Bu dadlau ers tro ynghylch a yw'r pwerau cyllidol sydd wedi'u datganoli i Gymru yn rhoi digon o gyfle i Lywodraeth Cymru lywodraethu'n effeithiol. Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi gwneud mynd ar drywydd diwygio cyllidol yn un o’i phrif flaenoriaethau yn ei Rhaglen Lywodraethu.
Cyn y ddadl ar ddiwygio cyllidol yn y Senedd ddydd Mawrth 6 Hydref, mae'r erthygl hon yn trafod y trefniadau fel ag y maent ar hyn o bryd a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei newid.
Pwerau cyllidol Cymru a’r blaenoriaethau o ran diwygio
Mae pwerau cyllidol Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn fframwaith cyllidol Cymru, a gyhoeddwyd yn 2016. Roedd y fframwaith yn nodi sut y byddai fformiwla Barnett yn gweithio, ac roedd hynny’n cynnwys ‘cyllid gwaelodol’. Roedd hefyd yn nodi pwerau benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru, ac offer rheoli cyllideb, gan gynnwys sefydlu Cronfa Wrth Gefn Cymru, sy'n rhoi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru i reoli ei hadnoddau.
Roedd y fframwaith cyllidol yn nodi cyfanswm y terfynau a’r terfynau blynyddol ar gyfer benthyca cyfalaf a Chronfa Wrth Gefn Cymru, a oedd wedi aros yr un fath ers 2016. Roedd y terfynau hyn wedi’u herydu gan chwyddiant, sy'n golygu bod capasiti Llywodraeth Cymru i fenthyca a dal cronfeydd wrth gefn wedi lleihau.
Ym mis Tachwedd 2025, cynyddodd Cyllideb 2025 y DU y terfynau hyn 10%, a fydd yn cael ei uwchraddio yn unol â chwyddiant bob blwyddyn o 2027-28 ymlaen.
Yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 ymrwymodd Plaid Cymru i wneud y canlynol:
- Disodli fformiwla Barnett.
- Sicrhau mwy o bwerau trethu, gan gynnwys y gallu i osod bandiau treth incwm a chyflwyno treth ar dir gwag.
- Rhagor o ddiwygiadau i'r fframwaith cyllidol, gan gynnwys codi terfynau tynnu i lawr blynyddol Cronfa Wrth Gefn Cymru a chynyddu terfyn dyled cyfalaf y Senedd.
Mae’r ymrwymiadau hyn wedi’u hadlewyrchu yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2026-2030, sy'n dweud y bydd yn:
Mynd ar drywydd diwygio cyllidol, gan gynnwys tegwch yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu, gweithrediad Fformiwla Barnett, mwy o hyblygrwydd cyllidol, ariannu pwerau datganoledig mewn ffordd deg, a chyfrifoldebau pellach i’r Senedd dros drethi yng Nghymru.
Beth yw ariannu teg?
Fe wnaeth y fframwaith cyllidol addasu fformiwla Barnett i gynnwys ffactor sy'n seiliedig ar anghenion o 2018-19 ymlaen, gan gydnabod bod gan Gymru anghenion gwario uwch na Lloegr oherwydd ffactorau fel incwm is ac iechyd gwaeth.
Gosodwyd y lefel ar 115% ac mae’n seiliedig ar ganfyddiadau Comisiwn Holtham a gyhoeddwyd yn 2010. Fodd bynnag, mae cyllid y pen yng Nghymru o gymharu â Lloegr ar hyn o bryd yn uwch na 115% a hyd nes y bydd y cyllid hwn yn gostwng i 115% mae'r ffactor sy'n seiliedig ar anghenion wedi'i osod ar 105%.
Fformiwla Barnett ar gyfer Cymru

Ym mis Chwefror 2026, nododd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol fod y ffactor amcangyfrifedig sy’n seiliedig ar anghenion o 115% yn seiliedig ar ddata sydd bron yn 20 mlwydd oed, a dywedodd:
The UK and Welsh (and ideally other devolved) governments should jointly commission a new independent assessment of the relative spending needs of the different nations of the UK.
This would allow for a more informed debate about how much funding the Welsh Government and other devolved governments should receive. And better information on how funding compares to needs would help the electorate judge the performance of the Welsh Government.
Ym mis Gorffennaf 2026, dywedodd y Prif Weinidog yn ystod dadl ar ariannu teg fod fformiwla Barnett yn “sylfaenol hen-ffasiwn ac annheg”. Esboniodd ei bod yn gwneud Cymru'n ddibynnol ar benderfyniadau a wneir yn San Steffan drwy glymu Cymru wrth ddewisiadau gwario i Loegr. Ychwanegodd:
Felly, allwn ni ddim gwario'n ychwanegol ein hunain i gyd-fynd â'n hanghenion fel cenedl. Dyna broblem sylfaenol y setliad ariannu.
Cronfa wrth Gefn Cymru
Sefydlodd y fframwaith cyllidol Gronfa Wrth Gefn Cymru a gosododd gyfanswm terfynau a therfynau blynyddol ar dynnu i lawr. Mae Llywodraeth Cymru yn gallu dal hyd at £385 miliwn i'w wario yn y blynyddoedd i ddod.
Nid oes terfynau blynyddol ar gyfer talu i mewn i’r gronfa wrth gefn ond mae terfynau tynnu i lawr blynyddol o £137.5 miliwn ar gyfer adnoddau a £55 miliwn ar gyfer cyfalaf, sydd wedi'u hepgor ar gyfer 2026-27. Bydd pob un o’r terfynau hyn yn cael eu huwchraddio’n flynyddol yn unol â chwyddiant o 2027-28 ymlaen.
Mae hyn yn wahanol i Gronfa Wrth Gefn yr Alban, lle mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban wedi cytuno na fydd terfyn blynyddol ar y symiau y gellir eu tynnu i lawr o’r gronfa.
Nododd y Prif Weinidog fod terfyn Cronfa Wrth Gefn Cymru yn gyfystyr ag 1.4% o gyllideb Llywodraeth Cymru. Dywedodd:
Mae hyn yn ein hatal rhag cynilo ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol i gefnogi twf economaidd a rhoi hwb i gynhyrchiant. Bydd y Trysorlys yn bachu unrhyw arian lle nad oes digon o le yn ein cronfa wrth gefn i'w gadw.
Benthyca cyfalaf
Cyfanswm terfyn benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru yw £1.1 biliwn ac mae ganddi derfyn blynyddol o £165 miliwn o 2026-27 ymlaen. Bydd y ddau derfyn yn cael eu huwchraddio bob blwyddyn yn unol â chwyddiant o 2027-28 ymlaen.
Bu galwadau i Lywodraeth Cymru gael pwerau benthyca darbodus fel rhai’r awdurdodau lleol, sy'n seiliedig ar fforddiadwyedd hunanbenderfynedig yn hytrach na therfynau a osodir gan Lywodraeth y DU. Soniodd y Prif Weinidog am hyn yn ystod ei araith ar ariannu teg, gan ddweud:
Efallai y byddai'n synnu rhai Aelodau—a soniais am hyn yn gynharach heddiw—i wybod bod gennym ni bwerau benthyca llai hael na chynghorau lleol, sy'n gallu benthyca'n ddarbodus i gefnogi buddsoddiadau seilwaith.
Trethi Cymru
Mae’r ffaith bod treth incwm y DU wedi’i datganoli’n rhannol ar ffurf Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru i gasglu 10c am bob £1 a enillir uwchlaw'r lwfans personol ar gyfer treth incwm oddi wrth drethdalwyr Cymru.
Cyfraddau Treth Incwm Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i newid cyfraddau Cymru ar gyfer pob band treth incwm ond, yn wahanol i'r Alban, nid oes ganddi bwerau i newid y trothwyon na chyflwyno bandiau treth incwm newydd.
Nododd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod gan drethdalwyr Cymru incwm is o gymharu â'r DU gyfan. Gallai rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru i deilwra'r trothwyon a chreu bandiau treth newydd olygu y byddai modd ymdrin â threth incwm mewn modd mwy blaengar yng Nghymru.
Trethi newydd i Gymru
Gallai Llywodraeth Cymru geisio datganoli cymhwysedd dros drethi newydd i Gymru drwy broses y cytunir arni gyda Llywodraeth y DU. Profodd y pŵer hwn drwy gyflwyno cais ffurfiol i Lywodraeth y DU yn 2020 i ddatganoli cymhwysedd i gyflwyno treth ar dir gwag.
Ychydig iawn o newid sydd wedi bod yn hyn o beth ers blynyddoedd, ac roedd y cyn Weinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn feirniadol o'r broses, gan ddweud ei bod yn anaddas.
Ym mis Chwefror 2026, cytunodd Llywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad ar y cyd ar ddatganoli pwerau i gyflwyno treth ar dir gwag, ond nid oes amserlen wedi'i chyhoeddi eto.
Beth nesaf ar gyfer diwygio cyllidol?
Felly, mae'r ddadl dros ddiwygio cyllidol yn mynd y tu hwnt i faint o gyllid y mae Cymru'n ei gael. Mae hefyd yn ymwneud â sut mae anghenion yn cael eu hasesu, hyblygrwydd o ran cyllidebau a benthyca a phwerau trethu datganoledig.
Mae’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon yn gyfle i ystyried a yw'r trefniadau fel ag y maent yn rhoi'r adnoddau a'r ymreolaeth sydd eu hangen arni i Lywodraeth Cymru, a pha ddiwygiadau y dylai eu blaenoriaethu.
Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru