Cae gyda mamog a dau oen

Cae gyda mamog a dau oen

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: diweddariad 2024

Cyhoeddwyd 11/04/2024   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion y bu disgwyl mawr amdanynt ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ym mis Rhagfyr 2023 – dyma yw’r cynllun cymorth amaethyddol ar gyfer y dyfodol.

Byddai’r cynigion, sy'n adeiladu ar ymgynghoriadau blaenorol, yn gwobrwyo ffermwyr am weithredoedd i hyrwyddo Rheoli Tir yn Gynaliadwy. Maent yn wyriad sylweddol oddi wrth y system bresennol o daliadau uniongyrchol, gyda mwy o bwyslais ar wobrwyo am nwyddau cyhoeddus, yn enwedig am gymryd camau amgylcheddol.

Mae’r cynigion wedi cael ymateb cryf gan y diwydiant ffermio, gyda phryderon ynghylch dichonoldeb y cynigion ar gyfer systemau ffermio gwahanol. Mae pryder ynghylch y dull talu a’r gyllideb bosibl. Mae’r undebau amaeth yn rhybuddio y bydd niferoedd isel yn ymuno â’r cynllun, gan gyfyngu ar ganlyniadau bwriadedig y cynllun. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i gynllunio ar gyfer 2025 ond mae undebau’r ffermwyr wedi dweud y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru aros cyn ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod y system newydd yn rhoi digon o sefydlogrwydd i fusnesau amaethyddol.

Mae grwpiau amgylcheddol yn rhybuddio am natur frys yr argyfyngau hinsawdd a natur. Er eu bod yn croesawu uchelgais y cynigion, mae consensws efallai na fydd y cynllun yn ddigon deniadol fel y mae wedi’i ddrafftio.

Mae'r Senedd wedi bod yn craffu ar y cynllun ac mae’r sylw’n troi’n awr at yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gyfer y camau nesaf.

Mae ein papur briffio yn crynhoi'r cynigion a’r mateb gan randdeiliaid.


Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru