Llwynog yn sefyll mewn coetir yn edrych tuag at y camera gyda'r haul yn tywynnu ar ei wyneb. Mae dail gwyrdd yn dod allan o'r ddaear o amgylch y llwynog.

Llwynog yn sefyll mewn coetir yn edrych tuag at y camera gyda'r haul yn tywynnu ar ei wyneb. Mae dail gwyrdd yn dod allan o'r ddaear o amgylch y llwynog.

Y camau nesaf ar y llwybr i adfer natur

Cyhoeddwyd 01/07/2024   |   Amser darllen munud

Mae Pwyllgorau’r Senedd, a’r sector amgylcheddol, wedi bod yn galw am gorff llywodraethiant amgylcheddol, egwyddorion amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth ers sawl blwyddyn.

Ym mis Ionawr 2024, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r Papur Gwyn y bu galw mawr amdano ar gynigion ar gyfer Bil Natur, a ddisgwylir ym mlwyddyn olaf tymor y Senedd hon. Mae’r Papur Gwyn yn gwneud cynigion mewn tri maes:

  • Egwyddorion amgylcheddol cyffredinol i fod yn sail i bob penderfyniad polisi yn y dyfodol;
  • Sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol parhaol i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cynnal cyfraith amgylcheddol; a
  • Chyflwyno fframwaith i ddiogelu ac adfer natur, gan gynnwys targedau bioamrywiaeth.

Mae Ymchwil y Senedd eisoes wedi gwneud gwaith i ymchwilio i’r angen am gorff gwarchod amgylcheddol yng Nghymru, gweithredu cyrff gwarchod ac egwyddorion yng ngwledydd eraill y DU a chyflwr bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn mynd i’r afael yn benodol â’r Papur Gwyn diweddar ac ymatebion rhanddeiliaid (sydd naill ai wedi’u cyhoeddi neu eu darparu i Ymchwil y Senedd).

Pa egwyddorion amgylcheddol sy’n cael eu cynnig a sut y byddent yn gymwys?

Yn Rhan A o’r Papur Gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig “nodi egwyddorion amgylcheddol sy’n adlewyrchu rhai’r UE”. Y pum egwyddor arfaethedig yw:

  1. Integreiddio
  2. Yr egwyddor ragofalus
  3. Yr egwyddor ataliol
  4. Egwyddor cywiro yn y ffynhonnell
  5. Yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu

Byddai’r egwyddorion uwchlaw deddfwriaeth bresennol Cymru ac yn gymwys i holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Byddai’r Bil arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau sy’n egluro sut y dylid dehongli’r egwyddorion.

Byddai angen i Weinidogion Cymru hefyd “roi sylw dyladwy i’r egwyddorion amgylcheddol a’r canllawiau cysylltiedig wrth ddatblygu eu polisïau a’u deddfwriaeth”. Nid yw’r Papur Gwyn yn cynnig bod yr un ddyletswydd yn gymwys i awdurdodau cyhoeddus eraill.

Yn gyffredinol, mae cyrff anllywodraethol amgylcheddol yn cefnogi’r cynigion hyn. Fodd bynnag, mae Cyswllt Amgylchedd Cymru ac RSPB Cymru yn awgrymu bod y geiriad “sylw dyladwy i’r egwyddorion amgylcheddol” yn rhoi atebolrwydd cyfreithiol gwan i Weinidogion Cymru. Mae Green Alliance yn cynnig rhoi ymadrodd cryfach yn lle ‘sylw dyladwy’, fel ‘bod yn gymwys’ neu ‘gweithredu yn unol â’.

Mae nifer o randdeiliaid yn awgrymu y gellid cynnwys egwyddorion ychwanegol. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru a Green Alliance ymhlith y rhanddeiliaid sy’n cynnig egwyddor ‘dim atchwelyd’, er mwyn atal cyfraith amgylcheddol rhag dirywio dros amser. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru yn cynnig yr egwyddor ‘cymesuredd’, sydd, mae’n dweud, yn egwyddor sylfaenol yng nghyfraith yr UE sy’n ystyried difrifoldeb risg a phwysigrwydd mater amgylcheddol mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

A fydd gan y corff gwarchod gyhyrau?

Mae Rhan B o’r Papur Gwyn yn cynnig cyflwyno corff llywodraethiant amgylcheddol, neu ‘corff gwarchod’. Byddai’r corff gwarchod hwn yn cynghori ac yn monitro awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a enwir ac yn ymchwilio iddynt o ran materion sy’n ymwneud â chyfraith amgylcheddol.

Sefydlodd gwledydd eraill yn y DU gyrff gwarchod parhaol yn 2021: Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (Lloegr a Gogledd Iwerddon); a Safonau Amgylcheddol yr Alban. Penodwyd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd i Gymru ym mis Chwefror 2021, ond mae ganddo bwerau cyfyngedig mewn perthynas â Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban.

Mae’r tabl isod wedi’i lunio gan addasu’r hyn a luniwyd gan Dr Viviane Gravey ac mae’n cymharu’r corff gwarchod a gynigiwyd yn y Papur Gwyn â Safonau Amgylcheddol yr Alban a Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd.

 

Cynnig Cymru

Safonau Amgylcheddol yr Alban

Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (Lloegr a Gogledd Iwerddon)

Swyddogaethau

Cyngor

Monitro

Ymchwilio

Monitro

Ymchwilio

Cyngor

Monitro

Ymchwilio

Ffocws yr ymchwiliad

Peidio â chydymffurfio

Gweithredu

Peidio â chydymffurfio

Effeithiolrwydd

Peidio â chydymffurfio

Awdurdodaeth

Awdurdodau cyhoeddus ac awdurdodau preifat sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus

Awdurdodau cyhoeddus

Awdurdodau cyhoeddus

Targedau sy’n cael eu monitro

Domestig a rhyngwladol

Domestig a rhyngwladol

Domestig yn unig

Penodi Cadeirydd

Penodwyd gan Weinidogion Cymru, ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Senedd

Cynigiwyd gan Weinidogion yr Alban, cymeradwywyd gan Senedd yr Alban

Penodwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl gwrandawiad yn Senedd y DU

Adnoddau

Cyllideb o £2.5-3 miliwn

12 o staff

7 neu 8 Comisiynydd

Cyllideb o £2.2 miliwn

23 o staff

8 aelod bwrdd

Cyllideb o £12 miliwn

74 o staff

7 aelod bwrdd

Mae nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Green Alliance, yn codi pryderon y gall cyfuniad o’r gyfres eang o gyfrifoldebau ac adnoddau cyfyngedig fod yn heriol i gorff gwarchod Cymru. Dywed Dr Viviane Gravey a Dr Ludivine Petetin:

The proposed Welsh Commission [y corff gwarchod] is thus trying to do as well as the ESS and OEP together – with a much smaller workforce… As it stands, the consultation is giving the new Commission an impossible task.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi y gallai fod angen iddo gydweithio a darparu tystiolaeth pan fydd y corff gwarchod yn ymchwilio i gyrff eraill. Mae’n annog Llywodraeth Cymru i gyfrif am bwysau adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru wrth bennu gofynion y corff gwarchod.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig peidio â rhoi’r pŵer i’r corff gwarchod i roi dirwy i awdurdodau cyhoeddus am beidio â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, gan ddatgan mai hon oedd barn y prif randdeiliad yn adroddiad y grŵp gorchwyl ar gyfer 2020. Fodd bynnag, o’r tri ar ddeg o randdeiliaid sydd wedi rhannu eu hymatebion yn gyhoeddus neu ag Ymchwil y Senedd, dim ond tri oedd yn cytuno â’r safbwynt hwn. Roedd naw rhanddeiliad yn anghytuno, gan ddweud y dylai’r corff gwarchod allu codi dirwyon, ac nid oedd un rhanddeiliad wedi mynegi barn. Dywed RSPB Cymru y byddai cosbau ariannol yn rhoi cymhelliant cydymffurfio cryf, ond y dylai unrhyw arian a godir aros yng Nghymru a chael ei ailfuddsoddi mewn canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.

Targedau bioamrywiaeth – ar gyfer pwy ydyn nhw ac oes modd eu cyrraedd mewn pryd?

Ym mis Ebrill 2021, pleidleisiodd y Senedd dros ddatgan argyfwng natur a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau statudol i wrthdroi colli bioamrywiaeth. Mae Rhan C o’r Papur Gwyn yn cynnig cyfres o fesurau bioamrywiaeth sy’n canolbwyntio ar brif darged statudol:

Gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050

Byddai’r prif darged hwn yn cael ei ategu gan dargedau eilaidd, y byddai Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i’w cyflwyno mewn is-ddeddfwriaeth. Byddai hefyd yn cael ei gysylltu â Strategaeth Adfer Natur newydd i Gymru sy’n nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer bioamrywiaeth.

Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur bob 4 blynedd sy’n manylu ar gamau penodol y bydd yn eu cymryd i gyrraedd y targedau bioamrywiaeth. Bydd yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi Cynlluniau Adfer Natur Lleol sy’n adlewyrchu’r targedau bioamrywiaeth.

Wrth ymateb i’r cynnig y dylai awdurdodau cyhoeddus lunio Cynlluniau Adfer Natur Lleol, mae Tirweddau Cymru yn amlygu bod cynlluniau ac adroddiadau bioamrywiaeth eisoes yn cael eu llunio gan awdurdodau o dan y ddyletswydd yn adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gan ddatgan:

…organisations that submit their S6 reports under the [A]ct receive very little if any feedback, so we question the value of regulation here if it is to be unsupported within WG [Welsh Government].

Mae’r rheoleiddiwr dŵr Ofwat yn amlygu nad yw’n cyflawni yn weithredol yng Nghymru, er ei fod yn awdurdod cyhoeddus, ac na fyddai’n gwneud unrhyw waith ymarferol ar lawr gwlad i wella bioamrywiaeth. Mae’n gofyn am eglurder pellach ynghylch pa sefydliadau y byddai ei angen i gyflawni Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur Lleol ac mae’n awgrymu bod awdurdodau cyhoeddus heb gyfrifoldebau rheoli tir yn cael eu heithrio.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn pwysleisio bod tua 90 y cant o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol. Ar hyn o bryd, mae ffermwyr Cymru yn cael eu cefnogi drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn ei le. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn i Lywodraeth Cymru gomisiynu ymarfer modelu i benderfynu a all Cymru gyrraedd ei thargedau erbyn 2030 a sut y gall wneud hynny, gan ystyried y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn benodol. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru yn amlygu y bydd y gwaith o gyflawni uchelgeisiau amgylcheddol Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y nifer o ffermwyr sy’n manteisio ar gynlluniau.

Os caiff y Bil arfaethedig ei ddeddfu yn 2026, dim ond 4 blynedd fydd ar gael i gyrraedd targed bioamrywiaeth 2030, gan olygu y bydd angen gweithredu’n gyflym i wella bioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru roi dadansoddiad ar yr ymgynghoriad ac ymateb i’r polisi cyn toriad yr haf.


Erthygl gan Matthew Sutton a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Matthew Sutton gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.