“Mae’r system olrhain cysylltiadau yng Nghymru wedi perfformio’n dda hyd yma. Cafodd mwy na 90% o gysylltiadau eu holrhain yn llwyddiannus ers iddi gael ei rhoi ar waith”; dyna beth ddywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd Cymru, ym mis Tachwedd 2020, pan gyhoeddodd arian ychwanegol i bron ddyblu gweithlu’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data wythnosol am y coronafeirws a data perfformiad wythnosol am olrhain cysylltiadau. Ond er bod y data'n bwysig, nid ydynt yn rhoi’r darlun llawn inni.
Dyna pam mae Senedd Ymchwil wedi bod yn gweithio gydag academyddion ym Mhrifysgol Abertawe i ddarganfod rhagor am brofiadau pobl o wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Mae'r ymchwil yn argymell y dylid gwella elfennau o'r gwasanaeth, gan gynnwys cysondeb o ran cyfathrebu, cymorth ariannol a chymorth iechyd meddwl, a dod o hyd i’r rhai nad oes ganddynt y gallu, y cyfle na'r cymhelliant i hunanynysu.
Mae'r erthygl hon yn rhoi’r cyd-destun polisi ar gyfer olrhain cysylltiadau yng Nghymru ac yn esbonio prif ganfyddiadau'r ymchwil.
Profi, Olrhain, Diogelu
Mae’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau’n rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. Y profion sy’n dangos lle mae’r feirws, ac mae’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau’n helpu i atal y feirws rhag lledaenu.
Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau dangos symptomau o coronafeirws (COVID-19), dylent drefnu prawf mor gyflym â phosibl wrth iddyn nhw, a'r bobl sy'n byw yn yr un tŷ â nhw, hunanynysu. Mae olrhain cysylltiadau yn ddibynnol ar brofion yn cael eu cymryd yn gyflym.
Ar ôl cael canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy roi gwybod i'r swyddog olrhain cysylltiadau lleol am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a gofyn iddynt hunanynysu (a chymryd prawf os ydynt hefyd yn dangos symptomau), er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.
Ers cyflwyno'r system olrhain cysylltiadau yng Nghymru ym mis Mehefin 2020, mae dros 156,860 (99%) o achosion positif a 350,987 (92%) o gysylltiadau agos wedi’u holrhain yn llwyddiannus.
Mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) wedi awgrymu bod angen olrhain tua 80% o gysylltiadau pob achos cyfeirio er mwyn i system olrhain cysylltiadau fod yn effeithiol.
Roedd y ffigurau ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf (24 i 30 Ionawr 2021) yn dangos y canlynol:
Y niferoedd y cysylltwyd â hwy
- o'r 4,008 achos positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, llwyddwyd i gysylltu â 3,832 (96%) ohonynt i ofyn iddynt roi manylion y rhai roeddent wedi mewn cysylltiad â hwy’n ddiweddar
- o'r 8,762 cysylltiad agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, llwyddwyd i gysylltu â 7864 (90%) i’w cynghori, neu cafodd eu hachos ei ddatrys mewn ffordd arall.
Yr amser a gymerwyd i gysylltu
- o'r 4,008 achos positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, llwyddwyd i gysylltu â 90% cyn pen 24 awr ar ôl eu cyfeirio at y system olrhain cysylltiadau, a 94% cyn pen 48 awr.
- O'r 8,762 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i’w holrhain, llwyddwyd i gysylltu â 81% cyn pen 24 awr ar ôl i achos positif roi eu henwau, a 85% cyn pen 48 awr.
Mae perfformiad y system olrhain cysylltiadau’n amrywio o’r naill wythnos i’r llall, ac mae cynnydd yn nifer yr achosion positif yn rhoi pwysau ar y system. Mae gallu’r system i weithio'n effeithiol yn dibynnu ar ddau beth:
- Ymgysylltiad y cyhoedd: pan fydd pobl yn ymateb i alwadau gan swyddogion olrhain cysylltiadau a phan fyddant yn agored ac yn onest am eu cysylltiadau; a
- Capasiti: mae gan y gweithlu olrhain cysylltiadau’r capasiti i gysylltu â’r rhai sy'n cael canlyniad positif i ddweud wrthynt am hunanynysu cyn gynted â phosibl, ac i gysylltu â’r rhai y maent wedi bod mewn cyslltiad â hwy i’w darbwyllo hwythau hefyd i aros gartref.
Yng Nghymru, ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol yw’r system olrhain cysylltiadau. Ar hyn o bryd mae bron 2,400 yn gweithio mewn timau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol ledled Cymru.
Ymchwil i brofiadau pobl o’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu
Mae ymchwil a gynhaliodd Dr Simon Williams, Dr Kim Dienes a Dr Paul White ym Mhrifysgol Abertawe yn ystyried profiadau pobl o wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu’r GIG. Cynhaliwyd yr ymchwil hon ar ran Ymchwil y Senedd drwy ein Cofrestr Arbenigwyr COVID-19
Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan Ymchwil y Senedd.
Mae'r ymchwil yn dangos nad yw'r rhaglen olrhain cysylltiadau yng Nghymru mor effeithiol ag y gallai fod eto. Dyma'r prif ganfyddiadau:
- Profiad o’r Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu: Roedd profiad y cyfranogwyr o’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn amrywio. Roedd cryn amrywiad yn yr amser a gymerwyd i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gysylltu ag unigolion o’r adeg y tybiwyd y byddent wedi gallu dal y feirws (33% cyn pen diwrnod a 64% cyn pen 3 diwrnod, 36% cyn pen pedwar diwrnod neu ragor). Roedd cryn amrywiad hefyd o ran pa mor aml y cysylltwyd â’r unigolion wedyn (ee cysylltwyd bob dydd â 25% ohonynt, ond ni chysylltwyd o gwbl wedyn â 50% ohonynt).
- Barn am y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu: Cymysg oedd bodlonrwydd y cyfranogwyr â’r gwasanaeth. At ei gilydd, roedd tua hanner (48%) yn fodlon â’r gwasanaeth, o'i gymharu ag ychydig dros draean (36%) a oedd yn anfodlon. Roedd tua hanner y rhai a ymatebodd i’r arolwg yn fodlon â gallu’r gwasanaeth i ateb eu cwestiynau (54%). Teimlai'r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr fod y cyngor a gawsant gan y gwasanaeth yn glir (70%) ac yn hawdd ei ddilyn (76%).
- Glynu wrth y canllawiau: Roedd nifer dda o’r cyfranogwyr wedi glynu wrth y canllawiau hunanynysu. Roedd 80% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi hunanhynysu'n llwyr a dim ond 1% a awgrymodd nad oeddent wedi hunanynysu o gwbl.
Dyma’r rhesymau mwyaf cyffredin dros beidio â hunanynysu: problemau iechyd corfforol (ee diffyg ymarfer corff, poenau anarferol etc) (46%), problemau iechyd meddwl (ee gorbryder, teimlo'n isel, unigrwydd etc) (46%), addasu i'r drefn ddyddiol arferol (34%). - Er nad oeddent mor gyffredin, roedd rhai problemau eraill o bwys y gellid eu datrys, o bosibl, drwy roi cymorth ychwanegol i ambell un a oedd i fod i hunanynysu, ee roedd rhai yn ei chael yn anodd cael nwyddau hanfodol (20%), roedd gan eraill gyfrifoldebau gofalu (14%) neu broblemau ariannol (12%).
- Cynllun cymorth hunanynysu: Ychydig iawn o ymatebwyr (8%) a gafodd wybod am y cynllun cymorth hunanynysu gan y swyddogion olrhain cysylltiadau. Nid oedd ychydig dros hanner (53%) yn gwybod dim amdano. Roedd ychydig o dan un o bob pedwar (27%) yn teimlo bod hunanynysu’n cael effaith niweidiol ar eu hincwm (ac roedd un o bob deg (10%) yn cytuno'n gryf fod hynny wedi digwydd).
- Iechyd meddwl, Un o'r prif broblemau roedd y cyfranogwyr yn ei hwynebu oedd effaith hunanynysu ar eu hiechyd meddwl. Dywedodd tri chwarter o’r ymatebwyr (75%) nad oedd y swyddog olrhain cysylltiadau wedi holi am eu llesiant emosiynol neu feddyliol. Roedd dros hanner (53%) yn teimlo y byddent wedi hoffi cael rhagor o wybodaeth am gymorth iechyd meddwl tra oeddent yn hunanynysu.
Mae'r adroddiad yn gwneud 4 o argymhellion.
- Argymhelliad 1: Dylai’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu sicrhau bod mwy o gysondeb yn y modd y mae swyddogion olrhain cysylltiadau’n cyfathrebu â’r rhai y gofynnir iddynt hunanynysu, er enghraifft o ran yr amser y mae’n ei gymryd i gysylltu â hwy (yn gyson isel, cyn pen 1-2 diwrnod yn ddelfrydol) ac o ran pa mor aml y byddant yn cysylltu â hwy wedyn (yn gyson uchel, bob dydd yn ddelfrydol).
- Argymhelliad 2. Dylai’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu sicrhau’n gyson fod eu swyddogion yn holi pawb sy’n gorfod hunanynysu am eu sefyllfa ariannol ac, os yw’n berthnasol, dylent roi gwybodaeth benodol iddynt am wneud cais am daliadau hunanynysu neu fathau eraill o gymorth ariannol.
- Argymhelliad 3. Dylai’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu holi’n gyson am lesiant meddyliol ac emosiynol pawb sy’n gorfod hunanynysu a dylent ddarparu adnoddau a llncs a allai eu helpu i gael cymorth iechyd meddwl.
- Argymhelliad 4. Os nad yw pobl yn teimlo bod ganddynt y gallu, y cyfle neu’r cymhelliant i lynu wrth y canllawiau hunanynysu, mae angen eu cofnodi’n systematig a sicrhau eu bod yn cael adnoddau a allai eu helpu i wneud hynny.
Cynhaliwyd yr astudiaeth drwy gyfrwng holiaduron meintiol ynghyd â chyfweliadau ansoddol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021. Fel ar 26 Ionawr, roedd 78 o ymatebion i'r holiadur wedi dod i law ac roedd 14 o gyfweliadau wedi’u cynnal, ac mae’r broses o gasglu data’n parhau.
Y camau nesaf
Wrth i frechlynnau’r coronafeirws gael eu rhoi i bobl, bydd y system profi ac olrhain cysylltiadau’n parhau i fod yn elfen hanfodol o’r ymdrechion i reoli’r pandemig; a hynny, yn fwy na dim, oherwydd nad oes sicrwydd a yw’r brechlyn yn atal rhywun rhag trosglwyddo'r feirws i eraill.
Yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd, esboniodd y Gweinidog Iechyd y bydd angen mwy o bwyslais ar olrhain cysylltiadau er mwyn dechrau llacio’r cyfyngiadau. Bydd Gweinidogion yn awyddus i osgoi'r sefyllfa a gododd ddechrau mis Rhagfyr, pan oedd nifer yr achosion mor uchel yng Nghymru nes bod y timau profi ac olrhain wedi’u llethu’n llwyr, yn enwedig o ystyried yr amrywiolyn newydd, sy’n lledaenu’n haws.
Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth Aelodau Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ar 27 Ionawr fod dau beth a allai fod yn her i'r system o hyd:
One is if we have more new variants that have different characteristics and are much more transmissible. Secondly, if the population compliance is not satisfactory and we still see that people don't pay enough attention to the regulations and guidance, we might see that the system can get overwhelmed.
Ond yn ogystal â nodi’r modd y mae’r timau olrhain cysylltiadau wedi ehangu, a’r dulliau o fonitro perfformiad achosion, mae ymchwil Prifysgol Abertawe yn amlygu profiadau'r rhai sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu. Mae'n tynnu sylw at yr effeithiau ariannol, cymdeithasol ac emosiynol sydd ynghlwm wrth gael canlyniad positif ar ôl cael prawf coronafeirws, neu ar ôl cael gwybod eich bod wedi bod mewn cysylltiadau agos â rhywun a gafodd brawf positif, ac mae’n esbonio’r hyn y mae angen ei wneud i helpu unigolion a’u teuluoedd yn well yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Awdurdon yr astudiaeth: Dr Simon Williams, Dr Kimberly Dienes, Dr Paul White, Prifysgol Abertawe.