Y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol: craffu ar sut mae llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd

Cyhoeddwyd 13/12/2021   |   Amser darllen munud

Yr wythnos hon, bydd y Senedd yn trafod y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae’r cytundeb yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dweud wrth y Senedd pan fydd Gweinidogion yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol a phryd y bydd yn dod i gytundebau rhynglywodraethol.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn newid a sut y gall seneddau graffu arnynt.

Pam bod cysylltiadau rhynglywodraethol yn bwysig?

Mewn systemau gwleidyddol aml-lefel, mae angen i lywodraethau sydd â gwahanol gyfrifoldebau weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau cyffredin. Yn y DU, y strwythur canolog ar gyfer rheoli cysylltiadau rhynglywodraethol yw’r Cyd-bwyllgor Gweinidogol (JMC). Cyfres o bwyllgorau ydyw sy’n dod â gweinidogion o’r pedair llywodraeth at ei gilydd.

Cydnabyddir yn eang bod Brexit wedi ei gwneud hi’n bwysicach i’r DU a llywodraethau datganoledig weithio gyda’i gilydd, ac yn benodol i:

Fodd bynnag, mae cynrychiolwyr pwyllgorau seneddol ledled y DU a llywodraethau datganoledig wedi nodi pryderon nad yw’r llywodraethau’n gallu cydweithio’n effeithiol drwy strwythurau presennol y JMC.

Ym mis Mawrth 2018, cytunodd llywodraethau i gomisiynu adolygiad ar y cyd o strwythurau rhynglywodraethol i sicrhau eu bod yn addas at y diben yn sgil ymadawiad y DU â’r UE. Mae’r adolygiad hwn yn dal i fynd rhagddo. Cyhoeddodd y llywodraethau ddiweddariad ar y cynnydd y mis Mawrth hwn.

Pam wnaeth Llywodraeth Cymru a’r Senedd negodi'r cytundeb?

Ym mis Chwefror 2018, cyflwynodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bumed Senedd adroddiad ar ymchwiliad i lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Nododd y Pwyllgor bryderon ynghylch y strwythurau rhynglywodraethol presennol a dywedodd fod angen eu diwygio. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor hefyd yn cydnabod y gallai hi fod yn anodd i’r Senedd graffu ar waith rhynglywodraethol pe na bai Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod am y gwaith hwnnw.

Argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn llunio cytundeb gyda’r Pwyllgor, er mwyn cefnogi’r gwaith craffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn, a daethpwyd i gytundeb ym mis Ionawr 2019.

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Llywodraeth Cymru bellach wedi ail-negodi’r cytundeb ar gyfer tymor newydd y Senedd. Gosodwyd y cytundeb newydd gerbron y Senedd ar 18 Tachwedd.

Sut mae’r cytundeb yn gweithio?

Mae’r cytundeb yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dweud wrth y Senedd am waith ymgysylltu ffurfiol â llywodraethau eraill yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddarparu’r canlynol i bwyllgorau’r Senedd:

  • rhybudd ysgrifenedig o leiaf fis cyn cyfarfodydd perthnasol o strwythurau rhynglywodraethol (cyn belled ag sy’n ymarferol);
  • crynodeb ysgrifenedig o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod, o fewn pythefnos (cyn belled ag y bo modd); a
  • thestun cytundebau rhynglywodraethol, fframweithiau cyffredin, concordatau, a memoranda cyd-ddealltwriaeth neu benderfyniadau eraill sydd o fewn cwmpas y cytundeb, a’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i osod adroddiad blynyddol ar y cytundeb gerbron y Senedd. Gosodwyd yr adroddiad blynyddol diweddaraf ym mis Medi.

Mae’r cytundeb ond yn cynnwys cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogol, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a fforymau perthnasol eraill o statws tebyg. Mae hyn yn golygu nad yw o reidrwydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gael ei hysbysu am bob cyfarfod gweinidogol. Er enghraifft, nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y Senedd yn rheolaidd am ymgysylltiad rhwng gweinidogion ar COVID-19 o dan y cytundeb.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban hefyd yn rhoi gwybod i’w seneddau am gysylltiadau rhynglywodraethol o dan ymrwymiadau tebyg.

A yw newidiadau i strwythurau rhynglywodraethol yn debygol?

Mae llywodraethau’r DU a’r gwledydd datganoledig yn parhau i weithio ar yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol.

Yn eu diweddariad ar gynnydd ym mis Mawrth, cynigiodd y llywodraethau sefydlu cyfres newydd o bwyllgorau rhynglywodraethol yn lle’r JMC, gan nodi cynlluniau ar gyfer:

  • grwpiau rhyngweinidogol ar lefel portffolio;
  • Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol i ystyried materion na ellir eu datrys ar lefel portffolio a darparu goruchwyliaeth o fframweithiau cyffredin ar gyfer rheoli gwahaniaethau rheoliadol y tu allan i’r UE; a
  • fforwm newydd i benaethiaid y pedair llywodraeth i oruchwylio’r system llywodraethu aml-lefel yn sgil datganoli.

Fodd bynnag, methodd y llywodraethau â dod i gytundeb ar rai materion, gan gynnwys cynigion i bwyllgorau newydd ystyried cysylltiadau rhwng y DU a’r UE a rhyngwladol a chyllid a’r hyn y dylid galw’r fforwm newydd ar gyfer penaethiaid llywodraethau.

Roedd y diweddariad hefyd yn nodi cynlluniau ar gyfer rhai newidiadau mwy sylfaenol i strwythurau rhynglywodraethol. Gan nodi galwadau am ddiwygio, cynigiodd:

  • gydnabod y gall cyrff rhynglywodraethol wneud penderfyniadau ffurfiol;
  • adolygu’r broses datrys anghydfodau, i’w gwneud yn ofynnol i’r llywodraethau gymryd cyngor trydydd parti ar anghydfodau a sicrhau bod cyfarfodydd datrys anghydfodau yn cael eu cadeirio gan berson a gymeradwyir gan bob ochr;
  • caniatáu i gylchdroi lleoliadau a chadeiryddion cyfarfodydd rhynglywodraethol; a
  • chynyddu tryloywder a gwella atebolrwydd i ddeddfwrfeydd.

Ym mis Medi, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, wrth yr Aelodau ei fod yn fwy optimistaidd nag yn y gorffennol ynglŷn â’r posibilrwydd o ddod i gytundeb. Ers hynny, ni nodwyd unrhyw gynnydd.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru