Coronafeirws: Y Senedd i drafod adroddiad gan un o’i phwyllgorau ar effaith Covid-19 ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd 30/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Disgwylir i'r Senedd gynnal dadl ar 30 Medi 2020 ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith Covid-19 yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn talu teyrnged i staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr allweddol eraill, gofalwyr, gwirfoddolwyr a'r cyhoedd yng Nghymru, a hynny yng nghyd-destun eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r feirws. Mae’r adroddiad hefyd yn datgan bod pandemig y coronafeirws wedi amlygu gwendidau difrifol mewn sawl maes, gan gynnwys y trefniadau cychwynnol ar gyfer cynhyrchu a chaffael cyfarpar diogelu personol (PPE), y gyfundrefn brofi, capasiti gofal critigol, a'r gallu i warchod pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Cefndir yr adroddiad

Ym mis Mawrth 2020, cytunodd y Pwyllgor i oedi pob busnes nad oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â Covid-19, ac i gynnal ymchwiliad i effaith yr achosion, a’r rheolaeth ohonynt, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith hwn, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chan gyrff cyhoeddus perthnasol. Yn ogystal, rhoddodd ystyriaeth i’r effaith ar staff ac ar gleifion ac eraill sy'n derbyn gofal neu driniaeth yn y gymuned neu mewn lleoliadau clinigol.

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad agored am dystiolaeth a chynhaliodd arolwg er mwyn meithrin dealltwriaeth well o brofiadau gweithwyr rheng flaen, a'r sawl y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt yng nghyd-destun eu hanghenion iechyd neu ofal. Yn ogystal, cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o sesiynau rhithwir er mwyn casglu tystiolaeth lafar gan ystod o sefydliadau a chan Lywodraeth Cymru. Y nod oedd nodi’r gwersi a ddysgwyd hyd yma, a hynny er mwyn cynorthwyo’r broses o reoli'r coronafeirws yn y dyfodol. Dyma fydd y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau ar y mater hwn, gan adlewyrchu'r ffaith bod y coronafeirws yn parhau i fod yn rhan o’n bywydau, a’r ffaith bod materion a heriau newydd yn dod i'r amlwg.

Gwnaeth y Pwyllgor benderfyniad bwriadol i ganolbwyntio ar nifer fach o feysydd 'lle’r oedd y pryderon mwyaf dybryd a’r angen i wneud cynnydd yn gyflym': cyfarpar diogelu personol, profi, gwarchod pobl sy’n agored i niwed, a'r effaith ariannol ar lywodraeth leol a gofal cymdeithasol.

Canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 8 Gorffennaf 2020. Yn y rhagair, mae Dr Dai Lloyd, Cadeirydd y Pwyllgor, yn nodi:

Mae maint yr her sy’n wynebu llywodraethau a’u partneriaid wrth ddelio ag effeithiau Covid-19 wedi bod yn ddigynsail. Gwnaed ymdrechion enfawr ym mhob agwedd ar fywyd, gan arwain at lawer o gyflawniadau sylweddol.

Gwnaeth y Pwyllgor 28 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y camau a ganlyn:

  • Casglu ynghyd cyfarpar diogelu personol a sicrhau bod cyflenwad cadarn ohono, gan ategu’r gwelliannau a gyflawnwyd o ran y sefyllfa hon;
  • Sicrhau bod mynediad hawdd at brofion, yn enwedig ar gyfer gweithwyr allweddol, gydag amseroedd gweithredu cyflym ar gyfer canlyniadau;
  • Sicrhau bod gennym system olrhain cysylltiadau sy’n effeithlon ac yn gwbl weithredol;
  • Sicrhau bod cartrefi gofal yn cael eu gwarchod a'u cefnogi drwy’r drefn brofi;
  • Sicrhau bod dull clir, ymatebol, amserol a thryloyw sydd wedi’i strwythuro’n dda o ran ymdrin â’r rhai sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain neu sy’n agored i niwed;
  • Sicrhau bod cefnogaeth ariannol ar gael i awdurdodau lleol a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru (19 Awst 2020) i adroddiad y Pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at waith caled staff ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn nodi natur ddigynsail yr heriau sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil yr achosion o Covid-19:

Gwnaed penderfyniadau anodd a oedd yn adlewyrchu pwysau ac arwyddocâd y sefyllfa a oedd yn wynebu pob un ohonom ac roeddem yn ymwybodol o'r angen i ymateb i amgylchedd a oedd yn newid yn gyflym iawn.

Mae'r ymateb yn cydnabod bod y Pwyllgor wedi 'gwerthfawrogi'r sefyllfa gymhleth a oedd yn wynebu'r rhai a oedd yn rheoli'r pandemig.' Fodd bynnag, mae'n nodi hefyd bod 'adroddiad y Pwyllgor yn dweud y bydd yn cymhwyso'r dystiolaeth fel y'i gwyddys ar y pryd ond, mewn rhai achosion, mae'n ymddangos bod gwybodaeth a wyddys nawr wedi cael ei chymhwyso'n ôl-weithredol', yn enwedig mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed ynglŷn â chartrefi gofal a'r polisi ar gyfer profi cleifion asymptomatig.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 26 o’r argymhellion (naw ohonynt mewn egwyddor), ond gwrthododd argymhelliad 20 a rhan o argymhelliad 10.

Argymhelliad 10. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau:

  • bod profion mewn cartrefi gofal yn digwydd yn rheolaidd ac yn systematig;
  • bod profion o’r fath yn cael eu gwneud gan unigolion sydd wedi cael hyfforddiant addas yn hytrach na defnyddio pecynnau profi gartref;
  • bod gallu digonol i brofi i gefnogi’r ddau bwynt uchod.

Ni dderbyniodd Llywodraeth Cymru y safbwynt a fynegwyd yn argymhelliad 10 mewn perthynas â defnyddio pecynnau profi gartref mewn cartrefi gofal. Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi bod 'canllawiau a hyfforddiant helaeth wedi cael eu datblygu ar gyfer gweinyddu'r pecynnau profi gartref a chydnabyddir bod y dull hwn yn ffordd effeithiol a hyblyg o ddiwallu anghenion penodol cartrefi gofal'.

Argymhelliad 20. Dylai Llywodraeth Cymru symud ar unwaith i system lle mae olrhain cysylltiadau yn cychwyn naill ai ar ôl derbyn prawf positif, neu o fewn 24 awr.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddweud bod y broses o olrhain cysylltiadau 'ond yn gallu dechrau ar ôl cael canlyniad prawf positif'.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi:

Gallaf gadarnhau bod nifer o'r argymhellion yn adlewyrchu meysydd sydd eisoes ar waith a lle caiff cynnydd cryf ei wneud eisoes...

Byddwch yn ymwybodol nad oedd glasbrint ar gyfer COVID-19. Er bod cynlluniau wedi cael eu datblygu a'u profi ar gyfer pandemig ffliw, roedd graddfa ac effaith COVID-19 yn hollol newydd. Ar y cyd â phartneriaid ym mhob rhan o'r sector iechyd, gofal cymdeithasol a thu hwnt, rydym yn dysgu i atal, cyfyngu a thrin y clefyd hwn, ac rydym yn cydnabod y byddwn yn parhau i fyw gyda'r feirws mewn sawl agwedd ar ein bywydau pob dydd am beth amser eto.


Erthygl gan Dr Paul Worthington, Senedd Ymchwil, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.