Y coronafeirws: y cyfnod atal byr

Cyhoeddwyd 23/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ddydd Llun 19 Hydref cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cyfnod atal byr yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref 2020 tan ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Mae'r erthygl hon yn amlinellu'r hyn a arweiniodd at y cyfnod atal byr a’r cyfyngiadau a fydd ar waith.

Mae'r term 'cyfnod atal byr' yn cyfeirio at y cyfyngiadau cenedlaethol a gaiff eu cyflwyno ddydd Gwener 23 Hydref. Er bod y termau ‘circuit breaker’ a ’firebreak’ yn cael eu defnyddio yn Saesneg i ddisgrifio ‘cyfnod atal byr’, mae’r term ‘circuit breaker’ neu ‘ddangosydd sbardun’ yn Gymraeg, yn cyfeirio at nifer o ddangosyddion sy'n cael eu defnyddio i rybuddio Llywodraeth Cymru fod y gyfradd heintio’n codi. Caiff y term ‘dangosydd sbardun’ ei esbonio’n ddiweddarach yn yr erthygl hon.

Beth sydd wedi arwain at y sefyllfa hon?

Ers mis Medi, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfyngiadau ar waith mewn nifer o ardaloedd lleol er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu. Gallwch ddarllen rhagor am gyfyngiadau coronafeirws lleol yn ein herthygl sy’n cynnwys map rhyngweithiol.

Wrth gyhoeddi cyfnod atal byr, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Er bod y camau cenedlaethol a lleol sydd wedi bod ar waith ledled Cymru wedi helpu i reoli lledaeniad y feirws, mae consensws yn datblygu hefyd fod angen cymryd camau pellach yn awr.

Yn ystod y cyfnod atal byr, bydd cyfres o fesurau cenedlaethol yn disodli’r cyfyngiadau lleol.

Cyngor gwyddonol

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyngor gwyddonol gan ei Chell Cynghori Technegol (TAC) ei hun a chan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) Llywodraeth y DU. Cewch ragor o wybodaeth am y grwpiau hyn yn ein herthygl sydd hefyd yn cynnwys diffiniadau o dermau allweddol fel y rhif R.

Yn ôl cofnodion Cyfarfod SAGE ar 21 Medi, , bydd angen mabwysiadu pecyn o ymyriadau i wrthdroi’r cynnydd esbonyddol hwn yn nifer yr achosion, ac nid yw ymyriadau unigol, ar eu pennau eu hunain, yn debygol o lwyddo i ostwng R islaw 1. Mae SAGE hefyd yn “hyderus iawn” yn y canlynol:

The more rapidly interventions are put in place, and the more stringent they are, the faster the reduction in incidence and prevalence, and the greater the reduction in COVID related deaths.

Dangosyddion sbardun

Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd TAC adroddiad ar 'ddangosyddion sbardun' a fydd yn cael eu defnyddio i rybuddio’r Llywodraeth fod y gyfradd heintio’n codi a bod angen ystyried cyfyngiadau ychwanegol.

Yn ôl Adroddiad TAC, dyddiedig 19 Hydref, “Torrwyd dau ddangosydd ar gyfer trosglwyddiadau yn y gymuned ac un sy’n ymwneud ag achosion yn yr ysbyty”:

  • Mae nifer yr achosion ledled Cymru yn uwch na 40 fesul 100,000 o'r boblogaeth, a hynny ers 17 Medi. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod nifer yr achosion wedi codi i 126.8 fesul 100,000.
  • Mae'r gyfradd positifedd (y ganran a gafodd ganlyniad positif yn dilyn prawf COVID-19) yn uwch na 5%, a hynny ers 27 Medi. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif mai 11.9% yw’r ffigur hwn.
  • Mae cyfanswm y cleifion sydd mewn gwely gofal critigol (cleifion COVID-19 a chleifion eraill) yn uwch na 150 a hynny ers 30 Medi.

Os bydd ffigurau’n codi uwchlaw’r ddau ddangosydd sbardun cyntaf, mae’n debyg “na fydd modd rheoli nifer yr achosion”, meddai TAC, ac mae’r nifer yn debygol o godi’n esbonyddol. Mae hefyd yn nodi nad oes digon o welyau gofal critigol a/neu staff i ymdopi â nifer sylweddol o gleifion COVID.

Argymhelliad TAC

Yn ei adroddiad i Lywodraeth Cymru, mae TAC yn argymell:.

…cyfnod cyflym a thymor byr o gyfyngiadau syml, eithafol ledled Cymru a fyddai'n lleihau nifer yr achosion o'r feirws yng Nghymru yn sylweddol.

Dywed TAC fod y bydd yn rhaid i'r cyfnod atal leihau'r R cenedlaethol (rhwng 1.1 – 1.4 yn fwyaf diweddar) i lai na 0.9sy'n gofyn am ddull gweithredu cenedlaethol yn hytrach na'r dull presennol a gaiff ei yrru yn lleol”.

Beth yw cyfyngiadau’r cyfnod atal byr?

O 6pm ddydd Gwener 23 Hydref 2020 bydd set newydd o fesurau’n dod i rym ac yn disodli'r cyfyngiadau coronafeirws lleol blaenorol.

Dyma’r prif fesurau sy’n cael eu cyflwyno:

  • Rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn, ee i gael ymarfer corff, gofal plant, addysg, gwasanaethau meddyol neu wasanaethau cyhoeddus eraill;
  • Rhaid i bobl weithio gartref os oes modd;
  • Ni chaiff pobl ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda hwy o dan do nac yn yr awyr agored.
  • Rhaid cau pob busnes manwerthu nad yw’n gwerthu bwyd, a busnesau lletygarwch (caffis, bwytai a thafarndai oni bai eu bod yn darparu gwasanaeth cludfwyd), gwasanaethau cysylltiad agos (busnesau trin gwallt a salonau harddwch), a busnesau digwyddiadau a thwristiaeth.

Mae rhai cyfyngiadau’n wahanol i’r cyfyngiadau cenedlaethol a gyflwynwyd ym mis Mawrth oherwydd, yn ystod y cyfnod atal byr:

  • Bydd oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn gallu ymuno ag aelwyd arall;
  • Bydd ysgolion cynradd ar agor ar ôl hanner tymor a hefyd ysgolion uwchradd i blant ym mlynyddoedd 7 ac 8, a phlant agored i niwed yn unig, a
  • Bydd parciau lleol, meysydd chwarae a champfeydd awyr agored yn aros ar agor.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw’n ailgyflwyno camau gwarchod oherwydd y bydd y cyfyngiadau sydd ar waith “yn gweithredu i leihau lledaeniad y feirws a thrwy gadw’n gaeth at y rheolau gall pobl agored i niwed leihau eu risg o ddal yr haint”.

Mae’r cyfnod atal byr wedi’i seilio ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ("y rheoliadau"). Bydd y rheoliadau’n dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Tachwedd 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am fesurau’r cyfnod atal byr, yn y cwestiynau cyffredin a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru.

Beth nesaf?

Dywedodd Llywodraeth Cymru:

Ar ddiwedd y cyfnod atal byr, caiff cyfres newydd o reolau cenedlaethol eu cyflwyno, yn esbonio sut y caiff pobl gwrdd a sut y bydd y sector cyhoeddus a busnesau’n gweithredu.

Yn ei adroddiad i Lywodraeth Cymru, mae TAC yn argymell y dylid cyflwyno cyfnod o gyfyngiadau cenedlaethol newydd yn dilyn y cyfnod atal byr. Mae’n dweud y “gellir dileu rhai cyfyngiadau presennol os dangosir eu bod yn llai effeithiol neu'n fwy niweidiol nag a ddisgwyliwyd yn wreiddiol”. Fodd bynnag, dywed TAC “y byddai angen newidiadau cynaliadwy mewn ymddygiad mewn sawl agwedd ar fywyd er mwyn i R aros mor agos at 1 â phosibl

Dywed SAGE y gallai cyfnod atal byr achosi oedi o oddeutu 28 diwrnod neu fwy yn yr epidemig. Mae’n nodi’r canlynol hefyd:

If the strategy is to retain control of the pandemic until a vaccine can be deployed at scale, then maintaining a low prevalence will be essential until this time. Government will continue to have to juggle social freedom, economic activity and transmission for many months. It is imperative, therefore, that a consistent series of measures is adopted over the next 6-9 months.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.