Mae busnesau a gweithwyr wedi wynebu effeithiau sylweddol ers dechrau pandemig y coronafeirws, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi datblygu amrywiaeth o fesurau i'w cynorthwyo.
Mae'r erthygl hon yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau gan y ddwy Lywodraeth.
Cymorth gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth busnes i gefnogi busnesau y mae’r cyfyngiadau a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn effeithio arnynt. Mae tair elfen wahanol i’r cyllid hwn.
Grantiau i fusnesau sy’n talu ardrethi busnes
Bydd y grantiau hyn yn darparu cymorth i fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch, manwerthu, twristiaeth a hamdden a’u cadwyni cyflenwi sy’n talu ardrethi busnes. Mae’r grantiau canlynol ar gael:
- £2,000 ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 sydd wedi gweld gostyngiad o 40% mewn trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 13 Chwefror 2022 o gymharu â’r un cyfnod yn 2019/20. Dim ond ar gyfer dau eiddo fesul awdurdod lleol y gall busnesau dderbyn y grant hwn.
- £4,000 ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a 51,000 sydd wedi gweld gostyngiad o 40% mewn trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 13 Chwefror 2022 o gymharu â’r un cyfnod yn 2019-20.
- £6,000 ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a 500,000 sydd wedi gweld gostyngiad o 40% mewn trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 13 Chwefror 2022 o gymharu â’r un cyfnod yn 2019-20.
Gall busnesau cymwys gofrestru ar gyfer y cyllid hwn drwy eu hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion, nid oes angen iddynt gwblhau proses ymgeisio. Mae Busnes Cymru wedi cyhoeddi lincs i’r broses gofrestru ym mhob awdurdod lleol, a bydd yn parhau ar agor tan 14 Chwefror.
Cronfa Cymorth Argyfwng Dewisol
Bydd y gronfa hon yn darparu cymorth i fusnesau yn y sector lletygarwch, manwerthu, twristiaeth a hamdden a’u cadwyni cyflenwi nad ydynt yn gymwys i’r grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi busnes. Bydd yn darparu’r cymorth canlynol:
- Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsis yn gallu gwneud cais am grant o £1,000 os ydynt wedi gweld gostyngiad o 40% o leiaf mewn trosiant ym mis Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022 o gymharu â’r un cyfnod yn 2019-20. Bydd gweithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol hefyd yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
- Bydd busnesau sy’n cyflogi staff yn ogystal â’r perchennog yn gallu gwneud cais am grant o £2,000 os ydynt wedi gweld gostyngiad o 40% o leiaf mewn trosiant ym mis Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022 o gymharu â’r un cyfnod yn 2019-20.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael mewn canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd pob awdurdod lleol wedi agor y gronfa hon ar gyfer ceisiadau erbyn diwedd y dydd ar 21 Ionawr, a bydd y gronfa ar agor i geisiadau am bythefnos ar ôl agor ym mhob awdurdod lleol. Mae Busnes Cymru wedi cyhoeddi rhestr o lincs i’r broses ymgeisio ar gyfer pob awdurdod lleol.
Grantiau Busnes ERF
Mae’r elfen hon o’r cyllid wedi’i thargedu at fusnesau yn y sector lletygarwch, hamdden ac atyniadau a’u cadwyni cyflenwi yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% yn eu trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022. Bydd y cymorth canlynol yn cael ei ddarparu i fusnesau cymwys:
- Bydd busnesau yr oedd rhaid iddynt gau gan y gyfraith yn gymwys i gael grantiau o rhwng £5,000 a £25,000 yn dibynnu ar faint o staff y maent yn eu cyflogi.
- Bydd mannau digwyddiadau ac atyniadau sydd ar agor ond sydd â throsiant is yn gymwys i gael grantiau o rhwng £3,500 a £20,000 yn dibynnu ar faint o staff y maent yn eu cyflogi.
- Bydd busnesau eraill o fewn y sectorau cymwys sydd ar agor ond sydd â throsiant is yn gymwys i gael grantiau o rhwng £2,500 a £15,000 yn dibynnu ar faint o staff y maent yn eu cyflogi.
Mae’r grant ar agor i geisiadau tan 4pm ar 1 Chwefror. Dylai busnesau gwblhau’r gwiriwr cymhwysedd ar wefan Busnes Cymru, ac os ydynt yn bodloni’r meini prawf gallant wneud cais ar ôl ei gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau a Chwestiynau Cyffredin.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi busnes 100% i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerthoedd ardrethol hyd at £500,000 ar gyfer 2021-22 i gyd. Mae hefyd yn darparu rhyddhad o 100% i fusnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol sy’n fwy na £500,000 yn ystod 2021-22.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut mae’r rhyddhad yn gweithredu yn ystod 2021-22, ac mae’n nodi y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu’r cynllun ac y bydd ganddynt ddisgresiwn o ran sut maent yn sicrhau’r nifer uchaf o fusnesau sy’n manteisio ar y rhyddhad a lleihau’r baich gweinyddol i fusnesau.
Yn 2022-23, bydd busnesau yn y sector manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth yn derbyn rhyddhad ardrethi busnes o 50% hyd at uchafswm o £110,000 fesul busnes. Bydd rhagor o fanylion am feini prawf cymhwysedd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Busnes Cymru.
Nod y Grant Rhwystrau rhag Dechrau yw galluogi unigolion di-waith, economaidd anweithgar a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain. Bydd yn darparu grantiau o hyd at £1,000 i helpu unigolion i oresgyn rhwystrau rhag dechrau busnes, gan roi blaenoriaeth i gefnogi’r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Mae’r grant yn rhan o becyn cymorth sy’n cynnwys cyngor un-i-un a gweminarau i feithrin hyder mewn arferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â chyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio; pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig; merched; pobl ifanc 18-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant; a rhai sydd newydd adael coleg neu brifysgol sydd dan gontract i weithio llai nag 20 awr yr wythnos.
Mae’r grant ar agor tan 31 Mawrth 2022, a bydd angen i ymgeiswyr lawrlwytho a chwblhau Datganiad o Ddiddordeb oddi ar wefan Busnes Cymru cyn ei ddychwelyd i BarriersSUG@BusnesCymru.org.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd tenantiaid masnachol na allant dalu eu rhent yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan hyd at 25 Mawrth 2022. Er y bydd tenantiaid masnachol yn parhau i fod yn atebol am y rhent, bydd y mesurau a gyflwynir yn golygu na fydd unrhyw fusnes yn fforffedu eu prydles yn awtomatig ac yn cael eu gorfodi allan o’u hadeilad os byddant yn methu taliad hyd at 25 Mawrth 2022.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o gymhellion i gefnogi cyflogwyr i recriwtio prentisiaid. Mae'r rhain yn berthnasol rhwng 1 Awst 2020 a 28 Chwefror 2022, ac yn cynnwys:
- £4,000 am bob prentis newydd o dan 25 oed sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos;
- £2,000 am bob prentis newydd o dan 25 oed sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos;
- £2,000 am bob prentis newydd 25 oed neu’n hŷn sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos; a
- £1,000 am bob prentis newydd 25 oed neu’n hŷn sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos
Mae'r cymhellion hyn yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5, a chyfyngir y taliadau i uchafswm o 10 prentis i bob cyflogwr.
Rhaid i'r prentis barhau i ddilyn yr un Llwybr Fframwaith Prentisiaeth, ac mae'r cymhellion yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5.
Yn ogystal â'r taliadau hyn, gall busnesau sy'n cyflogi person anabl fel prentis hawlio £1,500 yn ychwanegol am bob prentis newydd sy'n cael ei recriwtio. Mae'r taliadau hyn yn berthnasol i brentisiaid o bob oed, ac maent yn ychwanegol at yr holl gymhellion ar gyfer prentisiaid 16-24 a 25+. Mae’r cymhellion hyn hefyd yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar Lefelau 2 i 5.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag, lle gall cyflogwyr hysbysebu unrhyw gyfleoedd am brentisiaeth yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn treialu Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Trefi ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau sydd am ddechrau a thyfu busnes. Gall busnesau a microfusnesau newydd sydd wedi bod yn masnachu am lai na dwy flynedd fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Mae dwy elfen o gymorth ar gael, sef grantiau a benthyciadau:
- Mae grantiau rhwng £2,500 a £10,000 ar gael drwy Busnes Cymru i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau gyda chostau refeniw sy’n gysylltiedig â dechrau neu adleoli i ganol tref. Mae angen i fusnesau gyflwyno ffurflen mynegi diddordeb erbyn 20 Mehefin 2022. Mae Busnes Cymru wedi cyhoeddi manylion am feini prawf cymhwysedd a chanllawiau ar y gronfa.
- Mae Banc Datblygu Cymru yn darparu benthyciadau dechrau busnes rhwng £1,000 a £50,000. Gellir defnyddio’r rhain fel arian cyfatebol ar gyfer y grant a amlinellwyd uchod. Mae telerau ad-dalu rhwng un a deg mlynedd, ac os oes angen grant yna rhaid i fusnes wneud cais i Busnes Cymru cyn cysylltu â Banc Datblygu Cymru.
Cymorth gan Lywodraeth y DU
Cyflwynwyd y Cynllun Benthyciad ar gyfer Adferiad o 6 Ebrill 2021, a bydd yn rhedeg tan 30 Mehefin 2022. Roedd yn disodli’r Benthyciadau Adfer, y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws, a’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws.
O 1 Ionawr 2022, mae’r Cynllun Benthyciad ar gyfer Adferiad yn darparu benthyciadau o hyd at £2 miliwn ar gyfer busnesau bach a chanolig gyda throsiant blynyddol o £45 miliwn neu lai, a bydd yn gwarantu 70% o’r cyllid i’r benthyciwr. Mae dau fath o gyllid ar gael:
- Bydd benthyciadau cyfnod a gorddrafftiau o rhwng £25,001 a £2 miliwn y busnes ar gael. Mae gorddrafftiau ar gael am hyd at 3 blynedd, tra bod benthyciadau tymor ar gael am hyd at 6 blynedd.
- Bydd cyllid anfoneb a chyllid asedau o rhwng £1,000 a £2 miliwn y busnes ar gael. Mae cyllid anfoneb ar gael am hyd at 3 blynedd, tra bod cyllid asedau ar gael am hyd at 6 blynedd.
Ni chymerir unrhyw warantau personol ar gyfleusterau hyd at £250,000, ac ni ellir defnyddio prif breswylfa breifat y benthyciwr fel sicrwydd.
Mae busnesau yn y DU sydd wedi cael cefnogaeth o dan y cynlluniau benthyciad gwarantedig COVID-19 presennol yn gymwys i gael gafael ar gyllid o dan y cynllun hwn, os ydynt yn bodloni pob un o’r meini prawf cymhwysedd eraill. Bydd angen i gwmnïau ddangos bod y pandemig wedi effeithio ar eu busnes, ei fod yn hyfyw neu y byddai'n hyfyw oni bai am y pandemig, ac nad yw mewn proses ansolfedd ar y cyd.
Mae gwybodaeth bellach a rhestr o fenthycwyr achrededig ar gael ar wefan Banc Busnes Prydain.
O ganol mis Ionawr, bydd Llywodraeth y DU yn ailagor ei chynllun lle gall busnesau bach a chanolig adennill Tâl Salwch Statudol (SSP) a dalwyd am absenoldeb salwch oherwydd coronafeirws. Bydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU.
Cymorth o fath arall
- Mae Deddf Ansolfedd Corfforaethol a Llywodraethu 2020 yn gohirio rhannau o’r gyfraith ansolfedd dros dro drwy gyflwyno moratoriwm o 20 diwrnod busnes i gyfarwyddwyr busnesau ystyried opsiynau i achub eu cwmni drwy wneud cais am foratoriwm i’r llys. Gellir ymestyn cyfnod y moratoriwm am 20 diwrnod busnes ychwanegol heb gydsyniad y credydwyr, neu am gyfnod hwy gyda chydsyniad y credydwyr, drwy ffeilio’r datganiadau perthnasol gyda’r llysoedd. Ymhelaethir ar hyn yng nghanllawiau Llywodraeth y DU.
- Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfradd TAW o 12.5% ar waith ar gyfer twristiaeth a lletygarwch tan 31 Mawrth 2022, yn dilyn diwedd y gyfradd dros dro o 5% ar ddiwedd mis Medi 2021. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau cyffredinol ynghylch sut y bydd y gostyngiad dros dro yn gweithredu, yn ogystal â dogfennau manylach sy'n ymdrin â lletygarwch, llety gwyliau ac atyniadau.
- Rhoddodd y Canghellor ddewis i fusnesau a ohiriodd TAW i ledaenu eu taliadau dros y flwyddyn ariannol 2021-2022.
- Mae Llywodraeth y DU yn wedi rhoi’r opsiwn i’r hunangyflogedig a threthdalwyr eraill sydd â rhwymedigaethau treth incwm o hyd at £30,000 yr opsiwn o ddefnyddio cyfleuster Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM i gytuno ar gynllun i dalu trethi sy’n ddyledus ym mis Ionawr 2021 dros 12 mis ychwanegol. Gellir ond defnyddio’r gwasanaeth o fewn 60 diwrnod i ddyddiad cau y taliad.
- Gall busnesau sy’n pryderu na fyddant yn gallu talu eu bil treth nesaf fod yn gymwys i gael cymorth drwy linell gymorth Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM ar 0800 024 1222. Cytunir ar y trefniadau fesul achos, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru