Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd: y cam nesaf yn y gwaith o “ailwampio’n llwyr” system nad “nad yw bellach yn addas at ei ddiben”

Cyhoeddwyd 19/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r diwygiadau hirddisgwyliedig yn y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN), a fydd yn effeithio ar un o bob pump o blant, wedi bod yn mynd rhagddynt drwy gydol y Senedd hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio’r newidiadau fel proses o “ailwampio’n llwyr” system “nad yw bellach yn addas at ei ddiben”

Mae'r Cod ALN (PDF 3.10MB) wedi'i osod gerbron y Senedd. Mae’n nodi sut y bydd y diwygiadau i’r modd y bydd plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu yn cael eu cynorthwyo. Y Cod yw’r cam pwysig nesaf yn y broses o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Efallai ei bod yn addas bod y Cod a’r rheoliadau cysylltiedig ymhlith y pethau olaf y bydd Aelodau'n eu hystyried yn y Senedd hon. Yn ystod y Bumed Senedd, cwblhawyd y gwaith o graffu ar Ddeddf 2018 a’i phasio a chynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch fersiwn ddrafft o’r Cod yn 2019.  Yn wir, mae’r gwaith o adolygu a diwygio’r system  wedi bod ar yr agenda am lawer o'r cyfnod ers datganoli.

Er bod Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi gorfod canolbwyntio’n bennaf ar bandemig COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gwaith o fwrw ymlaen â'r diwygiadau ADY wedi parhau i fod yn flaenoriaeth ym maes addysg (PDF 474KB). Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi’r system newydd ar waith ym mis Medi eleni.

Beth yw ADY a beth sy'n newid?

Yn gyntaf, mae’r derminoleg wedi newid: Mae’r term “Anghenion Addysgol Arbennig” (AAA) yn newid i “Anghenion Dysgu Ychwanegol” (ADY). Mae’r fframwaith AAA presennol, sydd ar waith ers oddeutu 25 o flynyddoedd yn cael ei disodli gan y system ADY, a sefydlwyd gan Ddeddf 2018. 

Yn ei hanfod, bydd ADY yn cael ei ddiffinio yn yr un modd ag AAA, sef:

  • mae’r dysgwr yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o'r un oedran (ac ni ellir ei gynorthwyo drwy ddulliau dysgu gwahaniaethol yn unig); neu
  • mae gan y dysgwr anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran; ac
  • mae’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

Ar hyn o bryd, caiff ei gydnabod bod tua 100,000 (21%) o blant oed ysgol  AAA. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd nifer y disgyblion ysgol a fydd yn cael cymorth ADY o dan y system newydd yn debyg (PDF 357KB) i’r nifer sy’n cael cymorth ar hyn o bryd o dan y system AAA.  Ond nid dim ond plant oed ysgol sy’n cael eu cynnwys yn y system ADY newydd - mae'n cynnwys plant a phobl ifanc 0-25 oed. Gan hynny, bydd yn bosibl nodi a chynorthwyo plant ag ADY o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg bellach.

Mae tri phrif nod i'r system ADY newydd:

  • Paratoi ‘Cynlluniau Datblygu Unigol’ statudol a chyffredinol i blant a phobl ifanc ag ADY. Bydd hyn yn rhoi terfyn ar y gwahaniaeth presennol rhwng ymyriadau dan arweiniad yr ysgol a datganiadau a gaiff eu paratoi gan yr awdurdod lleol, a bydd yn integreiddio'r trefniadau presennol ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr ôl 16 mewn colegau.
  • Cydweithredu gwell rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gan gynnwys swyddog dynodedig ym mhob bwrdd iechyd i gysylltu ag awdurdodau lleol ac ysgolion.
  • Sefydlu system decach a mwy tryloyw sy’n rhoi mwy o bwyslais ar osgoi anghytundeb a datrys anghydfod.

Mae ein crynodeb o Ddeddf 2018 yn rhoi eglurhad llawnach o'r ddeddfwriaeth a'r system newydd y mae'n ei chreu.

Pam rydym ni’n ysgrifennu am hyn yn awr?

Bydd aelodau’r Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar y Cod ADY a thair set o reoliadau yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mawrth. Fel sy'n arferol ar gyfer is-ddeddfwriaeth, ni ellir diwygio'r Cod na'r rheoliadau felly bydd pleidlais ie / na syml ynghylch a ddylid eu cymeradwyo.

Mae'r Cod drafft yn cynnwys rhagor o fanylion am y modd y bydd sefydliadau amrywiol (ee awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ysgolion a cholegau) yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf 2018 Mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgrifio fel “llawlyfr gweithredol” ac mae'n cynnwys canllawiau ar y camau y mae'n “rhaid” eu cymryd, “y dylid” eu cymryd neu “y gellir” eu cymryd.

Ymatebodd bron 650 o bobl a sefydliadau i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cod drafft yn nhymor y gaeaf 2018/2019. Ymhlith y materion a godwyd roedd diffinio a nodi ADY, amserlenni ar gyfer cyflawni dyletswyddau, rolau gweithwyr proffesiynol amrywiol a threfniadau ar gyfer datrys anghytundeb, gwasanaethau eirioli a threfniadau apêl.

Cyflwynodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymateb manwl  ar ôl gweithio gyda rhanddeiliaid. Yn fwy diweddar, tynnodd y Pwyllgor sylw’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams (PDF 339KB) at faterion a oedd yn dal i beri pryder i randdeiliaid mewn perthynas â’r Cod a materion ehangach yn ymwneud â’i weithredu.  Roedd y pryderon hynny yn cynnwys:

  • y posibilrwydd y bydd profiadau dysgwyr yn amrywio ac yn anghyfartal oherwydd nad yw'r Cod yn “god ymarfer” ac felly nad yw'n ddigon manwl o ran sut y dylid ei weithredu;
  • canfyddiad nad oes digon o wybodaeth a chyngor diduedd y sicrhawyd eu hansawdd mewn perthynas ag opsiynau gyrfa ac ôl-16;
  • y trefniadau i fyfyrwyr drosglwyddo rhwng yr ysgol ac addysg ôl 16 neu hyfforddiant, a’r trefniadau ar gyfer penderfynu rhwng darpariaeth arbenigol neu brif ffrwd.
  • hyfforddi’r gweithlu i roi’r system newydd ar waith;
  • y posibilrwydd y bydd ysgolion yn 'codi'r safon' yn y modd y maent yn defnyddio'r meini prawf ar gyfer dynodi ADY oherwydd diffyg adnoddau.

Sut y bydd hyn oll yn cael ei roi ar waith?

Llun o blant mewn ystafell ddosbarth.

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd unrhyw ddysgwyr a gaiff eu dynodi o’r newydd fel dysgwyr ag ADY yn cael eu cefnogi o dan y system newydd ac yn cael Cynllun Datblygu Unigol.

Byddai dysgwyr sydd yn y system AAA eisoes yn symud i’r system ADY newydd dros gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau gyda’r rhai sydd ag anghenion isel i gymedrol. Bydd dysgwyr ag anghenion mwy difrifol neu gymhleth (sydd â “datganiadau” o AAA ar hyn o bryd) yn symud i'r system newydd yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod o dair blynedd. A bydd yr amseru hefyd yn dibynnu ar ba grŵp blwyddyn y mae’r disgybl ynddo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyhoeddi canllawiau gweithredu a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion. Mae hefyd wedi dyrannu £20 miliwn ar gyfer ei Rhaglen Trawsnewid ADY.

Sut y gallaf i ddilyn y ddadl?

Mae'r Cod ADY yn gam pwysig yn y broses o roi Deddf 2018 ar waith a gweithredu’r diwygiadau hirddisgwyliedig hyn. Mae dyfodol tuag un o bob pump o’n plant a’n pobl ifanc yn dibynnu ar lwyddiant y system. 

Gwyliwch y ddadl ar  Senedd TV (dydd Mawrth 23 Mawrth, tua 5.15pm) neu darllenwch Gofnod y Trafodion ryw ddiwrnod ar ôl y ddadl.

 

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru