Y Cynulliad i drafod perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood

Cyhoeddwyd 29/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mercher (1 Mai), bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood (PDF 571KB).

Mae gwaith craffu y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a oedd yn cynnwys manylion ynglŷn â’r £9.4 miliwn o bunnau a wariwyd gan Lywodraeth Cymru i brynu ac ailddatblygu eiddo yng Nghaerdydd i greu stiwdio ffilm a theledu newydd. Roedd yr adroddiad yn nodi manylion am Gytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru a Pinewood, a oedd yn ceisio hyrwyddo cynhyrchiant ffilm a theledu yng Nghymru, ac yn cynnwys:

  • gosod y stiwdio ar brydles i Pinewood (dros 15 mlynedd);
  • creu Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau gwerth £30 miliwn, i gefnogi cynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru dros bum mlynedd; a
  • ‘noddi’ Pinewood i hyrwyddo’r stiwdio (am gost flynyddol o £525,600 dros y cyfnod o bum mlynedd).

Mae hefyd yn nodi'r ffeithiau sy'n arwain at derfynu'r cytundeb hwnnw, ynghyd â manylion y Cytundeb Gwasanaethau Rheoli olynol, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2017.

Trafododd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ystod haf 2018, pan oedd yn cynnal ymchwiliad i gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth i'r Pwyllgor hwnnw ar gael ar dudalen ymchwiliad y Pwyllgor.

Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus syndod y Pwyllgor o ran y diffyg eglurder yng nghontract Llywodraeth Cymru â Pinewood, a hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chomisiynu arolwg strwythurol ar y safle a brynwyd. Yn ei ragair i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, aeth y Cadeirydd ymlaen i ddweud:

Roedd hefyd y cyngor anghywir, anghyflawn ac o ansawdd gwael a ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar sawl achlysur, gan bwysleisio eto’r pwysigrwydd a’r angen am gyngor swyddogol amserol, cywir ac o ansawdd uchel i Weinidogion, rhywbeth sydd mor hanfodol i gefnogi penderfyniadau cadarn a gwybodus y Gweinidogion.

Nid yw’r adroddiad yn cynnwys barn o ran a oedd y cytundeb â Pinewod yn cynrychioli gwerth am arian. Mae'n gwneud naw argymhelliad, y gallwch eu darllen yma (PDF 571KB).

Mae'r ddadl ar yr adroddiad wedi'i threfnu ar gyfer 15:25 (amser bras yn unig) ar 1 Mai. Gallwch ei gwylio'n fyw ar SeneddTV.


Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru