
  • cyflawni meini prawf cymhwysedd cenedlaethol newydd ar gyfer mynediad at wasanaethau statudol;
  • cryfhau trefniadau diogelu i blant ac oedolion;
  • darparu mynediad gwell at wasanaethau eirioli i gefnogi unigolion i gael llais mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Dyma egwyddorion craidd y Ddeddf:

  • Llais a rheolaeth: rhoi anghenion yr unigolyn wrth wraidd eu gofal, rhoi llais a rheolaeth iddynt dros y canlyniadau a fydd yn eu helpu i gyflawni llesiant.
  • Atal ac ymyrryd yn gynnar: galluogi mynediad at gyngor a chymorth yn gynharach, cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i leihau uwchgyfeirio angen critigol.
  • Llesiant: cefnogi pobl i gyflawni llesiant a'u canlyniadau personol eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth.
  • Cydgynhyrchiad: cynnwys pobl fel partneriaid cyfartal yn y broses ac annog unigolion i ymwneud yn fwy â dylunio a darparu gwasanaethau.
  • Amlasiantaethol: gwaith partneriaeth cryfach i gyflawni gwelliannau a gwasanaethau mwy cydgysylltiedig.
Rhagor o wybodaeth am y Ddeddf

Pa mor dda y mae'r Ddeddf yn gweithio?

Mae’r  prosiect gwerthuso annibynnol yn edrych ar weithrediad ac effaith y Ddeddf drwy'r pum egwyddor graidd a amlinellwyd uchod. Fel y mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (SIGCC) yn nodi, roedd cefnogaeth bron gan bawb i egwyddorion ac uchelgeisiau'r Ddeddf yn 2016, ac mae cefnogaeth bron gan bawb iddynt nawr.

Er nad yw'r adroddiad gwerthuso terfynol wedi’i gyhoeddi eto, mae SIGCC yn esbonio bod tystiolaeth yn dangos gwahaniaeth rhwng egwyddorion y Ddeddf ac arfer a phrofiadau pobl. Mae'n cydnabod effaith ffactorau gan gynnwys COVID-19 a'r pwysau parhaus ar y gweithlu. 

Y gweithlu gofal cymdeithasol

Canfu’r adroddiad ‘Gwerthuso’r Broses’ (yn canolbwyntio ar y gweithlu) agweddau cadarnhaol ar y ddeddfwriaeth. Mae’r meysydd roedd y gweithlu yn teimlo eu bod yn gweithio'n dda yn cynnwys y gweithdrefnau diogelu newydd, y sgyrsiau ‘beth sy'n bwysig', a staff yn teimlo y gallant fod yn fwy agored i risg yn eu dull o weithredu.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, canfu'r ymchwil lefelau amrywiol o lwyddiant wrth gyflawni dyletswyddau a gofynion y Ddeddf, ac wrth sefydlu ffyrdd newydd, trawsnewidiol o weithio. Yn ôl yr adroddiad, mae’r amrywiad hwn yn aml yn gysylltiedig â phwysau strwythurol, ariannol neu gapasiti sylfaenol. Daw i'r casgliad bod arweinwyr a gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dal i fod "ar y daith" tuag at weithrediad llawn y Ddeddf.

Mynediad at wasanaethau

Nododd yr adroddiad Gwerthuso’r Broses nifer o heriau i ddarparu gwasanaethau ataliol a mentrau. Mae hyn yn cynnwys y meini prawf mynediad ar gyfer gwasanaethau statudol a all atal ymyrryd yn gynnar; diffyg arian uniongyrchol ar gyfer atal; a datblygu gwasanaethau ataliol sy'n ymateb i faterion strwythurol cymhleth y mae cymunedau’n eu hwynebu.

Canfu adolygiad deddfwriaethol gan Archwilio Cymru (2020), o ran gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar, fod awdurdodau lleol gwahanol wedi dechrau mewn lleoedd gwahanol iawn. Dywedodd fod y "ddarpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau’n dal i amrywio o le i le". Yn benodol, canfu Archwilio Cymru fod cryn ffordd i fynd o hyd mewn meysydd pwysig fel eiriolaeth, cyfeillio, a chynorthwyo gofalwyr.

Gofal cymdeithasol: dewis olaf?

Mae’r adroddiad Gwerthuso’r Broses yn nodi barn gan y gweithlu bod gwasanaethau gofal statudol yn "adweithiol" a "‘phan fetho popeth arall" ac nad ydynt yn canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar. Roedd sylwadau bod y trothwy ar gyfer cymorth yn rhy uchel, a bod yn rhaid i gleientiaid aros nes bod "anghenion yn uwch neu mewn argyfwng cyn gallu cyrchu cymorth uniongyrchol”. Ailadroddwyd yr angen am system iechyd a gofal cymdeithasol integredig drwy gydol ymatebion cyfweliad. 

Mae Dr Alison Tarrant o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn nodi bod yr iaith a ddefnyddir yn y Ddeddf a'r canllawiau yn nodweddiadol yn fframio annibyniaeth fel hunanddibyniaeth ac yn gysylltiedig â gostyngiad yn y defnydd o ofal cymdeithasol. Adlewyrchir hyn ym meini prawf cymhwysedd y Ddeddf, sy'n cadarnhau bod person ond yn gymwys i gael gofal os (ymhlith pethau eraill) na allant ddiwallu ei anghenion personol, gyda chymorth pobl eraill, neu drwy wasanaethau cymunedol presennol.  Mae’n dweud y canlynol, "In other words, in Wales social care is legally expressed as a ‘last resort’, to be used only where other options are not available".

Mae Dr Tarrant yn rhesymu, er ei bod yn wir bod pobl fel arfer am wneud yr hyn y gallant ei wneud drostynt eu hunain, nid yw canolbwyntio ar hunanddibyniaeth er ei fwyn ei hun o reidrwydd yn fath o werth cymdeithasol. Mae'n rhoi'r enghraifft, os gall person anabl gyflawni tasgau boreol heb gymorth, ond bod ganddo wedyn cyn lleied o amser a’i fod yn teimlo mor flinedig fel bod ei allu i wneud gweithgareddau eraill wedi’i gwtogi, nid yw’n cael cyfle i fyw'n annibynnol a gwneud cyfraniad cymdeithasol. Mae'n nodi ei bod hefyd yn bwysig cydnabod nad yw cymorth anffurfiol a gwasanaethau cyffredinol o reidrwydd yn galluogi byw'n annibynnol, ac y gallent negyddu hynny mewn gwirionedd. Mae Dr Tarrant yn tynnu sylw at y canlynol:

We must recognise that social care is a positive and welcome force for good, which enables people to live the life of one’s choice and contribute to their communities and to society.

Mae erthygl yfory yn edrych ar brofiadau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, ac a yw'r ddeddfwriaeth wedi gwneud gwahaniaeth iddynt a llesiant gwell fel y bwriadwyd.

Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.