Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) - Crynodeb o'r Bil

Cyhoeddwyd 02/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn arwyddocaol - i'r Senedd ac i Gymru.

Am y tro cyntaf, mae'r Senedd yn ystyried deddfwriaeth i gyflwyno polisi amaethyddol 'cynnyrch Cymru'. Mae’n golygu goblygiadau i ffermwyr Cymru, yr amgylchedd ac economi a diwylliant Cymru.

Wedi’i ragweld ers canlyniad refferendwm yr UE yn 2016, mae'r Bil hwn yn wynebu nifer o heriau: yr argyfyngau hinsawdd a natur, chwyddiant, y cynnydd yn y costau byw, rhyfel Wcráin, prinder bwyd a tharfu ar fasnach.

Felly mae’n hanfodol sicrhau bod tir yng Nghymru yn cael ei reoli'n iawn. O gofio bod tua 90 y cant o dir Cymru yn dir amaethyddol, mae llawer yn y fantol i'r Senedd.

Mae ein Crynodeb o'r Bil yn rhoi manylion am y Bil a gwaith craffu pwyllgorau'r Senedd yn ystod Cyfnod 1, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror 2022.

Mae ein ffeithlun isod yn adnodd i ddeall yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud.

Dewiswch gategori:

Dewiswch adran:

Adran 1

Mae Adran 1 yn sefydlu pedwar amcan ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  • cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy;
  • lliniaru ac addasu i newid hinsawdd;
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a'r buddion y maent yn eu darparu; a
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.

Erthygl gan Katy Orford ac Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru