Cyhoeddwyd 02/06/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
01 Mehefin 2016
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r system anghenion addysgol arbennig bresennol yn addas i'r diben. Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, gynlluniau i gyflwyno diwygiadau hirddisgwyliedig drwy ddeddfwriaeth, ond pa newidiadau a fyddai'n cael eu cyflwyno o dan Ddeddf newydd?
Mae'r angen i ddiwygio'r ffordd y mae'r sector addysg a'r sector iechyd yn darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) wedi bod ar yr agenda am gryn amser ers datganoli. Mae pob plaid yn cytuno bod angen newid, ac mae rhanddeiliaid yn disgwyl newid i'r drefn hefyd. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi mai Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd un o'r meysydd cyntaf y gofynnir i'r Pumed Cynulliad ddeddfu arno.
Beth yw anghenion addysgol arbennig?
Yn ôl y diffiniad yn y ddeddfwriaeth bresennol, mae gan blant a phobl ifanc AAA os ydynt yn cael llawer mwy o drafferth dysgu na'r rhan fwyaf o ddisgyblion yr un oedran â hwy, neu os oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag manteisio ar yr addysg sydd ar gael yn gyffredinol. Er mwyn ystyried anawsterau dysgu yn anghenion addysgol arbennig, mae'n rhaid bod angen ymyriadau arnynt sy'n ychwanegol i'r ffyrdd gwahanol o ddysgu a gynigir fel arfer gan athrawon. Yn
2014/15, nodwyd bod gan 23 y cant o ddisgyblion (105,000) mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru AAA yn swyddogol.
Beth oedd cynigion Llywodraeth flaenorol Cymru?
Yn 2015, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar
Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft. Roedd tri amcan i'r Bil drafft:
- un fframwaith deddfwriaethol gydag un diffiniad, sef 'anghenion dysgu ychwanegol' (ADY), ar gyfer plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anawsterau dysgu;
- proses integredig gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio; a
- system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ymdrin â phryderon ac apeliadau.
I ryw raddau, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi mabwysiadu'r cysyniad o ADY yn hytrach nag AAA. Felly, mae'r ffocws ar ADY yn lle AAA yn gymharol gyffredin bellach o ran arfer a pholisi, er nad yw'n rhan o'r gyfraith eto.
Yn ogystal â newid y term cyfreithiol, roedd y Bil drafft yn cynnig cyflwyno un math o gynllun yn lle'r system tair haen wedi'i graddio bresennol. Ar hyn o bryd, mae dysgwyr sydd ag AAA yn derbyn un o ddwy lefel o gymorth a arweinir gan yr ysgol (Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy) neu, os bydd gan ddysgwyr anghenion mwy difrifol, mae'r awdurdod lleol yn cyhoeddi datganiad sy'n rhoi hawl gyfreithiol i becyn penodol o gymorth.
Mae defnyddio'r dulliau gwahanol hyn wedi creu tensiwn. Yn ei ragair i
Bapur Gwyn yn 2014, cyfeiriodd Huw Lewis, y Gweinidog ar y pryd, at
adolygiadau o'r broses ddatganiadau bresennol gan ddweud ei bod 'yn gymhleth, yn ddyrys ac yn ennyn gwrthwynebiad'. O dan y Bil drafft, byddai pob dysgwr iau na 25 oed sydd ag ADY yn cael Cynllun Datblygu Unigol, ni waeth beth fo'i oedran na difrifoldeb ei anghenion.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Gweinidogion wedi ystyried y ffordd orau o wella a diwygio proses o'r fath, gan benderfynu yn ystod y Pedwerydd Cynulliad mai'r ffordd orau ymlaen fyddai cynllun unigol i bob dysgwr sydd ag ADY. Roedd y Bil drafft yn cynnig peidio â defnyddio datganiadau mwyach ac felly ni fyddai'r ffaith bod gan ddysgwr ddatganiad yn ystyriaeth wrth bennu lefel yr ymyrraeth. Ar hyn o bryd, dim ond disgyblion sydd â datganiad sydd â hawl statudol i ddarpariaeth ychwanegol, sef 3 y cant o'r holl ddisgyblion (12,000). O dan y system newydd arfaethedig, byddai gan bob dysgwr sydd ag ADY hawl statudol i Gynllun Datblygu Unigol, sef 23 y cant o'r holl ddisgyblion (105,000).
Pa faterion a nodwyd yn ystod y gwaith craffu cyn deddfu?
Clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad dystiolaeth am y Bil drafft ac
ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2015, gan nodi'r materion y byddai angen i Weinidogion fynd i'r afael â hwy cyn cyflwyno deddfwriaeth. Roedd y Pwyllgor yn 'croesawu'n fawr y bwriad' i ddiwygio'r system, ond yn gweld bod 'llawer o waith i'w wneud' i fynd i'r afael â 'llawer o feysydd o ansicrwydd'. Tynnodd y Pwyllgor sylw at bedwar prif faes:
- darpariaeth annigonol o ran cydweithio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gyda'r Pwyllgor yn credu bod angen rhoi dyletswyddau cadarnach ar gyrff iechyd;
- galw am i'r Cynlluniau Datblygu Unigol cyffredinol gadw manteision y dull tair haen presennol sy'n darparu cymorth dwysach i ddysgwyr sydd ag anghenion mwy cymhleth a difrifol, ac i'w gwneud yn gliriach pwy fyddai'n gyfrifol am y cynlluniau;
- yr angen i Dribiwnlys Addysg Cymru gael pwerau cryfach wrth ystyried apeliadau gan deuluoedd yn erbyn awdurdodau lleol a byrddau iechyd; ac
- y diffyg manylion ynghylch y ddarpariaeth ar ddechrau a diwedd yr ystod oedran 0-25 oed, h.y. pa drefniadau fydd ar waith ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg ôl-16?
Beth yw'r sefyllfa bresennol?
Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr ymatebion i'w Bil drafft, gan gynnwys canlyniadau gwaith craffu cyn deddfu'r Pwyllgor, wrth i'r Pedwerydd Cynulliad ddirwyn i ben.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud na fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno o fewn 100 diwrnod cyntaf y Cynulliad hwn, ond y bydd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dilyn 'unwaith y bydd y Cynulliad mewn sefyllfa i graffu ar ddeddfwriaeth yn well'. Ychwanegodd mai cyfrifoldeb portffolio Alun Davies, y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg, fydd y mater hwn.
Bydd angen i'r Gweinidog ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad ar y Bil drafft, a phenderfynu pa newidiadau i'w gwneud i'r cynigion blaenorol. Bydd rhieni, rhanddeiliaid a gwleidyddion yn craffu gyda diddordeb ar yr ymdrechion diweddaraf i ddatrys mater sydd wedi hero gweinidogion a llunwyr polisi ers dros ddegawd.
Ffynonellau allweddol
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Y Pwyllgor i graffu ar y Bil ADY drafft cyn y broses ddeddfu, (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Canlyniad gwaith craffu cyn deddfu Pwyllgor y Cynulliad ar y Bil ADY drafft, (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Ystadegau AAA: Nifer y disgyblion, gwariant sydd wedi’i gyllidebu, a chyflawniad academaidd, (2015)
- Y Gwasanaeth Ymchwil, Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, (2015)
- Llywodraeth Cymru, Y diweddaraf am yr Ymgynghoriad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft (2016)
- Llywodraeth Cymru, y Bil drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (2015)
- Llywodraeth Cymru, Cynigion deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol – Papur gwyn (2014)
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg