Mae’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn arwyddocaol - i'r Senedd ac i Gymru.
Am y tro cyntaf, mae'r Senedd yn ystyried deddfwriaeth i gyflwyno polisi amaethyddol 'cynnyrch Cymru'. Mae’n golygu goblygiadau i ffermwyr Cymru, yr amgylchedd ac economi a diwylliant Cymru.
Wedi’i ragweld ers canlyniad refferendwm yr UE yn 2016, mae'r Bil hwn yn wynebu nifer o heriau: yr argyfyngau hinsawdd a natur, chwyddiant, y cynnydd yn y costau byw, rhyfel Wcráin, prinder bwyd a tharfu ar fasnach.
Felly mae’n hanfodol sicrhau bod tir yng Nghymru yn cael ei reoli'n iawn. O gofio bod tua 90 y cant o dir Cymru yn dir amaethyddol, mae llawer yn y fantol i'r Senedd.
Mae ein Crynodeb o'r Bil yn rhoi manylion am y Bil a gwaith craffu pwyllgorau'r Senedd yn ystod Cyfnod 1, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror 2022.
Mae ein ffeithlun isod yn adnodd i ddeall yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud.
Dewiswch gategori:
Dewiswch adran:
Adran 1
Mae Adran 1 yn sefydlu pedwar amcan ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy:
- cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy;
- lliniaru ac addasu i newid hinsawdd;
- cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a'r buddion y maent yn eu darparu; a
- gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd.
Adran 2
Mae Adran 2 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer rhai swyddogaethau sy'n ymwneud ag "amaethyddiaeth" a "gweithgareddau ategol" (a ddiffinnir yn adrannau 48 a 49, yn y drefn honno) yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion o ran rheoli tir yn gynaliadwy.
Adran 3
Mae Adran 3 yn darparu ar gyfer rhai eithriadau i’r ddyletswydd yn adran 2.
Adran 4
Mae Adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio, cyhoeddi a chyflwyno datganiad gerbron Senedd Cymru sy’n nodi’r dangosyddion a’r targedau a ddefnyddir i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.
Adran 5
Mae Adran 5 yn nodi'r camau y mae'n rhaid eu cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau.
Adran 6
Mae Adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiadau rheoli tir yn gynaliadwy ac mae’n nodi’r hyn y dylai’r adroddiadau hynny ei gynnwys a’r amserlen ar eu cyfer. Diben yr adroddiadau rheoli tir yn gynaliadwy yw monitro cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy gan ddefnyddio'r dangosyddion a'r targedau.
Adran 7
Mae Adran 7 yn nodi'r adroddiadau, y polisïau a materion eraill y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth lunio adroddiadau'r rheoli tir yn gynaliadwy.
Adran 8
Mae Adran 8 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Mae'n nodi rhestr nad yw'n gynhwysfawr o ‘ddibenion’ y gellir darparu cymorth o'r fath ar eu cyfer, y gellir ei diwygio drwy reoliadau. Nod y dibenion yw cefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Gellir darparu cymorth ar ffurf cynllun, neu drwy ddull arall.
Adran 9
Mae Adran 9 yn rhoi mwy o fanylion am y cymorth y gellir ei roi o dan adran 8. Mae'n nodi y gellir darparu'r cymorth hwnnw’n ariannol neu fel arall, a gellir ei ddarparu i berson neu sefydliad sydd wedi sefydlu neu sy'n gweithredu “cynllun trydydd parti” (h.y. cynllun nad yw’n cael ei wneud gan Weinidogion Cymru).
Adran 10
Mae Adran 10 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cyhoeddi gwybodaeth benodedig am gymorth a ddarperir o dan adran 8. Er enghraifft, gwybodaeth ynghylch derbynnydd unrhyw gymorth a ddarperir.
Adran 11
Mae Adran 11 yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth o dan adran 8 yn cael eu bodloni a'r canlyniadau os nad ydynt. Mae'n darparu ar gyfer gorfodi cydymffurfedd a monitro i ba raddau y mae diben y cymorth wedi ei gyflawni, ac ymchwilio i droseddau a amheuir.
Adran 12
Mae Adran 12 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio adroddiad blynyddol am y cymorth ariannol a chymorth arall a ddarparwyd o dan adran 8 yn ystod pob blwyddyn ariannol.
Adran 13
Mae Adran 13 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Adroddiad Effaith bob pum mlynedd er mwyn asesu effaith ac effeithiolrwydd y cymorth a ddarparwyd o dan adran 8.
Adran 14
Mae Adran 14 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i rai materion wrth lunio Adroddiad Effaith.
Adran 15
Mae Adran 15 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy'n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol (o ran y polisi amaethyddol cyffredin) mewn perthynas â Chymru.
Adran 16
Mae Adran 16 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy'n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin mewn perthynas â Chymru.
Adran 17
Mae Adran 17 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy'n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth (cadw gwenyn) mewn perthynas â Chymru.
Adran 18
Mae Adran 18 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy'n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig (o ran y polisi amaethyddol cyffredin) mewn perthynas â Chymru.
Adran 19
Mae Adran 19 yn darparu nad oes dim yn y Bennod hon yn effeithio ar bwerau i addasu'r un meysydd (h.y. cynllun y taliad sylfaenol ac ati) o dan ddeddfwriaeth ar wahân.
Adran 20
Mae Adran 20 yn darparu ar gyfer amgylchiadau lle y caiff Gweinidogion Cymru wneud datganiad “amodau eithriadol yn y farchnad" os bydd aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol yn gyffredinol, sydd wedi cael effaith andwyol sylweddol, neu sy'n debygol o gael effaith andwyol sylweddol, ar y prisiau y gellir eu cael ar gyfer cynhyrchion amaethyddol o Gymru.
Adran 21
Mae Adran 21 yn nodi'r pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru yn ystod y cyfnod y mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith. Gall hyn gynnwys cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru y mae’r amodau eithriadol yn y farchnad a ddisgrifir yn y datganiad wedi cael, yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol ar eu hincwm.
Adran 22
Mae Adran 22 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat, i'r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru. Ystyr 'ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus' yw prynu, storio ac ailwerthu nwyddau penodol ar ôl i brisiau godi ac ystyr 'cymorth ar gyfer storio preifat' yw talu cynhyrchwyr i storio cynnyrch am gyfnod y cytunwyd arno i'w dynnu oddi ar y farchnad.
Adran 23
Mae Adran 23 yn diwygio adran 19A o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. Effaith y diwygiad hwn yw rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gynnig modd i denantiaid amaethyddol ddatrys anghydfodau â landlordiaid ynghylch cymalau cyfyngol yn eu cytundebau tenantiaeth, a allai eu hatal rhag manteisio ar y cymorth ariannol a gaiff ei ddarparu o dan y Bil hwn.
Adran 24
Mae Adran 24 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r rheini sydd mewn “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am eu gweithgareddau mewn cysylltiad â'r gadwyn gyflenwi honno.
Adran 25
Mae Adran 25 yn diffinio “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”, pobl "mewn" cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth a phobl sydd â "chysylltiad agos" â chadwyn gyflenwi bwyd-amaeth.
Adran 26
Mae Adran 26 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal “gweithgaredd perthnasol” (ac nad yw’n berson sydd “mewn” cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â “chysylltiad agos” â chadwyn gyflenwi o’r fath) ddarparu gwybodaeth am faterion sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd hwnnw.
Adran 27
Mae Adran 27 yn diffinio "gweithgaredd perthnasol" at ddibenion y Bennod hon.
Adran 28
Mae Adran 28 yn pennu bod yn rhaid i ofynion gwybodaeth a osodir o dan adrannau 24 a 26 bennu’r dibenion y caniateir prosesu’r wybodaeth ar eu cyfer. Rhoddir rhestr o’r dibenion.
Adran 29
Mae Adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi drafft o'r gofyniad cyn iddo gael ei osod.
Adran 30
Mae Adran 30 yn nodi, pan ddarperir gwybodaeth mewn ymateb i ofyniad, mai dim ond at y dibenion a bennir yn y gofyniad y caniateir i’r wybodaeth gael ei phrosesu.
Adran 31
Mae Adran 31 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer gorfodi gofyniad a osodir o dan adran 24 neu 26. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cosbau am beidio â chydymffurfio ac ynghylch apelio.
Adran 32
Mae Adran 32 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n rhagnodi’r safonau y mae'n rhaid i rai cynhyrchion amaethyddol gydymffurfio â hwy pan gânt eu marchnata yng Nghymru. Rhestrir y cynhyrchion perthnasol yn Atodlen 1.
Adran 33
Mae Adran 33 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch dosbarthiad, dull adnabod a chyflwyniad carcasau penodol gan ladd-dai yng Nghymru.
Adran 34
Rhoddir trosolwg yn Adran 34 o sut y mae'r rhan hon o'r Bil yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 o ran Cymru.
Adran 35
Mae Adran 35 yn diwygio adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i’w gwneud yn bosibl i gorff adnoddau naturiol Cymru (‘Cyfoeth Naturiol Cymru’), sef yr ‘awdurdod coedwigaeth priodol’ i Gymru, osod amodau ar y broses o roi trwydded cwympo coed os yw'n ymddangos i Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai'n hwylus gwneud hynny at ddiben (i) gwarchod neu wella harddwch naturiol, neu (ii) gwarchod fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu ffisiograffig, neu gynefinoedd naturiol.
Adran 36
Mae Adran 36 yn mewnosod is-adran newydd (3A) yn adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru a deiliad trwydded a roddir o dan yr adran honno i gytuno (ar unrhyw adeg) i ddiwygio'r drwydded cwympo coed.
Adran 37
Mae Adran 37 yn mewnosod dwy adran newydd yn Neddf Coedwigaeth 1967 i alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded cwympo coed o dan amgylchiadau pa fo amodau'r drwydded wedi eu torri, ac amgylchiadau pan nad yw’r amodau wedi eu torri (adrannau newydd 24C a 24D, yn y drefn honno).
Adran 38
Mae Adran 38 yn mewnosod adran newydd 24E yn Neddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu bod digollediad yn daladwy o dan rai amgylchiadau ar ôl i hysbysiad gael ei roi o dan adran 24C neu 24D.
Adran 39
Mae Adran 39 yn mewnosod is-adrannau newydd yn adran 25 o Ddeddf Coedwigaeth 1967, sy'n darparu i apeliadau gael eu dwyn yn erbyn penderfyniadau a gymerir i atal, diwygio neu ddirymu trwyddedau o dan adrannau newydd 24C a 24D.
Adran 40
Mae Adran 40 yn diwygio adran 17 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu mai’r gosb am droseddau a gyflawnir mewn perthynas â thir yng Nghymru yw dirwy ddiderfyn.
Adran 41
Mae Adran 41 yn gwneud sawl diwygiad canlyniadol i Ddeddf Coedwigaeth 1967. Mae'r diwygiadau hyn o ganlyniad i newidiadau a wnaed i'r Ddeddf honno gan adrannau 35 i 39 o'r Bil.
Adran 42
Rhoddir trosolwg yn Adran 42 o’r rhesymau pam y mae'r Rhan hon o'r Bil yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“Deddf 1981”).
Adran 43
Mae Adran 43 yn diwygio adran 11(1) o Ddeddf 1981 i wneud y gweithredoedd a ganlyn yn droseddau:
- gosod magl neu unrhyw atalydd cebl arall mewn lleoliad yng Nghymru, os yw’n fath penodol o fagl neu atalydd, ac yn cael ei osod mewn modd, sy’n debygol o anafu anifail gwyllt;
- defnyddio magl neu unrhyw atalydd cebl arall yng Nghymru at ddiben lladd neu gymryd unrhyw anifail gwyllt;
- gosod trap glud mewn lleoliad yng Nghymru, os yw'n fath penodol o drap, ac yn cael ei osod mewn modd, sy’n debygol o ddal unrhyw anifail asgwrn cefn (heblaw am bobl); a
- defnyddio trap glud yng Nghymru at ddiben lladd neu gymryd unrhyw anifail asgwrn cefn (heblaw am bobl).
Adran 44
Mae Adran 44 yn diwygio adran 11(2) o Ddeddf 1981 i addasu'r gwaharddiadau ar osod unrhyw fagl neu drap, neu unrhyw ddyfais drydanol ar gyfer lladd neu stynio, neu unrhyw sylwedd gwenwynig, sylwedd a wenwynwyd neu sylwedd llesgáu. Yr effaith yw y bydd y gwaharddiadau'n berthnasol pan fydd eu defnydd yn “debygol” o niweidio y math o anifail gwyllt a bennir (yn hytrach na phan fyddant yn cael eu defnyddio’n â’r bwriad o niweidio'r math hwnnw o anifail gwyllt).
Adran 45
Mae Adran 45 yn gwneud sawl diwygiad canlyniadol i Ddeddf 1981. Mae'r diwygiadau hyn yn gysyltiedig â’r newidiadau a wnaed i'r Ddeddf honno gan adrannau 43 a 44 o'r Bil.
Adran 46
Mae Adran 46 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau atodol, canlyniadol neu drosiannol yn ôl yr angen er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil.
Adran 47
Mae Adran 47 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch rheoliadau a wneir o dan y Bil, ac mae’n nodi gweithdrefn berthnasol y Senedd ar gyfer rheoliadau o'r fath.
Adran 48
Mae Adran 48 yn diffinio “amaethyddiaeth” at ddibenion y Bil.
Adran 49
Mae Adran 49 yn diffinio “gweithgaredd ategol” at ddibenion y Bil.
Adran 50
Mae Adran 50 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r diffiniadau o “amaethyddiaeth” a “gweithgaredd ategol” drwy reoliadau, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.
Adran 51
Darpariaeth ddehongli yw Adran 51 sy'n diffinio rhagor o eiriau a thermau a ddefnyddir yn y Bil.
Adran 52
Mae Adran 52 yn rhoi effaith i Atodlenni 2 a 3 sy'n cynnwys cyfres o ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Adran 53
Mae Adran 53 yn nodi pryd y daw pob un o ddarpariaethau'r Bil i rym.
Adran 54
Mae Adran 54 yn darparu mai enw byr y Bil yw “Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023”.
Atodlen 1
Mae Atodlen 1 (a gyflwynir gan adran 32) yn gwneud darpariaeth ynghylch cynhyrchion amaethyddol sy'n berthnasol i'r darpariaethau safonau marchnata yn y Bil.
Atodlen 2
Mae Atodlen 2 (a gyflwynir gan adran 52) yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â Rhannau 1-3 o’r Bil.
Atodlen 3
Mae Atodlen 3 (a gyflwynwyd hefyd gan adran 52) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliad (UE) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (y "Rheoliad CMO").
Erthygl gan Katy Orford ac Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru