Y Cynulliad i gynnal dadl ynghylch cyllid yr Heddlu ar gyfer 2019-20

Cyhoeddwyd 08/02/2019   |   Amser darllen munudau

Ar 12 Chwefror, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal dadl ynghylch cyllid yr Heddlu ar gyfer 2019-20. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer 2019-20 gan Lywodraeth Cymru a dyraniadau Grant Heddlu y Swyddfa Gartref ar 24 Ionawr 2019.

Bydd yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael cynnydd o 2.1 y cant mewn cyllid yn 2019-20 (o’i gymharu â 2018-19, ar sail gyfatebol). Mewn termau real, mae hwn yn gynnydd o 0.3 y cant (yn ôl prisiau 2018-19)

Ystyr hyn yw, y bydd heddluoedd Cymru yn cael cynnydd o £7.3 miliwn o ran y gefnogaeth a gânt gan y llywodraeth ganolog, a bydd cyfanswm o £357.3 miliwn ar gael y flwyddyn nesaf. Hwn yw’r cynnydd ariannol cyntaf mewn cyllid y llywodraeth yng nghyfnod y Cynulliad hwn (yn 2013-14 yr oedd y cynnydd diwethaf ar gyfer yr Heddlu, o ran cefnogaeth ganolog gan y llywodraeth). Yn ogystal â chyllid canolog, mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hefyd yn gosod praesept y Dreth Gyngor bob blwyddyn, ac mae ganddynt hawl i grantiau arbennig a grantiau penodol.

Tabl 1: Cyfanswm y gefnogaeth ganologDaw’r mwyafrif o gyllid canolog i heddluoedd Cymru o’r Swyddfa Gartref (tua 60 y cant), ac mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am dalu’r elfen o’r arian a ddarparwyd yn flaenorol gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU (tua 40 y cant).

Caiff yr arian ei ddosbarthu ar sail fformiwla, fodd bynnag, mae’r fformiwla a weithredir gan y Swyddfa Gartref yn cynnwys mecanweithiau sy’n sicrhau bod yr holl heddluoedd yn derbyn yr un newid o ran cyllid, o’r naill flwyddyn i’r llall.

Er yr ystyriwyd cynnal adolygiad o newid y fformwla ac y gwnaed cynigion yn hyn o beth, nid yw’r cynigion hynny yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Argymhellodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn ei hadroddiad ‘Cynaliadwyedd ariannol heddluoedd yng Nghymru a Lloegr 2018‘, yn ddiweddar, y dylai’r Swyddfa Gartref adolygu’r fformiwla ariannu, ac ar adeg y setliad dros dro ar gyfer 2018-19, dywedodd Nick Hurd AS, y Gweinidog Gwladol dros Blismona a Gwasanaethau Tân, mai bwriad y Llywodraeth yw ail-edrych ar y fformiwla cyllido yn yr Adolygiad o Wariant nesaf (y disgwylir iddo gael ei gynnal yn 2019). Yn ystod y ddadl ar gyllido yn Senedd y DU, gofynnwyd i Nick Hurd ynghylch y fformiwla ariannu, ac atebodd ef:

...there is a serious set of decisions to be taken about how funding is allocated across police forces; there is a very serious issue around the fairness of that allocation, and I have indicated very clearly that this settlement is the final stepping stone on the journey towards that work in the CSR [Comprehensive Spending Review], which is the appropriate strategic framework in which to settle police funding for the next five years.

Tabl 2: Y newid i gyfanswm y gefnogaeth ganolog ers y flwyddyn flaenorolCytunir ar arian yr heddlu fel rhan o broses dau gam, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref ffigurau dros dro ym mis Rhagfyr 2018. Nid oes dim newid rhwng y ffigurau dros dro a’r ffigurau terfynol.

Yn ogystal â chyllid craidd ar gyfer heddluoedd, bu newidiadau hefyd i feysydd eraill. Fel rhan o Gyllideb y DU 2018 cyhoeddodd y Canghellor gynnydd mewn cyllid gwrthderfysgaeth o £59 miliwn (8 y cant) o’i gymharu â 2018-19 (cyfanswm y gyllideb gwrthderfysgaeth ar gyfer 2018-19 yw £816 miliwn). Sicrheir bod cyllid hefyd ar gael i dalu rhan o’r costau sy’n gysylltiedig â’r cynnydd yng nghyfraniadau pensiynau’r sector cyhoeddus yn 2019-20.

Un o elfennau allweddol eraill cyllid yr Heddlu yw’r Dreth Gyngor. Mae’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gosod praesept bob blwyddyn. Yn 2018-19 roedd hwn yn cyfrif am rhwng £224.56 a £258.12 o fil cyfartalog y Dreth Gyngor ar gyfer Band D. Y newid y llynedd i’r elfen yr Heddlu oedd cynnydd o rhwng 3.6 y cant (gogledd Cymru) a 7 y cant (de Cymru). Roedd yr heddlu yn cyllidebu er mwyn i’r dreth gyngor gwmpasu tua 45 y cant o’u harian yn 2018-19 (£290 miliwn o £640 miliwn, ac eithrio grantiau arbennig a grantiau penodol).

Gallwch wylio’r ddadl ar Setliad Terfynol yr Heddlu ar Senedd.tv o tua 3.45 o’r gloch brynhawn y 12 Chwefror.


Erthygl gan Owen Holzinger, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru