Llun o brynu afal mewn marchnad

Llun o brynu afal mewn marchnad

Y Bil Bwyd (Cymru) - Crynodeb o'r Bil

Cyhoeddwyd 18/05/2023   |   Amser darllen munudau

Cyflwynwyd y Bil Bwyd (Cymru) fel 'Bil Aelod' ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, yn dilyn llwyddiant Peter Fox yn y balot Bil Aelod.

Nod y Bil yw darparu fframwaith cyffredinol newydd ar gyfer system fwyd well. Ei brif amcan yw integreiddio ystyriaethau economaidd, iechyd, cymdeithasol, addysg ac amgylcheddol i greu dull mwy cynaliadwy a chydlynol o ymdrin â bwyd. Byddai'n deddfu mewn tri phrif faes er mwyn:

  • cyflwyno 'nodau bwyd': yn cynnwys ‘nod bwyd sylfaenol’ a ‘nodau bwyd eilaidd’ gyda thargedau;
  • sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru i fonitro cynnydd, cynghori Gweinidogion Cymru a chynorthwyo cyrff cyhoeddus mewn perthynas â’u dyletswyddau o dan y Bil;
  • ei gwneud yn ofynnol i lunio strategaeth fwyd genedlaethol a chynlluniau bwyd lleol.

Mae'r Bil wedi cael ei groesawu gan lawer o randdeiliaid sydd wedi dadlau bod dull presennol Llywodraeth Cymru o ymdrin â bwyd yn anghydlynol.

Cafodd y Bil ei gyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Er bod y Pwyllgor yn cefnogi amcanion polisi'r Bil yn unfrydol, ni allai ddod i safbwynt unedig ar yr angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r amcanion hynny. Felly nid yw'n darparu argymhelliad i'r Senedd ynghylch a ddylai gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Bydd y Senedd yn trafod yr egwyddorion cyffredinol ac yn pleidleisio arnynt ar 24 Mai 2023.

Mae'r papur briffio newydd hwn gan Ymchwil y Senedd yn crynhoi'r Bil a'r materion a gododd yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1.

Mae ein ffeithlun isod yn adnodd i ddeall yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud.

Dewis categori:

Dewiswch adran:

Adran 1

Mae adran 1 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd.


Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru