Grŵp o Gyfeillion

Grŵp o Gyfeillion

Y camau nesaf ar gyfer symudedd ieuenctid rhwng y DU a’r UE

Cyhoeddwyd 31/07/2024   |   Amser darllen munud

Ym mis Ebrill, gwnaeth yr UE gyflwyno cynigion ar gyfer cynllun symudedd ieuenctid rhwng y DU a’r UE, ond gwrthodwyd y rhain gan Lywodraeth flaenorol y DU a’r wrthblaid ar y pryd, Plaid Lafur y DU. Bellach, mae David Lammy AS, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu, yn bwriadu ailosod y berthynas ag Ewrop, ond mae’r UK in a Changing Europe yn awgrymu bod unrhyw ‘ailosod’ yn debygol o gynnwys trafodaethau ar symudedd ieuenctid, sy’n flaenoriaeth i ochr yr UE.

Mae’r erthygl hon yn amlinellu cynigion yr UE ac ymateb llywodraethau blaenorol y DU a’r llywodraeth bresennol. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o raglenni cyfnewid rhyngwladol llywodraethau Cymru a’r DU ar ôl gadael yr UE.

Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC)

Yr EESC yw corff cynghori cymdeithas sifil yr UE.

Ym mis Ebrill, mabwysiadodd yr UE adroddiad yr EESC ar ymgysylltu â phobl ifanc, a oedd yn argymell bod y Comisiwn Ewropeaidd (“y Comisiwn”) yn mynd at y DU i drafod partneriaeth symudedd ieuenctid gilyddol. Drwy gydol 2023, aeth Llywodraeth flaenorol y DU at Aelod-wladwriaethau unigol o’r UE i drafod trefniadau dwyochrog ond dywedodd y Comisiwn y byddai hyn yn arwain at driniaeth wahaniaethol o wladolion yr Undeb ac na fyddai’n mynd i’r afael â’r prif rwystrau o ran symudedd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ers diwedd cyfnod pontio Brexit.

Galwodd yr EESC hefyd ar y Comisiwn i gryfhau trafodaethau â’r DU er mwyn ailintegreiddio’r DU yn llawn i mewn i Erasmus+.

Mewn sesiwn holi ac ateb ar y cynnig i ddechrau trafodaethau â’r DU, datgelodd y Comisiwn nad oedd Llywodraeth flaenorol y DU wedi mynegi diddordeb mewn ailymuno ag Erasmus+ nac Ewrop Greadigol.

Cynnig yr UE

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Comisiwn fanylion am ei gynigion symudedd ieuenctid i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed aros yn y wlad y maent yn mynd iddi am hyd at bedair blynedd. Cyn y gallai’r Comisiwn ddechrau trafodaethau, gwrthododd Llywodraeth y DU a Phlaid Lafur y DU (yr wrthblaid ar y pryd) y cynnig ar y sail bod y rhyddid i symud wedi dod i ben. Yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol, dywedodd Llafur y DU na fyddai Prydain yn dychwelyd i’r farchnad sengl, yr undeb tollau, na’r rhyddid i symud.

Fodd bynnag, mewn erthygl ar gyfer UK in a Changing Europe, nododd yr Athro Catherine Barnard y canlynol o ran cynnig yr UE:

The proposal falls far short of free movement because it only allows individuals to come for a limited period and does not allow them to settle in the UK or EU member state.

Rhaglenni cyfnewid rhyngwladol

Mae’r adrannau isod yn amlinellu dwy raglen gyfnewid ryngwladol, sef Cynllun Turing Llywodraeth y DU a Taith Llywodraeth Cymru, a fwriadwyd i olynu Erasmus+.

Y Cynllun Turing

Yn 2021, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol y DU y Cynllun Turing, sy’n ariannu prifysgolion, colegau ac ysgolion yn y DU a Thiriogaethau Tramor Prydeinig i ddarparu lleoliadau rhyngwladol i fyfyrwyr. Roedd canlyniadau cyllido ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 yn dangos bod y cynllun wedi cael 619 o geisiadau gan sefydliadau, a bod 11 o’r ceisiadau hynny’n dod o Gymru. Roedd cyfanswm o 1,355 o gyfranogwyr yng Nghymru, ac mae 45 y cant o’r rheini’n dod o gefndiroedd difreintiedig, o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 60 y cant.

Taith

Lansiodd Llywodraeth Cymru Taith yn 2022 i gynnig cyfleoedd cyfnewid ar draws addysg oedolion, addysg bellach ac uwch, ysgolion a gwaith ieuenctid. Dywedodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg ar y pryd, fod Taith yn:

llenwi’r bylchau mae Turing yn eu gadael, gan gynnwys, yn hollbwysig, yr ymrwymiad i gyllid hirdymor, cadw’r egwyddor o gyfnewidfeydd dwy ffordd a chynnwys gwaith ieuenctid.

Ym mis Hydref 2023, adroddodd Llywodraeth Cymru fod Taith wedi galluogi dros 11,000 o bobl i gymryd rhan mewn teithiau cyfnewid i ddysgu. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau cyllid Taith o £8.1 miliwn i £6.5 miliwn ar gyfer 2024-25.

Nodir yn adroddiad yr EESC fod Taith yn gymharol lwyddiannus o ran darparu cyfleoedd symudedd i fyfyrwyr o Gymru a’r UE. Fodd bynnag, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd (y Pwyllgor Diwylliant), nododd y British Council fod galw o hyd yng Nghymru am arian i’w roi i Erasmus+ o ran maint rhwydweithiau a chyllid, pe bai’r opsiwn ar gael.

Gweithwyr creadigol

Roedd adroddiad yr EESC hefyd yn annog y Comisiwn i ymgysylltu â’r DU i fynd i’r afael â rhwystrau symudedd ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol.

Mae’r mater ynghylch gweithwyr creadigol yn gweithio ar draws ffiniau yn ganolog i ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant i ddiwylliant a’r berthynas newydd â’r UE, ac mae cefnogaeth eang i leddfu symudedd gweithwyr creadigol ymhlith yr ymatebwyr. Mae llawer, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn credu bod y cyfyngiadau presennol wedi effeithio’n anghymesur ar artistiaid iau ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg.

Dywedodd Vaughan Gething AS, Prif Weinidog Cymru, wrth y Pwyllgor hefyd fod trefniadau ar ôl gadael yr UE ar gyfer artistiaid teithiol yn broblem go iawn ac yn rhwystr go iawn.

Dywedodd y Farwnes Deborah Bull, cynrychiolydd o’r DU yn y senedd rhwng y DU ac Ewrop, y Cynulliad Partneriaeth Seneddol (PPA), y gallai symudedd ieuenctid leddfu’r rhwystrau sy’n wynebu gweithwyr creadigol sy’n dod i’r amlwg.

Gan gyfeirio at argymhelliad y PPA rhwng y DU a’r UE ar artistiaid teithiol, dywedodd:

I think a youth mobility visa that allowed […] younger artists freedom to move and work in the EU would be great […] We noted that the UK has some youth mobility arrangements, so there is precedent for it, and that indeed the EU has these arrangements with other countries.

Edrych tua’r dyfodol

Yn adroddiad yr EESC, nodir mai penderfyniad y DU i adael Erasmus+ yw’r mater sydd yn anad dim yn effeithio ar berthynas y DU a’r UE ym maes ieuenctid. Mae’n nodi y gallai mentrau fel Taith a’r Cynllun Turing gael eu defnyddio i ategu Erasmus+ yn hytrach na chymryd ei le.

Yn ei gwrthodiad cychwynnol o gynigion yr UE ar gyfer symudedd ieuenctid ac yn ei hymrwymiad maniffesto i beidio ag ailgyflwyno’r rhyddid i symud, cafwyd arwydd gan Lywodraeth newydd y DU na fyddai modd dychwelyd ar unwaith i gynllun o’r fath.

Fodd bynnag, cyfeiriodd yr EESC at adolygiad gweithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu a ddisgwylir erbyn mis Mai 2026, fel cyfle i fynd i’r afael â’r materion hyn. Dwy o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad yw:

  • mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â symudedd gweithwyr a darparu gwasanaethau, megis y rhwystrau newydd a wynebir gan artistiaid teithiol; ac
  • archwilio “opsiynau i ailymuno â rhaglenni’r UE fel Erasmus ac Ewrop Greadigol”.

Un o brif nodweddion cysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn y misoedd i ddod fydd i ba raddau y gall y blaenoriaethau hyn fynd i’r afael â’r materion a drafodir yma.


Erthygl gan Madelaine Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru