Gwaith dur Port Talbot gyda heol yn y tu blaen

Gwaith dur Port Talbot gyda heol yn y tu blaen

Y cynllun gorau ar gyfer dur neu'r rhataf? Tata yn cyhoeddi’r camau nesaf ac yn ymgynghori ar golli hyd at 2,800 o swyddi

Cyhoeddwyd 23/01/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 19 Ionawr, cyhoeddodd Tata Steel y bydd yn dechrau ymgynghoriad ffurfiol ar golli hyd at 2,800 o swyddi yn ei weithrediadau yn y DU. Fel cyflogwr mawr a chyfrannwr mwyaf y sector preifat at allbwn economaidd Cymru, bydd hyn yn effeithio ar weithlu a chontractwyr Tata, ac yn cael effeithiau ehangach ar gymunedau lleol.

Mae ein herthygl yn ymdrin â’r cyhoeddiad am golli swyddi a’r ymateb i hyn, yn nodi manylion y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Tata, ac yn archwilio pa opsiynau amgen sydd wedi’u cynnig.

Beth a gytunwyd rhwng Tata a Llywodraeth y DU i ddatgarboneiddio gwaith dur Port Talbot?

Safle Tata ym Mhort Talbot yw allyrydd carbon mwyaf y DU, a haearn a dur oedd yn gyfrifol am 37 y cant o gyfanswm allyriadau diwydiant a busnes Cymru yn 2019.

Ym mis Medi 2023, daeth Llywodraeth y DU a Tata i gytundeb y byddai Llywodraeth y DU yn buddsoddi £500 miliwn i ddatgarboneiddio’r gwaith ym Mhort Talbot, gyda Tata yn buddsoddi £750 miliwn arall. O dan y cytundeb hwn:

  • Bydd ffwrnais arc drydan newydd a chyfleusterau cysylltiedig yn cymryd lle'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
  • Mae Llywodraeth y DU yn dweud y gallai ei chytundeb gyda Tata ddiogelu dros 5,000 o swyddi o’r 8,000 sy’n cael eu cyflogi gan Tata ar draws y DU. Heb y buddsoddiad, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’r safle ym Mhort Talbot dan fygythiad difrifol fel arall, a dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach fod Tata yn colli dros £1 filiwn y dydd ym Mhort Talbot.
  • Bydd y buddsoddiad yn gostwng allyriadau yn sylweddol - 22 y cant yn llai o allyriadau Cymru a 85 y cant yn llai o allyriadau o safle Port Talbot.
  • Mae Bwrdd Pontio wedi ei sefydlu, gyda £100 miliwn o gyllid i gefnogi gweithwyr, busnesau a chymunedau y mae hyn yn effeithio arnynt.

Beth mae Tata wedi’i ddweud am golli swyddi, a chymorth i weithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt?

Cyhoeddodd Tata ar 19 Ionawr y bydd yn dechrau ymgynghoriad ffurfiol ynghylch colli hyd at 2,800 o swyddi ar draws ei weithrediadau yn y DU, a gallai tua 2,500 ohonynt gael eu colli yn ystod y 18 mis nesaf. Dywedodd y bydd yn ymdrechu i gynnig cynifer â phosibl o ddiswyddiadau gwirfoddol cyn ceisio unrhyw ddiswyddiadau gorfodol. Ymhen tair blynedd, gallai hyn effeithio ar 300 o swyddi pellach, a allai gynnwys y posibilrwydd o gyfuno ac ad-drefnu asedau rholio oer yn Llanwern.

Bydd Tata yn cau un o’i ddwy ffwrnais chwyth yng nghanol 2024, a bydd asedau ‘pen trwm’ eraill – gan gynnwys yr ail ffwrnais chwyth – yn dirwyn i ben yn ystod ail hanner 2024.

Yn ogystal â chyllid y Bwrdd Pontio, dywed Tata y bydd yn darparu dros £130 miliwn ar gyfer pecyn cymorth cynhwysfawr i weithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt, gan gynnwys telerau dileu swyddi, rhaglenni cymunedol, hyfforddiant sgiliau a mentrau chwilio am waith.

Sut bydd Tata yn symud i wneud dur ffwrnais arc drydan?

Mae ffwrneisi arc drydan yn defnyddio trydan i doddi dur sgrap yn bennaf, ac maent yn cynhyrchu allyriadau carbon llawer is na ffwrneisi chwyth i wneud dur. Fodd bynnag, mae angen llai o weithwyr i weithio ffwrneisi arc drydan.

Graffeg yn dangos sut caiff dur ei wneud gan ddefnyddio ffwrnais arc drydan

Ffynhonnell: Tata Steel, How electric arc steelmaking works

Bwriad Tata yw i’r ffwrnais arc drydan fod yn gweithio yn 2027, ac mae wedi dechrau ar y gwaith dylunio a chynllunio adeiladu er mwyn cyflawni hyn. Mae mewn trafodaethau gyda’r Grid Cenedlaethol, ac wedi dechrau ymgysylltu â’r awdurdod lleol a rheoleiddwyr.

Dywed Tata ei fod wedi dewis symud i wneud dur ffwrnais arc drydan i drawsnewid Tata Steel UK yn fusnes cynaliadwy, effeithlon o ran cyfalaf a phroffidiol. Mae’n dweud bod cyflenwad digonol a dibynadwy o ddur sgrap yn y DU, bod ffwrneisi arc drydan yn dechnoleg sydd wedi’i hen sefydlu, a bod llawer o’i dechnoleg bresennol fel ffwrneisi chwyth a ffyrnau golosg yn dod i ddiwedd eu hoes weithredol.

Dywed y cynllun Syndex a gymeradwywyd gan undebau Community a GMB fod cynllun Tata yn wynebu risgiau:

  • Un o’r risgiau mwyaf yw’r orddibyniaeth ar ddur sgrap, haearn briciau poeth a haearn bwrw. Dywed fod arbenigwyr yn y farchnad sgrap wedi mynegi eu pryder ynglŷn â’r trafferthion y byddai’r prosiect presennol yn eu hwynebu.
  • Nodwyd bod maint y ffwrnais arc drydan arfaethedig yn wynebu heriau technolegol difrifol, gan gynnwys cael cysylltiad â’r grid, a’r Grid Cenedlaethol yn adeiladu is-orsaf newydd. Mae Syndex yn awgrymu bod prosiectau tebyg yn y DU wedi gofyn dwy flynedd, ond bod yn rhaid ystyried amseroedd hirach yn benodol o ganlyniad i her bosibl y cais am drwydded.
  • Yn fwy cyffredinol, mae pryderon hefyd y bydd y dull gweithredu hwn, ynghyd â British Steel yn cynnig symud i wneud dur arc drydan yn ei ffatri yn Scunthorpe, yn gadael y DU heb y gallu i wneud dur crai. Mae'r undebau’n credu bod hyn yn hanfodol i ddiogelwch cenedlaethol ac economaidd y DU.

Pa ymateb a gafwyd?

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi:

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn ergyd gymdeithasol ac economaidd gas fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol a difrifol i Gymru. Ein barn bendant ni yw bod gan Brif Weinidog y DU a'i gabinet y galluoedd a allai osgoi'r senario gwaethaf hwn a maint y golled economaidd sy'n ein hwynebu nawr.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud:

We are determined to secure a sustainable and competitive future for the UK steel sector.

[This is] why we have committed £500 million of UK Government support that will transform the site and protect thousands of jobs – both in Port Talbot and throughout the supply chain.

There is a broad range of support for staff affected, including a dedicated Transition Board backed by £80 million funding from UK Government and £20 million from Tata Steel.

Disgrifiodd undebau llafur Community a GMB gynlluniau Tata fel rhai ‘cwbl annerbyniol’, gan ychwanegu eu barn hwy:

It is an absolute disgrace that Tata Steel, and the UK Government, appear intent on pursuing the cheapest instead of the best plan for our industry, our steelworkers and our country.

Mae Unite wedi dweud ei fod yn cymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i amddiffyn gweithwyr dur, a bod angen i Lywodraeth y DU gymryd camau ar unwaith i warchod gwaith dur ar raddfa fawr yn y DU.

Pa opsiynau amgen a gynigiwyd gan yr undebau?

Cymeradwyodd undebau Community a GMB gynllun amgen a luniwyd gan Syndex. Roedd hyn yn galw am fuddsoddiad ychwanegol o £683 miliwn mewn cynllun amgen, sy’n cynnwys:

  • Cyfnod pontio dau gam a fyddai’n diogelu 2,300 o swyddi pellach am dros ddegawd. Dywed Syndex y gellir cyflawni hyn heb unrhyw ddiswyddiadau gorfodol.
  • Yn ystod cyfnod pontio cychwynnol rhwng 2024 a 2028, mae’r cynllun yn awgrymu y byddai un o’r ffwrneisi chwyth yn cau, yn ogystal â’r ffyrnau golosg o bosibl. Byddai ffwrnais arc drydan yn cael ei gosod rhwng 2028 a 2031.
  • Byddai’r ffwrnais chwyth arall yn cynhyrchu haearn i'w ddefnyddio yn y ffwrnais arc drydan newydd ochr yn ochr â dur sgrap.
  • Byddai'r ail ffwrnais chwyth yn cau yn 2032, pan fyddai ail ffwrnais yn gweithio – naill ai arc drydan neu fath arall.

Mae Unite wedi datblygu ei Gynllun Gweithwyr ar gyfer Dur ei hun, sy'n galw am ddull gweithredu gwahanol.

Mae Tata wedi ystyried y cynnig gan Community a GMB, ac mae wedi cytuno i fabwysiadu elfennau ohono, ond mae o’r farn nad yw parhau i gynhyrchu â ffwrnais chwyth yn ymarferol nac yn fforddiadwy oherwydd costau gweithredu rhagamcanol y cynnig, ac y byddai adeiladu ffwrnais arc drydan ar safle toddi dur presennol yn llawn risg. Bydd yn parhau i weithredu'r felin strip boeth ym Mhort Talbot, nad oedd yn ei gynllun gwreiddiol.

Beth sydd nesaf?

Bydd Tata yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ei gynigion, a rhaid i hyn ddechrau o leiaf 45 diwrnod cyn dileu unrhyw swyddi.

Bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad ar Tata Steel yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Ionawr.

Mae Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd hefyd wedi dweud bod y Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiwn frys “i fynd at wraidd cwestiynau sydd heb eu hateb ac i gael sicrwydd ynghylch y cymorth sydd ar gael i bobl yr effeithir arnynt”.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru