Tim pel-droed Cymru

Tim pel-droed Cymru

“’Dan ni’n mynd i Qatar”: llwyfan i fynd â Chymru i’r byd?

Cyhoeddwyd 09/11/2022   |   Amser darllen munudau

Dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd nes cic gyntaf tîm pêl-droed dynion Cymru yn eu gêm agoriadol yn eu hymgyrch gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 64 mlynedd. Bydd gobeithion a breuddwydion y genedl y tu ôl i Rob Page a’i dîm, yn ogystal â llygad cynulleidfa fyd-eang o tua 5 biliwn.

O ystyried maint posibl y gynulleidfa, dywedodd Gweinidog yr Economi mai Cwpan y Byd yw’r cyfle marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon mwyaf arwyddocaol y mae Cymru wedi’i gael erioed, gan gynnig “llwyfan i gyflwyno Cymru i’r byd”. Ond sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu manteisio ar yr achlysur hwn i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang?

Pŵer chwaraeon mewn cysylltiadau rhyngwladol

Mae diplomyddiaeth chwaraeon yn derm sy’n disgrifio’r defnydd o chwaraeon fel arf diplomyddol a ddefnyddir gan wledydd i hyrwyddo eu gwerthoedd a gwella eu dylanwad yn fyd-eang. Gall esgor ar nifer o fanteision economaidd drwy wneud gwlad yn lle deniadol i fuddsoddi neu astudio ynddi, yn ogystal â masnachu â hi ac ymweld â hi.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd rhan mewn diplomyddiaeth chwaraeon, ac yn ôl adroddiad gan y Cyngor Prydeinig yn 2018 mae chwaraeon yn gryfder arbennig i Gymru yn rhyngwladol lle mae ei llwyddiannau wedi rhoi hwb i’w statws a’i henw da rhyngwladol. Agwedd bwysig ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yw codi proffil Cymru drwy ddefnyddio llwyfan digwyddiadau chwaraeon mawr. Er enghraifft, yn 2019 arweiniodd y Prif Weinidog un o deithiau masnach mwyaf erioed Cymru i Japan a gynhaliwyd ochr yn ochr â Chwpan Rygbi’r Byd.

Mae rhai academyddion wedi dadlau y dylai Cymru ymuno â rhestr gynyddol o wledydd ledled y byd sydd â strategaethau diplomyddiaeth chwaraeon penodol fel rhan o ymgyrchoedd cysylltiadau rhyngwladol ehangach.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Cymru yng Nghwpan y Byd?

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yw’r Gweinidog arweiniol sy’n gyfrifol am gydlynu rhaglen weithgareddau’r Llywodraeth ar gyfer Cwpan y Byd. Mae amcanion craidd y Llywodraeth yn cynnwys:

  • hyrwyddo Cymru;
  • rhagamcanu ein gwerthoedd;
  • sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y digwyddiad; a
  • sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol.

Cyhoeddodd y Gweinidog fanylion y rhaglen o weithgareddau yn ymwneud â Chwpan y Byd ym mis Medi. Amlinellodd nifer o gamau gweithredu y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd ar ei phen ei hun neu ochr yn ochr â sefydliadau partner. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bedair elfen graidd:

  1. ‘Ymgyrch farchnata uwch’ gyda chyllideb o £2.5m sydd yn cynnwys ffocws ar dargedu marchnadoedd yng Nghymru, UDA, y DU (Lloegr yn bennaf) a rhai gweithgareddau yn Qatar. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cyflwyno gweithgareddau gyda chefnogwyr, partneriaid a Chymry ar wasgar.
  2. Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd sy’n ceisio ychwanegu gwerth at nifer fach o brosiectau a all gyflawni yn erbyn amcanion craidd y Llywodraeth. Lansiodd y Llywodraeth y broses ymgeisio ym mis Awst lle roedd 19 o sefydliadau yn llwyddiannus, gan dderbyn cyfanswm o £1.8m rhyngddynt. Mae rhai o’r ceisiadau llwyddiannus yn cynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru (£500,000), Cyngor Celfyddydau Cymru/Y Wal Goch (£100,000), Urdd Gobaith Cymru (£77,783), a’r Barry Horns (£17,032).
  3. Bydd y Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, a’r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon yn mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o raglen o ymweliadau ac ymrwymiadau gweinidogol, sy’n cynnwys mynd i gemau grŵp Cymru yn erbyn Lloegr ac UDA.
  4. Ymgysylltu drwy swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru i wneud y gorau o hyrwyddo Cymru ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rhyngwladol allweddol, yn enwedig yn Qatar, Dubai, UDA ac Ewrop. Er enghraifft, mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynnal digwyddiadau mewn sawl dinas yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys Washington, Efrog Newydd, Chicago ac LA.

Pryderon am record hawliau dynol Qatar a’r driniaeth o bobl LHDTQ+

Qatar fydd y wlad gyntaf yn y Dwyrain Canol i gynnal Cwpan y Byd pêl-droed dynion. Fodd bynnag, mae nifer o wleidyddion, timau cenedlaethol a grwpiau cymdeithas sifil wedi mynegi pryderon mawr am y ffordd y mae Qatar yn trin pobl LHDTQ+, a gweithwyr mudol a fu’n rhan o’r gwaith o adeiladu seilwaith y twrnament.

Mae nifer o dimau cenedlaethol sy’n cystadlu yng Nghwpan y Byd wedi gweithredu’n uniongyrchol mewn protest. Er enghraifft, bydd tîm Denmarc yn gwisgo crysau llai llachar i brotestio yn erbyn record hawliau dynol Qatar ac fe ryddhaodd tîm Awstralia ddatganiad fideo yn beirniadu Qatar am ei thriniaeth o weithwyr mudol a phobl LHDTQ+.

Mae Cymru a Lloegr hefyd wedi ymuno â gwledydd Ewropeaidd eraill i gefnogi ymgyrch band braich OneLove fel arwydd o gefnogaeth yn erbyn gwahaniaethu. Dywedodd Rob Page, rheolwr Cymru, y bydd capten Cymru yn gwisgo’r band waeth pa sancsiynau y gall FIFA eu gosod.

Dywedodd arweinydd Plaid Lafur y DU, Syr Keir Starmer y bydd yn boicotio Cwpan y Byd oherwydd record hawliau dynol Qatar. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gwrthod boicot, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw bellach yn mynd i’r gêm grŵp yn erbyn Iran oherwydd protestiadau diweddar yn y wlad. Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ymgysylltu â gwledydd yn rhoi cyfle i ddatblygu llwyfan ar gyfer trafodaeth bellach, i godi ymwybyddiaeth ac i ddylanwadu o bosibl ar newid mewn ymagwedd.

Sicrhau gwaddol parhaol?

Mae Llywodraeth Cymru eisiau “sicrhau gwaddol parhaol” yn sgil cyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd, gan gynnwys i “datblygu gweithgarwch corfforol a chyfranogiad chwaraeon i gefnogi iechyd a llesiant” y genedl.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd un o bwyllgorau’r Senedd adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig. Roedd yn galw am ddull cenedlaethol newydd a chynyddu cyllid i fynd i’r afael â bylchau anghydraddoldeb o ran cyfranogiad chwaraeon a dyfodd yn ystod y pandemig, ac sy’n cael eu gwaethygu gan gostau byw cynyddol. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn. Heb unrhyw gynnydd yn y cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru na newid sylweddol mewn polisi, efallai y bydd nodau’r Llywodraeth o gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon fel rhan o waddol Cwpan y Byd – yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig – yn heriol.


Erthygl gan Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru