Y Bil Gofal
Cyhoeddwyd 23/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
23 Medi 2013
[caption id="attachment_457" align="alignright" width="300"] Llun o Flickr gan Alan Cleaver. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Wrth i’r Cynulliad barhau â’i waith o graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bu Lloegr yn trafod ei Bil Gofal ei hun yn Nhŷ’r Arglwyddi. Fel y Bil yng Nghymru, mae’r Bil Gofal yn fawr ac eang ei gwmpas, a bydd yn diwygio’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn Lloegr, er nad yw’n cynnwys gwasanaethau plant.
Mae rhai o brif ddarpariaethau’r Bil yn debyg i ddarpariaethau’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac maent yn adlewyrchu argymhellion adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn 2011 ar ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r darpariaethau’n cynnwys cyflwyno trothwy cymhwyster isaf yn genedlaethol ar gyfer cael gwasanaethau gofal cymdeithasol, cryfhau trefniadau diogelu oedolion, gwella asesiadau o ofalwyr, sicrhau parhad yn y gofal a’r gefnogaeth i oedolion pan fydd oedolyn yn symud (ond yn gymwys i ofalwyr hefyd, yn wahanol i’r sefyllfa yng Nghymru), dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynnig gwasanaethau ataliol a hybu llesiant, ac i ddarparu gwybodaeth a chyngor.
Mae’r mwyafrif o ddarpariaethau’r Bil Gofal o ran dyletswyddau adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn gymwys yn Lloegr yn unig, er y bydd agweddau eraill yn effeithio ar Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn fanwl ar y cap arfaethedig ar daliadau am ofal wrth iddi ystyried ei dull gweithredu ei hun o ran talu am ofal.
Mae hefyd nifer o ddarpariaethau sy’n wahanol i ddarpariaethau’r Bil yng Nghymru, gan gynnwys rhai sy’n adlewyrchu’r dull gweithredu yn Lloegr o ran gwasanaethau gofal, fel dyletswydd i ddarparu cyllidebau personol.
Elfen arwyddocaol o’r Bil Gofal yw cyflwyno cap yn Lloegr ar gostau gofal am oes. Byddai hyn yn atal awdurdodau lleol rhag codi tâl ar bobl am wasanaethau gofal cymdeithasol unwaith y byddent wedi gwario uchafswm o £72,000. Byddai rheoliadau yn caniatáu lefelau uchafswm gwahanol ar gyfer grwpiau gwahanol, fel pobl anabl iau. Yn bwysig, nid yw’r costau a gaiff eu hystyried wrth gyfrifo’r cap yn cynnwys "costau byw dyddiol" fel llety, bwyd a gwres.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu ymestyn y cymorth sy’n dibynnu ar brawf modd ar gyfer gofal preswyl i bobl sydd ag asedau, gan gynnwys eiddo. Byddai hyn yn gynnydd yn y lefel bresennol sef £23,250 i £118,000, neu i £27,000 os nad yw’r asedau a asesir yn cynnwys eiddo. Eto, byddai hyn yn gymwys yn Lloegr yn unig.
Mae’r darpariaethau yn y Bil ar gyfer diogelu oedolion yn cynnwys dyletswyddau ar awdurdodau lleol i wneud ymholiadau lle mae amheuaeth o gam-drin oedolyn sydd ag anghenion gofal, a sefydlu byrddau diogelu oedolion i gynnal adolygiadau o achosion o gam-drin neu esgeuluso oedolion. Yn wahanol i’r Bil yng Nghymru, ni fyddai’r Bil Gofal yn rhoi pwerau i weithwyr cymdeithasol gael mynediad i gartrefi pobl y credir eu bod yn cael eu cam-drin.
Elfen arwyddocaol arall o’r Bil yw ei ddarpariaethau i ymdrin â mater methiant busnes darparwyr. Mae hyn yn cynnwys dyletswyddau ar awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru) i sicrhau parhad yn y gofal pan fydd gwasanaethau yn methu, a dyletswyddau ar y Comisiwn Ansawdd Gofal i ddatblygu trefn newydd ar gyfer ‘amryfusedd yn y farchnad’, i ganfod darparwyr arwyddocaol a allai fod mewn perygl o fethu, a’i gwneud yn ofynnol iddynt gymryd camau i liniaru’r peryglon.
Mae rhannau eraill o’r Bil yn darparu ar gyfer newidiadau i ddulliau arolygu a rheoleiddio, yn arbennig yn achos Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG, a sefydlu Health Education England a’r Awdurdod Ymchwil Iechyd.
Mae peth amser eto cyn y daw’r Bil yn gyfraith; caiff ei Ddarlleniad Cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod yr hydref pan fydd yr Arglwyddi wedi gorffen craffu arno. Mae ymatebion gan randdeiliaid, hyd yma, wedi nodi pryderon ynghylch y nifer fwy o lawer o asesiadau y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol eu gwneud pan gyflwynir y cap ar godi tâl, y diffyg pwerau yn y Bil i gael mynediad i ymchwilio i gamdrin oedolion, y trothwy cymhwysedd arfaethedig isaf, y credir sy’n rhy uchel, a phryderon nad yw’r llywodraeth yn dyrannu dim arian newydd i awdurdodau lleol ar gyfer y dyletswyddau atal arfaethedig.
Erthygl gan Stephen Boyce.