cyfarfod

cyfarfod

Y Coronafeirws: Cymorth i fusnesau - 2021

Cyhoeddwyd 08/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/09/2021   |   Amser darllen munud

Mae busnesau a gweithwyr wedi wynebu effeithiau sylweddol ers dechrau pandemig y coronafeirws, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi datblygu amrywiaeth o fesurau i'w cynorthwyo.

Mae'r erthygl hon yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau gan y ddwy Lywodraeth.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Rhyddhad Ardrethi Busnes

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes 100 y cant i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerthoedd ardrethol hyd at £500,000 ar gyfer 2021-22 yn gyfan. Bydd hefyd yn darparu rhyddhad o 100 y cant i fusnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol sy’n fwy na £500,000.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar sut y mae'r rhyddhad yn gweithredu, ac mae hyn yn nodi y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu'r cynllun ac yn cael disgresiwn o ran sut y maent yn sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn manteisio ar y cynllun ac yn lleihau'r baich gweinyddol i fusnesau.

Cymell prentisiaethau i gyflogwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o gymhellion i gefnogi cyflogwyr i recriwtio prentisiaid. Mae'r rhain yn berthnasol rhwng 1 Awst 2020 a 30 Medi 2021, ac yn cynnwys:

  • £3,000 am bob prentis newydd o dan 25 oed sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos;
  • £1,500 am bob prentis newydd o dan 25 oed sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos;
  • £2,000 am bob prentis newydd 25 oed neu’n hŷn sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos;
  • £1,000 am bob prentis newydd 25 oed neu’n hŷn sy’n cael ei recriwtio, lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos

Mae'r cymhellion hyn yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5, a chyfyngir y taliadau i uchafswm o 10 prentis i bob cyflogwr.

I brentisiaid o bob oed sy'n cael eu diswyddo rhwng 23 Mawrth 2020 a 30 Medi 2021, mae'r cymhellion canlynol yn berthnasol i gyflogwyr sy'n ail-gyflogi prentisiaid fel eu bod yn gallu cwblhau eu hyfforddiant:

  • £2,600 lle mae'r contract cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos; a
  • £1,300 lle mae'r contract cyflogaeth am lai na 30 awr yr wythnos

Rhaid i'r prentis barhau i ddilyn yr un Llwybr Fframwaith Prentisiaeth, ac mae'r cymhellion yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5.

Yn ogystal â'r taliadau hyn, gall busnesau sy'n cyflogi person anabl fel prentis hawlio £1,500 yn ychwanegol am bob prentis newydd sy'n cael ei recriwtio. Mae'r taliadau hyn yn berthnasol i brentisiaid o bob oed, ac maent yn ychwanegol at yr holl gymhellion ar gyfer prentisiaid 16-24, 25+ a'r rhai sydd wedi cael eu diswyddo. Mae'r cymhellion yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar Lefelau 2 i 5.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag, lle gall cyflogwyr hysbysebu unrhyw gyfleoedd am brentisiaeth yn y dyfodol.

Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Trefi

Mae Llywodraeth Cymru yn treialu’r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Trefi ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau sy’n bwriadu cychwyn a datblygu busnes. Gall busnesau newydd a micro-fusnesau sydd wedi bod yn masnachu am lai na dwy flynedd fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Mae dwy elfen o gymorth ar gael, sef grantiau a benthyciadau:

  • Mae grantiau o rhwng £2,500 a £10,000 ar gael drwy Busnes Cymru i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau sydd â chostau refeniw sy’n gysylltiedig â sefydlu busnes neu symud i ganol tref. Mae angen i fusnesau gyflwyno ffurflen mynegi diddordeb erbyn 20 Mehefin 2022. Mae Busnes Cymru wedi cyhoeddi manylion y meini prawf cymhwysedd ynghyd â chanllawiau ar gyfer y gronfa.
  • Mae Banc Datblygu Cymru yn darparu benthyciadau cychwyn busnes o rhwng £1,000 a £50,000. Gellir defnyddio’r rhain fel arian cyfatebol ar gyfer y grant a amlinellir uchod. Mae’r telerau ad-dalu rhwng blwyddyn a deng mlynedd ac os oes angen grant, rhaid i fusnes wneud cais i Fusnes Cymru cyn cysylltu â Banc Datblygu Cymru.

Cymorth gan Lywodraeth y DU

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Mae'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (y cynllun ffyrlo) yn caniatáu i gyflogwyr roi gweithwyr ar ‘ffyrlo’ (h.y. rhoi caniatâd iddynt fod yn absennol), os na allant weithio am nifer o resymau, gan gynnwys bod y busnes wedi gorfod cau, neu am nad oes gwaith i’w wneud oherwydd y coronafeirws. Mae wedi cael ei ymestyn ledled y DU tan 30 Medi 2021.

Mae’r cynllun newydd yn cefnogi gweithwyr a oedd ar y gyflogres ar 2 Mawrth 2021 neu cyn hynny, a mae’n caniatáu i gwmnïau roi gweithwyr ar ffyrlo am gyfnod o saith diwrnod calendr o leiaf yn olynol. Caniateir rhoi'r cynllun ffyrlo ar waith mewn modd hyblyg, lle mae gweithwyr yn gweithio rhai o'u horiau, yn ogystal â rhoi gweithwyr ar ffyrlo ar sail amser llawn.

  • Ym mis Medi 2021, bydd Llywodraeth y DU yn talu 60 y cant o gyflogau hyd at uchafswm o £1,875 y mis, bydd y cyflogwr yn talu 20 y cant o gyflogau hyd at £625.00, a bydd yn parhau i dalu cyfraniadau pensiwn a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol fel y cyflogwr.

Gellir gwneud cais ar-lein.  Dylid gwneud cais erbyn diwrnod 14 o’r mis canlynol.

Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Mae’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gan Lywodraeth y DU yn caniatáu i bobl hunangyflogedig ac aelodau o bartneriaethau y mae’r coronafeirws wedi effeithio’n negyddol ar eu hincwm i hawlio grant arian trethadwy.

Mae’r pumed grant, sef y grant olaf drwy'r cynllun, yn cwmpasu mis Mai hyd at fis Medi 2021, ac mae ceisiadau ar gyfer y grant hwn ar agor hyd at 30 Medi.  Mae'r grant hwn wedi’i dargedu at bobl hunangyflogedig ac aelodau o bartneriaethau a welodd eu trosiant yn gostwng yn ystod 2020-21 o ganlyniad i’r pandemig

Caiff y grant ei gyfrifo gan ddefnyddio'r elw masnachu sydd wedi'i nodi ar y ffurflen dreth hunanasesu ar gyfer 2019-20; bydd gofyn bod y ffurflen honno wedi cael ei chyflwyno erbyn 2 Mawrth 2021. Mae'n agored i bobl yr oedd eu helw masnachu blynyddol yn llai na £50,000 yn 2019-20, ac a oedd wedi masnachu yn 2019-20 a 2020-21 ac sy’n bwriadu parhau i fasnachu yn 2021-22. Os nad yw pobl yn gymwys i gael cymorth yn seiliedig ar eu helw masnachu ar gyfer 2019-20, yna bydd yr elw a gronnwyd rhwng 2016-17 a 2019-20 yn cael ei ystyried. Byddant yn cael cymorth os yw'r elw masnachu blynyddol cyfartalog dros y cyfnod hwnnw'n llai na £50,000 y flwyddyn.

Bydd ymgeiswyr cymwys a oedd yn masnachu cyn 2019-20 ac y mae eu trosiant wedi gostwng 30 y cant neu'n fwy yn ystod 2020-21 yn gallu hawlio grant o 80 y cant o'u helw masnachu cyfartalog dros gyfnod o 3 mis, hyd at uchafswm o £7,500. Bydd ymgeiswyr cymwys y mae eu trosiant wedi gostwng llai na 30 y cant yn ystod 2020-21 yn gallu hawlio grant o 30 y cant o'u helw masnachu cyfartalog dros gyfnod o 3 mis, hyd at uchafswm o £2,850.

Ni fydd angen i ymgeiswyr cymwys nad oeddent yn masnachu cyn 2019-20 ddarparu unrhyw ffigurau trosiant. Byddant yn gallu cael grant o 80 y cant o elw masnachu cyfartalog o 3 mis, hyd at uchafswm o £7,500.

Mae canllawiau ar gael ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Cyn gwneud cais, dylai pobl hunangyflogedig ddefnyddio gwiriwr cymhwysedd Cyllid a Thollau EM i weld a allant wneud cais am y cymorth hwn.

Cynllun Kickstart

Mae’r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu lleoliadau gwaith newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor. Gall cyflogwyr wneud cais am arian i dalu am:

  • 100 y cant o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn dibynnu ar oed y sawl sy’n cymryd rhan, am 25 awr yr wythnos am gyfanswm o 6 mis;
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cysylltiedig; ac
  • isafswm cyfraniadau ymrestru awtomatig cyflogwr at gynllun pensiwn yn y gweithle.

Darperir cyllid ychwanegol o £1,500 fesul lleoliad gwaith i gefnogi pobl ifanc i adeiladu eu profiad a'u helpu i symud i gyflogaeth gynaliadwy ar ôl iddynt gwblhau eu swydd a ariennir gan Kickstart, ynghyd â £360 fesul lleoliad gwaith i dalu costau gweinyddu.

Gall cyflogwyr ledaenu dyddiad dechrau'r lleoliadau gwaith hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2021, a bydd y cynllun yn cael ei ariannu hyd at 30 Mehefin 2022.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfeirio ymgeiswyr addas at leoliadau gwaith, ac yna bydd y cyflogwr yn cyfweld ac yn recriwtio i’r rolau.

Mae’n rhaid i gais i Gynllun Kickstart fod am isafswm o 30 o leoliadau gwaith. Os na all cyflogwr unigol ddarparu cymaint â hyn o leoliadau gwaith, gallant ddod o hyd i borth Kickstart presennol, fel awdurdod lleol, elusen neu gorff masnachol a fydd yn gwneud cais ar ran y cyflogwr.

Agorodd y cynllun i geisiadau gan gyflogwyr ar 2 Medi 2020. Mae canllawiau ar gael ar gyfer cyflogwyr sydd am greu 30 neu fwy o swyddi; cyflogwyr sydd am greu hyd at 29 o swyddi; pyrth sy'n helpu cyflogwyr llai i wneud cais am y cynllun; ac ar gyfer pobl ifanc.

Cynllun Benthyciad ar gyfer Adferiad

Cafodd y Cynllun Benthyciad ar gyfer Adferiad ei gyflwyno o 6 Ebrill 2021, ac y bydd yn parhau tan ddiwedd 2021. Roedd yn disodli’r Benthyciadau Adfer, y Benthyciad Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws, a’r cynllun Benthyciad Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws.

Bydd y Cynllun Benthyciad ar gyfer Adferiad yn darparu benthyciadau o hyd at £10 miliwn i fusnesau o bob maint, a bydd yn gwarantu 80 y cant o'r cyllid i'r benthyciwr. Mae dau fath o gyllid ar gael:

  • Mae benthyciadau cyfnod a gorddrafftiau o rhwng £25,001 a £10 miliwn y busnes ar gael. Mae gorddrafftiau ar gael am hyd at 3 blynedd, a benthyciadau tymor byr ar gael am hyd at 6 blynedd.
  • Mae cyllid anfoneb a chyllid asedau o rhwng £1,000 a £10 miliwn y busnes ar gael. Mae cyllid anfoneb ar gael am hyd at 3 blynedd, a chyllid asedau ar gael am hyd at 6 blynedd.

Ni chymerir unrhyw warantau personol ar gyfleusterau hyd at £250,000, ac ni ellir defnyddio prif breswylfa breifat y benthyciwr fel sicrwydd.

Mae busnesau yn y DU sydd wedi cael cefnogaeth o dan y cynlluniau benthyciad gwarantedig COVID-19 presennol yn gymwys i gael cyllid o dan y cynllun hwn, os ydynt yn bodloni pob un o’r meini prawf cymhwysedd eraill. Bydd angen i gwmnïau ddangos bod y pandemig wedi effeithio ar eu busnes, bod y cwmni yn hyfyw neu y byddai wedi bod yn hyfyw oni bai am y pandemig, ac nad yw mewn proses ansolfedd ar y cyd.

Mae gwybodaeth bellach a rhestr o fenthycwyr achrededig ar gael ar wefan Banc Busnes Prydain.

Cymorth o fath arall

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd wedi nodi manylion am nifer o fesurau eraill i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gall Busnesau Bach a Chanolig adhawlio Tâl Salwch Statudol a dalwyd am absenoldeb salwch oherwydd y coronafeirws drwy wasanaeth ar-lein. Bydd yr adhawliad hwn yn cwmpasu hyd at 2 wythnos o dâl salwch statudol i bob gweithiwr cymwys sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith oherwydd y coronafeirws, a bydd yn agored i fusnesau a oedd yn cyflogi llai na 250 o bobl ar 28 Chwefror 2020. Gall cyflogwyr hawlio o'r diwrnod cymwys cyntaf y mae eu gweithiwr yn absennol o’r gwaith, ac mae’n rhaid bod y cyflogwr wedi talu costau tâl salwch statudol y cyflogai cyn y gall ei hawlio yn ôl.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd tenantiaid masnachol na allant dalu eu rhent yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 25 Mawrth 2022. Er y bydd tenantiaid masnachol yn parhau i fod yn atebol am y rhent, bydd y mesurau a gyflwynir yn golygu na fydd unrhyw fusnes yn fforffedu eu prydles yn awtomatig ac yn cael eu gorfodi allan o’u hadeilad os byddant yn methu taliad hyd at 25 Mawrth 2022. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried pa fesurau y bydd angen eu rhoi ar waith pan ddaw’r moratoriwm hwn i ben.
  • Mae Deddf Ansolfedd Corfforaethol a Llywodraethu 2020 yn gohirio rhannau o’r gyfraith ansolfedd dros dro drwy gyflwyno moratoriwm o 20 diwrnod busnes i gyfarwyddwyr busnesau ystyried opsiynau i achub eu cwmni drwy wneud cais am foratoriwm i’r llys. Gellir ymestyn cyfnod y moratoriwm am 20 diwrnod busnes ychwanegol heb gydsyniad y credydwyr, neu am gyfnod hwy gyda chydsyniad y credydwyr, drwy ffeilio’r datganiadau perthnasol gyda’r llysoedd. Ymhelaethir ar hyn yng nghanllawiau Llywodraeth y DU.
  • Cyhoeddodd y Canghellor y byddai Llywodraeth y DU yn ymestyn y gyfradd TAW dros dro o 5 y cant ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth tan 30 Medi 2021. Yna bydd cyfradd TAW o 12.5 y cant yn gymwys am chwe mis arall, hyd 31 Mawrth 2022. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau cyffredinol ynghylch sut y bydd y gostyngiad dros dro yn gweithredu, yn ogystal â dogfennau manylach sy'n ymdrin â lletygarwch, llety gwyliau ac atyniadau.
  • O ran busnesau a ohiriodd dalu TAW a oedd yn daladwy ym mis Mawrth tan fis Mehefin 2020, rhoddodd y Canghellor opsiwn iddynt ledaenu eu taliadau dros flwyddyn ariannol 2021-2022.
  • MaeLlywodraeth y DU wedi rhoi’r opsiwn i’r hunangyflogedig a threthdalwyr eraill sydd â rhwymedigaethau treth incwm o hyd at £30,000 yr opsiwn o ddefnyddio cyfleuster Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM i gytuno ar gynllun i dalu trethi sy’n ddyledus ym mis Ionawr 2021 dros 12 mis ychwanegol. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn o fewn 60 diwrnod i'r dyddiad cau ar gyfer talu.
  • Gall busnesau sy’n pryderu na fyddant yn gallu talu eu bil treth nesaf fod yn gymwys i gael cymorth drwy linell gymorth Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM ar 0800 024 1222. Cytunir ar y trefniadau fesul achos, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol.

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru