Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant: I ba raddau y mae’n llwyddo? - Rhan 2

Cyhoeddwyd 29/03/2023   |   Amser darllen munud

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi’i disgrifio fel deddf sy'n "torri tir newydd" (mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf yn ein herthygl flaenorol). Comisiynodd Llywodraeth Cymru werthusiad annibynnol o'r Ddeddf, a daeth y broses honno i ben ddiwedd 2022. Cafodd nifer o adroddiadau cychwynnol eu cyhoeddi yn ystod y broses werthuso. Wrth i ni aros am yr adroddiad gwerthuso terfynol, mae ein cyfres dwy ran yn ystyried yr hyn rydym yn ei wybod hyd yn hyn ynghylch a yw'r ddeddfwriaeth yn cael yr effaith a ddymunir.

Roedd ein herthygl gyntaf yn ystyried y gweithlu a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol. Yma, rydym yn ystyried yr hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wedi'i ddweud.

Beth yw profiad defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr?

Yn ôl yr adroddiad ar 'ddisgwyliadau a phrofiadau' (2022) roedd “digon o dystiolaeth” bod profiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn “llai nag y gallai fod”.

Er bod nifer wedi cael profiadau da wrth ddod i gysylltiad â’r gwasanaethau cymdeithasol, a bod straeon am wasanaethau’n gwella, mae’r adroddiad yn nodi nad dyma oedd profiad y mwyafrif.

I’r mwyafrif o’r ymatebwyr, roedd eu profiad yn un o rwystredigaeth, gydag un yn dweud bod y “brwydro'n flinedig” Soniodd defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr am rwystrau fel dulliau gwrando ‘tocynistaidd’; anghydbwysedd grym rhyngddyn nhw a'r gweithwyr proffesiynol; yr angen i fynd ar ôl gwasanaethau cymdeithasol am gefnogaeth a chydnabyddiaeth; ac ansensitifrwydd diwylliannol.

Nodwyd bylchau yn y gwasanaeth hefyd, mewn meysydd fel “cymorth ar gyfer unigolion gyda phlant sy’n gadael perthynas gamdriniol, gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a chymorth ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig”.

Dim digon o ffyrdd i herio ac unioni cam

Er gwaethaf yr addewid y byddai mwy o hawliau o dan y Ddeddf, mae'r adroddiad ar ddisgwyliadau a phrofiadau yn dweud bod cryn bryder nad yw’r broses ar gyfer sicrhau’r hawliau hyn yn gweithio i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Daw'r adroddiad i'r casgliad nad yw'n eglur sut y gall pobl weithredu eu hawliau o dan y Ddeddf na herio’r penderfyniadau a wneir.

Cynhaliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymchwiliad yn ddiweddar i ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol Cymru a Lloegr. Daeth i’r casgliad nad yw oedolion sy’n cael gofal cymdeithasol yn y ddwy wlad yn gallu herio penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol, er enghraifft ynghylch cymhwystra ar gyfer gwasanaethau statudol. Daw’r Comisiwn i’r casgliad bod prosesau awdurdodau lleol yn ddryslyd ac yn araf, a bod perygl nad yw pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Mae'n dweud bod rhai pobl yn cael eu hatal rhag gofyn am gymorth gan system gymhleth, a ddylai fod yn amddiffyn eu hawliau i herio penderfyniadau am eu gofal.  

Mae angen rhagor o gymorth, ar fyrder, ar ofalwyr di-dâl.

Daeth yr adroddiad gwerthuso i’r casgliad fod gofalwyr “yn rhy aml yn teimlo na allan nhw gael lleisio eu barn, nad oes neb yn gwrando arnyn nhw nac yn gweithredu ar eu sylwadau“. Mae’n dweud bod angen gwneud mwy i helpu gofalwyr di-dâl a hynny fel mater o flaenoriaeth.  Dywedodd un gofalwr, “Gan nad ydyn ni mewn argyfwng, rydyn ni'n cael ein hanwybyddu”

Daeth y prosiect 'Mesur y Mynydd', a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i werthuso profiadau’r rhai a oedd yn defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn 2020, i gasgliadau tebyg. Casglwyd straeon am brofiadau pobl, a daeth tair prif thema i’r amlwg:

  • Mae angen i bobl ymladd dros wasanaethau;
  • Mae unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu barnu; a
  • Mae disgwyl i bobl dderbyn a chyd-fynd â pha gymorth bynnag a roddir iddynt.

Tanlinellodd Mesur y Mynydd  fod angen brys i ddarparu cymorth gwell i ofalwyr. Dywed yr adroddiad terfynol fod y straeon yn dangos nad oedd asesiadau o anghenion gofalwyr a gwasanaethau seibiant yn cynnig y cymorth gofynnol yn aml. Yn ôl yr adroddiad, roedd profiadau tri o bob pedwar gofalwr yn negyddol, ac roedd eu straeon yn dangos, yn fwy dim arall, pa mor bwysig yw trin pobl fel partneriaid, a chydnabod eu barn, eu harbenigedd a’u hanghenion.

Yn 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fel yr oedd bryd hynny, ymchwiliad i effaith y Ddeddf ar ofalwyr . Daeth y Pwyllgor i’r casgliad   bod y Ddeddf wedi cryfhau hawliau’n gyfreithiol ond, er hynny, nid oedd profiadau defnyddwyr wedi gwella. Dywed ei adroddiad: “I gynifer y clywsom ganddynt, mae’r Ddeddf wedi methu â chael unrhyw effaith ystyrlon ar eu bywydau”. Mae’n mynd rhagddo i ddweud, “Pum mlynedd ers pasio deddfwriaeth a ddylai fod wedi bod yn drawsnewidiol i fywydau gofalwyr, mae’r canlyniadau, ar y gorau, wedi methu â chreu argraff”. Bron flwyddyn yn ddiweddarach, daeth Archwilio Cymru i gasgliad tebyg.

Mae pobl o gefndir ethnig lleiafrifol wedi’u siomi.

Mae’r gwerthusiad yn cynnwys adroddiad penodol ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol .

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod ymdeimlad cyffredinol bod pobl wedi cael eu siomi gan y gwasanaethau cymdeithasol, ac roedd y teimladau hyn yn arbennig o ddwys o gofio bod pobl yn aml wedi ceisio osgoi gorfod defnyddio'r gwasanaethau cymdeithaso. Soniodd defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr am “ddiffyg ymatebolrwydd enfawr i geisiadau syml", nad oeddent yn cael eu hystyried yn bartneriaid cyfartal, a phan oedd angen cymorth arnynt, “ar ôl blynyddoedd o ymdopi hebddo”, nid oedd y cymorth yno iddynt.

Roedd nifer yn pryderu am y ffaith nad oedd gan bobl “lais” yn y system, ac nad oedd neb yn gwrando arnynt yn ystyrlon.  Roedd yr adroddiad yn dweud bod cyfranogwyr yn myfyrio ar brofiadau gofidus ac, “Roedd pryderon gwirioneddol bod lliw eu croen wedi bod yn ystyriaeth yn eu hymwneud â'r system ar ormod o achlysuron”.

Roedd defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn cydnabod bod y system gwasanaethau cymdeithasol o dan bwysau sylweddol a bod heriau ym mhobman o ran prinder staff. Fodd bynnag, roeddent yn teimlo’i bod yn anodd cysoni’r diffyg tosturi ac empathi tuag atynt gan system a gynlluniwyd i gynorthwyo a gofalu am bobl.

Casgliadau Grŵp Arbenigol y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol

Mae Grŵp Arbenigol y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn tanlinellu pwysigrwydd y gwerthoedd, yr egwyddorion, a’r weledigaeth a nodir yn y Ddeddf, fel rhoi mwy o lais a rheolaeth i unigolion. Fodd bynnag, roedd adroddiad y Grŵp Arbenigol (Tachwedd 2022), yn nodi bod “y broses gyson o weithredu'r Ddeddf wedi syrthio’n fyr o gyflawni ei huchelgais”.

Er gwaethaf dyheadau’r Ddeddf, meddai, mae’r anghydbwysedd grym yn parhau rhwng y rhai sy’n cael gofal a'r gweithwyr proffesiynol a'r prosesau systemig. Mae’n nodi y gall fod diffyg cysylltiad rhwng y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig a’r uchelgais i ddarparu gofal personol yn seiliedig ar ganlyniadau unigol. Yn ôl y Grŵp Arbenigol, mae disgwyl yn aml i ‘bobl ffitio i mewn i ba gymorth bynnag a roddir iddynt’, yn hytrach nag ystyried a chynnig gwasanaethau sy'n addas ar gyfer 'yr hyn sy'n bwysig' iddynt hwy’. Mae’n dweud mai “methiant systemig yw hwn, yn hytrach na beirniadaeth o’n gweithlu gofal cymdeithasol ymroddedig”.

Mae'r adroddiad ar disgwyliadau a phrofiadau yn dweud bod y dystiolaeth yn awgrymu “nad ydy’r ‘daith’ tuag at weithredu’r Ddeddf yn llawn wedi’i chwblhau eto”. Disgwylir i’r adroddiad gwerthuso terfynol gael ei gyhoeddi’n fuan, a bydd nifer o randdeiliaid yn aros yn eiddgar i weld y casgliadau a’r argymhellion.

Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru