Adran 1
Mae adran 1 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd.
Adran 2
Mae Adran 2 yn sefydlu'r nod bwyd sylfaenol - "darparu bwyd fforddiadwy, iach, ac sy'n gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol i bobl Cymru".
Adran 3
Mae adran 3 yn nodi nodau bwyd eilaidd gyda disgrifiadau o dan y penawdau: llesiant economaidd; iechyd a chymdeithasol; addysg; yr amgylchedd; a gwastraff bwyd. Gall Gweinidogion Cymru ddiwygior disgrifiadau ar ôl ymgynghori â Chomisiwn Bwyd Cymru.
Adran 4
Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau ar gyfer pob un o'r nodau bwyd eilaidd a hynny cyn pen dwy flynedd wedi i'r adran hon ddod i rym (sef tri mis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol). Rhaid iddynt osod safon fesuradwy a dyddiad targed.
Adran 5
Mae Adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori wrth osod targedau a rhaid iddynt fod wedi'u hargyhoeddi bod modd cyrraedd y targed.
Adran 6
Mae adran 6 yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r targedau.
Adran 7
Mae adran 7 yn nodi'r gofynion ar gyfer adolygu'r targedau. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i'r adolygiad cyntaf o'r targedau gael eu cwblhau cyn pen pum mlynedd ar ôl i'r adran hon ddod i rym (sef tri mis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol). Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol cyn pen pum mlynedd ar ôl cwblhau'r adolygiad blaenorol.
Adran 8
Mae Adran 8 yn sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru.
Adran 9
Mae Adran 9 yn gosod amcanion Comisiwn Bwyd Cymru - hyrwyddo a hwyluso'r nodau bwyd sylfaenol ac eilaidd / targedau.
Adran 10
Mae Adran 10 yn sefydlu swyddogaethau'r Comisiwn gan gynnwys: datblygu a chynghori ynghylch polisïau bwyd, a goruchwylio / adolygu nodau a thargedau bwyd sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r corff cyhoeddus.
Adran 11
Mae Adran 11 yn cyflwyno'r Atodlen sy'n manylu ar weithrediad y Comisiwn, gan gynnwys ei statws, ei aelodaeth, cyflogau, staff, gwaith mewnol, cyllid, adroddiadau a chyfrifon. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd wrth benodi'r Cadeirydd a'r aelodau.
Adran 12
Mae Adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi strategaeth fwyd genedlaethol, gan gynnwys polisïau sy'n hyrwyddo'r nodau sylfaenol ac eilaidd cyn pen dwy flynedd ar ôl i'r adran hon ddod i rym (sef tri mis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol).
Adran 13
Mae Adran 13 yn sefydlu'r broses o baratoi'r strategaeth. Rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor y Comisiwn Bwyd Cymru a gallant ofyn am gyngor Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag arbenigwyr annibynnol / personau priodol eraill a rhoi sylw i wahanol offerynnau rhyngwladol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Adran 14
Mae Adran 14 yn disgrifio effaith y strategaeth. Rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw i'r strategaeth fwyd wrth arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â nodau a thargedau bwyd.
Adran 15
Mae Adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar effeithiolrwydd y strategaeth fwyd genedlaethol ('cyn gynted ag y bo'n ymarferol' ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r strategaeth).
Adran 16
Mae Adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r strategaeth fwyd genedlaethol bob pum mlynedd a'i hadolygu pan fo hynny'n briodol yn eu barn nhw.
Adran 17
Mae Adran 17 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus (awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ond nid Gweinidogion Cymru) baratoi cynllun bwyd lleol cyn pen dwy flynedd ar ôl i'r adran hon ddod i rym (sef tri mis ar ôl Cydsyniad Brenhinol).
Adran 18
Mae Adran 18 yn sefydlu'r broses ar gyfer p aratoi cynlluniau bwyd lleol. Gall cyrfff cyhoeddus ymgynghori â Chomisiwn Bwyd Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac unigolion priodol eraill a rhaid iddynt roi sylw i'r strategaeth fwyd genedlaethol.
Adran 19
Mae Adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw i'w cynllun bwyd wrth arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â'r nodau a'r targedau bwyd.
Adran 20
Mae Adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflwyno adroddiad ar effeithiolrwydd eu cynllun bwyd lleol ('cyn gynted ag y bo'n ymarferol' ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r cynlluniau lleol).
Adran 21
Mae Adran 21 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adolygu eu cynlluniau bwyd lleol bob pum mlynedd, a'u hadolygu pan fo hynny'n briodol yn eu barn nhw.
Adran 22
Mae Adran 22 yn diffinio 'corff cyhoeddus' fel Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Gall Gweinidogion Cymru ddiwygio'r rhestr hon ar ôl ymgynghori â Chomisiwn Bwyd Cymru a phersonau priodol eraill, ond ni allant dynnu eu hunain oddi arni. Rhaid i ychwanegiadau arfer "swyddogaethau o natur gyhoeddus".
Adran 23
Mae Adran 23 yn cadarnhau bod y pŵer i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol, gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol.
Adran 24
Mae adran 24 yn darparu ar gyfer dehongli termau yn y Bil.
Adran 25
Mae Adran 25 yn darparu ar gyfer cychwyn (dri mis yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol).
Adran 26
Mae Adran 26 yn darparu ar gyfer enw byr y Bil.