Ar 2 Gorffennaf, bydd gan y Senedd ail gyfle i wneud newidiadau i'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) pan fydd yn pleidleisio yn ystod Cyfnod 3 o drafodion y Bil.
Mae’r Bil yn cynnwys ystod o ddarpariaethau a allai newid y ffordd y mae etholiadau datganoledig yn cael eu cynnal a’u rhedeg. Roedd ein herthygl flaenorol yn trafod mesurau yn y Bil i gynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad.
Gwnaed rhai newidiadau sylweddol i'r Bil yn ystod Cyfnod 2, sef y cyfnod diwygio cyntaf.
Roedd y rhain yn cynnwys gwelliannau Llywodraeth Cymru mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Bwyllgorau’r Senedd, a gwelliant gan Adam Price AS, a fyddai’n ei gwneud yn drosedd i Aelodau o’r Senedd neu ymgeiswyr etholiadol wneud neu gyhoeddi datganiadau sy’n ffug neu'n dwyllodrus ‘yn fwriadol’.
Mae’r erthygl hon yn trafod y rhain a newidiadau eraill a wnaed i’r Bil yn ystod Cyfnod 2 ei hynt drwy'r Senedd.
Y drosedd o dwyll
Diwygiwyd y Bil yng Nghyfnod 2 i'w gwneud yn drosedd i Aelod o'r Senedd neu ymgeisydd mewn etholiad Senedd i:
wneud, cyhoeddi neu ganiatáu i ddatganiad y maent yn gwybod ei fod yn ffug neu'n dwyllodrus i gael ei gyhoeddi ar eu rhan er mwyn camarwain ‘yn fwriadol’, a ‘chyda’r bwriad o gamarwain’.
Os caiff y person ei ddyfarnu’n euog, byddai’n cael ei wahardd rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu rhag sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad Senedd am bedair blynedd.
Mae rhai amddiffyniadau y gallai rhywun sydd wedi'i gyhuddo o'r drosedd eu gwneud. Y rhain yw:
- ei bod wedi gwneud y datganiad ffug er budd diogelwch cenedlaethol;
- ei bod yn amlwg mai barn neu gred oedd y datganiad ac nad oedd yn cael ei gyflwyno fel ffaith; ac
- os yw’r Aelod neu’r ymgeisydd a gyhuddir yn tynnu’r datganiad yn ôl, yn ymddiheuro ac yn cywiro unrhyw anghywirdebau o fewn 14 diwrnod i wneud datganiad ffug neu i’r cyhuddiad gael ei ddwyn i’w sylw.
Mewn unrhyw un o'r achosion hyn, ni fyddai'r Aelod neu'r ymgeisydd yn cael eu hanghymhwyso. Dim ond o fewn chwe mis ar ôl i'r datganiad gael ei wneud neu ei gyhoeddi y gellid gwneud cwynion i'r heddlu.
Mae Adam Price AS yn dweud na ddylai twyll bwriadol mewn gwleidyddiaeth fyth fod yn dderbyniol. Mae'n gobeithio y bydd y diwygiad yn arwain at newid diwylliant gydag Aelodau neu ymgeiswyr yn meddwl ddwywaith cyn gwneud datganiadau sy’n rhy agos at y llinell. Mae’n dadlau y gall Aelodau o’r Senedd wneud penderfyniadau sy’n peri i rywun fyw neu farw, sy'n golygu bod effeithiau twyll yn ddifrifol.
Tra bod Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw AS, yn dweud bod y bwriadau sylfaenol y tu ôl i’r ddarpariaeth yn ymddangos yn foesol gywir, mae’n pryderu y gallai gael canlyniadau niweidiol anfwriadol.
Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol yn credu mai troseddoli twyll gan wleidyddion yw’r ffordd y dylai weithio ac mae’n dweud y gallai rwystro trafodaeth wleidyddol. Mae hefyd yn pryderu am y diffyg ymgynghori ynglŷn â’r diwygiad, yn enwedig gyda'r heddlu a'r farnwriaeth.
Yn lle hynny, galwodd am ystyriaeth ofalus o oblygiadau'r diwygiad ac awgrymodd ystyried dulliau eraill a allai fynd i'r afael â thwyll. Mae'r materion hyn yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn ei ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud os daw’r Pwyllgor i’r casgliad bod angen newidiadau i’r gyfraith, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r newidiadau sy’n cael eu gwneud mewn pryd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
Ymateb i newidiadau’r pwyllgor
Galwodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd am wneud nifer o newidiadau i’r Bil, i egluro cwmpas pwerau newydd i Weinidogion Cymru.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau mewn ymateb i argymhellion 4, 5, 7 a 10 o adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod yn rhaid cwblhau cynllun peilot ar gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig cyn i’r pŵer i gyflwyno system o’r fath gael ei ddefnyddio gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru a chyrff eraill gynnal cynlluniau peilot o ran y modd y caiff etholiadau eu cynnal. Roedd y Bil, fel y’i cyflwynwyd i’r Senedd, yn rhestru ystod o feysydd ac yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru newid y rhestr hon. Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn pryderu am y ffaith bod Gweinidogion Cymru yn cael pwerau i newid y rhestr. Diwygiwyd y Bil i ddileu’r pŵer hwn.
Gwella amrywiaeth
Diwygiwyd y Bil i gynnwys dyletswydd newydd ar Weinidogion Cymru gyda'r nod o wella amrywiaeth ymgeiswyr.
Byddai'n ofynnol bellach i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr sy'n sefyll yn etholiadau'r Senedd, ac ar ddatblygu strategaethau i wella amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n sefyll.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newidiadau hyn yn ymateb i argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd.
Mae'r Bil yn cynnwys mesurau eraill i wella amrywiaeth y bobl sy'n sefyll mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu cynlluniau cymorth ariannol er mwyn helpu ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau i’w cyfranogiad.
Galwodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd i’r Bil gael ei ddiwygio er mwyn sicrhau y gall cymorth ariannol gael ei dalu tuag at ymgeiswyr sydd â chostau a chyfrifoldebau gofalu. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y gallai’r Bil fel y’i drafftiwyd alluogi hyn i ddigwydd heb ei ddiwygio ymhellach.
Newidiadau eraill
Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar drefniadau cynghorau cymuned.
Cyflwynodd Joel James AS, welliant i anghymhwyso Aelodau o’r Senedd neu gynghorwyr cymuned rhag bod yn “swyddog priodol” cyngor cymuned hefyd.
Ni chytunwyd ar y newid yng Nghyfnod 2, ond dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddor y gwelliant ac y byddai’n gweithio gyda’r Aelod i wneud gwelliant yn ystod Cyfnod 3.
A fydd y Bil yn cael ei newid eto?
Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ei gwneud yn glir nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r newid a wnaed i anghymwyso Aelodau ac ymgeiswyr am y drosedd o dwyll a bydd yn cyflwyno gwelliant i’w dileu o’r Bil.
Bydd p’un a yw’r Senedd yn penderfynu cadw’r ddarpariaeth neu ei thynnu oddi ar y Bil yn gwestiwn allweddol i’r Senedd yn ystod Cyfnod 3.
Gallwch ddilyn y ddadl hon a phleidleisiau ar newidiadau pellach ar 2 Gorffennaf ar Senedd.tv.
Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru