Cerddwyr mewn parc yng Nghaerdydd

Cerddwyr mewn parc yng Nghaerdydd

Y cynnydd mewn gordewdra: rhywbeth i gnoi cil arno

Cyhoeddwyd 07/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae gordewdra’n cael ei gydnabod fel un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r cyflwr ar gynnydd yng Nghymru, fel y mae mewn mannau eraill.

Mae gordewdra yn ffactor risg allweddol ar gyfer ystod eang o glefydau cronig, gan gynnwys diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel, clefyd cardiofasgwlaidd, a rhai canserau. Mae hefyd yn effeithio ar lesiant pobl, eu gallu i weithio, ac ansawdd eu bywyd.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lansio ymchwiliad sy’n edrych ar atal a lleihau gordewdra. Mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at gymhlethdod y mater, a pham mae portreadu gordewdra fel mater o gyfrifoldeb personol yn unig yn anwybyddu’r ffactorau allanol, arwyddocaol sydd ar waith.

Gordewdra yng Nghymru

Yn nechrau’r Senedd hon, dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai mynd i’r afael â gordewdra yn un o’i blaenoriaethau allweddol:

I can give you an absolute commitment that this is an area where I'm going to park my tanks. I think it's absolutely unacceptable that 20% of our children go to school obese or overweight by the age of 5 […] I'm absolutely determined that this is an area that we should focus on.

Mae'r ffigurau diweddaraf o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 62% o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew (nodir bod 25% yn ordew).

Mae cyfraddau hefyd yn cynyddu ymhlith plant. Mae Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2023 yn nodi bod bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn dechrau ysgol gynradd dros ei bwysau neu'n ordew.

Mae cyfraddau gordewdra yn llawer uwch yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Yn ôl ardal awdurdod lleol, mae cyfraddau’r rhai sydd dros eu pwysau neu sy’n ordew’n amrywio o 52% ym Mhowys i 78% ym Mlaenau Gwent (lle y nodir bod 37% o oedolion yn ordew).

Map sy’n nodi’r cyfraddau gordewdra mewn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol ar draws Cymru. Mae’r map yn dangos bod y cyfraddau isaf mewn ardaloedd megis Powys a Sir Fynwy, a bod y rhai uchaf ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful, wedyn Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili.

Yn ôl amcangyfrif blaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gordewdra yn costio £73 miliwn i’r GIG yng Nghymru. Erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd y ffigur yn codi i £465 miliwn. O ran y gost ehangach i gymdeithas ac economi Cymru, yr amcangyfrif yw £2.4 biliwn erbyn 2050.

Pam mae cynnydd mewn gordewdra?

Yn fyd-eang, mae gordewdra bron wedi treblu ers 1975. O’r blaen, byddai gorbwysau a gordewdra’n cael eu hystyried yn broblem ar gyfer gwledydd incwm uchel, ond bellach, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi eu bod ar gynnydd mewn gwledydd incwm isel a chanolig, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyfeirio at newidiadau mewn patrymau dietegol a gweithgarwch corfforol, yn aml o ganlyniad i newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn dweud bod gordewdra yn deillio yn y pen draw o anghydbwysedd egni, ond bod yr ymddygiadau sy’n creu’r anghydbwysedd hwn yn datblygu o dan ddylanwad ryngweithiad cymhleth o ffactorau biolegol, seicolegol, cymdeithasegol ac amgylcheddol.

Nid yw pobl wedi mynd yn fwy barus nac yn fwy diog, yn ôl Sefydliad dros Lywodraeth. Mae’n disgrifio newidiadau enfawr mewn systemau bwyd sy’n ei gwneud yn fwyfwy anodd i’r diwydiant bwyd werthu bwyd iach ac, ar lefel gymdeithasol, i ddefnyddwyr fwyta’n iach.

Mae adroddiad blynyddol diweddaraf y Prif Swyddog Meddygol yn trafod y ffyrdd y mae'r diwydiant bwyd yn dylanwadu ar ddewisiadau ac ymddygiad pobl (a elwir yn 'benderfynyddion masnachol iechyd'). Mae’r rhain yn cynnwys:

  • marchnata, a all gynyddu dymunoldeb a derbynioldeb nwyddau llai iach;
  • lobïo, e.e. er mwyn osgoi rheoleiddio llymach;
  • strategaethau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, sy’n gallu “dargyfeirio sylw a gwyngalchu enw da sydd wedi’i faeddu”; a
  • chadwyni cyflenwi helaeth, sy'n ehangu dylanwad cwmni ledled y byd.

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn adleisio galwadau Sefydliad Iechyd y Byd am newid paradeim:

Public health cannot and will not improve without action on the commercial determinants of health, from the local to global level.

Ffocws ar y blynyddoedd cynnar

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn amlygu’r ffaith bod y systemau biolegol ac ymddygiadol sy’n gyfrifol am archwaeth a straen yn datblygu fwyaf yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn, sy’n golygu bod beichiogrwydd a phlentyndod cynnar yn gyfnod hollbwysig ar gyfer atal gordewdra:

There is very strong evidence that the quality of nutrition during pregnancy and immediately after a child is born exerts a powerful influence over their later obesity risk in childhood and adulthood. […] Obesity in early life tracks strongly into later childhood, and on into adolescence and then adulthood, highlighting the importance of intervening during the pre-school years.

Stigma, gwahaniaethu, ac iechyd meddwl

Mae stigma a gwahaniaethu ynghylch pwysau yn agweddau cyffredin sydd â gwreiddiau dwfn yn y gymdeithas; maen nhw’n gallu llesteirio ymdrechion atal a dwysáu iechyd gwael. Mae'n effeithio ar iechyd meddwl (e.e. mae risg uwch o orbryder, iselder, a hunan-niweidiol), ac ar iechyd corfforol (e.e. trwy osgoi gofal iechyd ac ymarfer corff neu oherwydd anallu i gael mynediad atynt).

Gall ffactorau seicolegol megis straen, iselder, unigrwydd a chaethiwed, yn eu tro, gyfrannu at arferion bwyta afiach a bywydau eisteddog.

Gall stigma a gwahaniaethu ar sail gordewdra hefyd gael effaith negyddol ar ragolygon cyflogaeth a dilyniant gyrfa.

Mae’r cyfathrebu ynghylch gordewdra (yn y cyfryngau, er enghraifft) yn aml yn cyfleu’r syniad mai’r unigolyn sy’n gyfrifol am ordewdra ac am yr ateb iddo (e.e. mae gordewdra yn ganlyniad i ddiffyg ewyllys rhywun). Mae canllawiau a luniwyd ar gyfer Grŵp Hollbleidiol Seneddol y DU ar Ordewdra yn nodi:

the evidenced complexity of obesity is rarely disseminated to the public and these simplistic and often stigmatising portrayals contribute to the formation and maintenance of stigmatising attitudes and beliefs.

Strategaeth Llywodraeth Cymru

Pwysau Iach: Cymru Iach (a gyhoeddwyd yn 2019) yw strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru. Mae'r strategaeth yn cydnabod bod llawer o ffactorau'n cyfrannu at ordewdra, a hynny ar lefelau unigol, cymunedol, cymdeithasol a byd-eang.

Mae cynllun cyflawni presennol y strategaeth yn rhedeg o 2022 i 2024. Un o’i feysydd blaenoriaeth yw llywio’r amgylchedd bwyd a diod tuag at opsiynau cynaliadwy ac iachach.

Yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar 'amgylchedd bwyd iach' yn 2022, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y bydd rheoliadau i gyfyngu ar leoli a phrisio mewn modd sy’n hyrwyddo cynhyrchion sy’n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen (gan gynnwys bargeinion pryd bwyd) yn cael eu gosod yn hydref 2024.

Mae cynllun cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach yn cydnabod pwysigrwydd beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar, ac yn cynnwys ffocws ar gefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd. Yn ystod y gwaith craffu diweddar ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at fuddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru yn y rhaglenni Sgiliau Maeth am Oes a Chychwyn Iach, gan nodi bod cyfradd y teuluoedd sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach bellach gyda'r gorau yn y DU.

Fodd bynnag, mae dull cydgysylltiedig, trawslywodraethol yn allweddol. Mae tystiolaeth a gafwyd yn ystod y gwaith craffu ar Fil Bwyd (Cymru) Peter Fox AS yn dwyn sylw at feysydd lle mae polisïau Llywodraeth Cymru yn anghyson â’i gilydd ac o bosibl yn tynnu’n groes i’w gilydd. Cyfeiriodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft, at y system gynllunio:

guidance attached to the Town and Country Planning Act in Wales doesn’t enable local authorities to limit fast-food premises, for example, be they around schools or in high density in areas of high levels of obesity.

Er bod ymyrraeth gan y llywodraeth ym maes bwyd a diod yn aml yn ennyn beirniadaeth o 'wladwriaeth faldodus', mae Sefydliad Iechyd y Byd yn gwneud y pwynt bod amgylcheddau cefnogol yn hanfodol ar gyfer llywio dewisiadau pobl. Mae'n pwysleisio nad yw unigolyn yn gallu ymarfer ei gyfrifoldeb yn llawn oni bai bod bwydydd iach a gweithgaredd corfforol rheolaidd ar gael fel y dewisiadau hawsaf, h.y. dewisiadau sy’n hygyrch, ar gael, ac yn fforddiadwy.

Gallwch ddarllen mwy am waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ordewdra ar wefan yr ymchwiliad.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru