Y coronafeirws: Teithio rhyngwladol

Cyhoeddwyd 28/01/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r cyfyngiadau coronafeirws yn llacio, ac mae’n bosibl bod mwy o bobl wrthi’n ystyried trefnu gwyliau dramor neu deithio am reswm arall. Efallai bod Aelodau o’r Senedd eisoes yn cael ymholiadau gan etholwyr yn gofyn iddynt egluro’r rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol.

Mae'r erthygl fer hon yn cyfeirio at ganllawiau swyddogol sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd yn ogystal â ffynonellau eraill o gyngor.

Pwynt allweddol i’w wneud yw y bydd y rheolau ar gyfer teithiau allan o’r Deyrnas Unedig yn wahanol i'r gofynion ar gyfer teithiau i mewn. Gall y naill neu'r llall, neu'r ddau, newid ar fyr rybudd. Efallai y bydd gan wahanol wledydd gyfyngiadau gwahanol ar waith mewn perthynas â dangos bod unigolyn wedi cael y brechlyn, profion COVID, trefniadau cwarantîn a'r rheswm dros deithio i mewn i’r wlad dan sylw. Rhaid i deithwyr gyfeirio at y gofynion mynediad ar gyfer y wlad y maent yn bwriadu ymweld â hi (ac unrhyw wlad y gallent fod yn teithio drwyddi). Hefyd, efallai y bydd gan gludwyr eu gofynion eu hunain o ran profion COVID negyddol, er enghraifft, cyn caniatáu i deithwyr ddefnyddio eu gwasanaethau.

Ffynonellau o wybodaeth:

Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru