Y Bil ADY: 'Gweddnewid' system 'nad yw bellach yn addas i'w diben'

Cyhoeddwyd 15/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

15 Rhagfyr 2016 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 12 Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a thrwy hynny ei gyflwyno i broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Cyhoeddodd y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC ddatganiad ysgrifenedig ochr yn ochr â'r Bil ac yna gwnaeth ddatganiad llafar i Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd y diwrnod canlynol (13 Rhagfyr 2016). Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio'r Bil fel cyfraith uchelgeisiol i greu dull gweithredu beiddgar newydd a fydd yn 'gweddnewid' y ffordd y caiff anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc yng Nghymru eu diwallu. Mae rhanddeiliaid a theuluoedd wedi galw ers amser am newid system y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod 'nad yw bellach yn addas i'w diben'. [caption id="attachment_6637" align="alignnone" width="500"]Dyma lun o bensiliau lliw Llun: o Flickr gan Alan Cleaver. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Beth y mae'r Bil yn ei wneud? Mae'r Bil yn cynnig gosod system ddiwygiedig yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn lle'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol. Bydd y diffiniad presennol o AAA yn parhau o dan y system newydd o ADY, sef y tybir bod gan blentyn neu berson ifanc ADY os ydynt yn cael llawer mwy o drafferth dysgu na’r rhan fwyaf o ddisgyblion yr un oedran â hwy, neu os oes ganddynt anabledd sy’n eu hatal neu’n eu rhwystro rhag manteisio ar yr addysg sydd ar gael yn gyffredinol. Caiff dros 105,000 (22.5%) o ddisgyblion yng Nghymru eu nodi fel rhai sydd ag AAA/ADY (ystadegau 2015/16). Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud llawer mwy na dim ond newid terminoleg. Ceir tri amcan cyffredinol yn y Bil:
  • Fframwaith deddfwriaethol unedig i gynorthwyo plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY mewn ysgolion ac mewn addysg bellach (yn hytrach na’r system AAA bresennol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 16 oed a’r system Anawsterau a/neu Anableddau Dysgu (AAD) ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed, sy’n cael eu cynnwys o dan ddeddfwriaeth wahanol ar hyn o bryd);
  • Proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro gydag ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol (gan gynnwys dyletswyddau ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gydweithio â'i gilydd i ddiwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY drwy baratoi Cynllun Datblygu Unigol);
  • System deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor, ac o ymdrin â phryderon ac achosion o apêl (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i osgoi ac ymdrin ag anghytundebau, gan ddiwygio system a ddisgrifiwyd fel un 'gymhleth, ddryslyd a gwrthwynebol'; ac ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Tribiwnlys Addysg Cymru).
Mae darpariaethau'r Bil yn seiliedig ar ddeg nod craidd Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r tri amcan. Ceir manylion y nodau hyn ym mharagraffau 3.5 i 3.16 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Bil (PDF 2.81 MB). Un o brif ddiwygiadau'r Bil yw rhoi diwedd ar y system bresennol o ddatganiadau. Ar hyn o bryd, mae rhai dysgwyr sydd ag AAA (tua 88%) yn derbyn un o ddwy lefel o gymorth a arweinir gan yr ysgol (Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy) neu, os bydd gan ddysgwyr anghenion mwy difrifol (12%), mae’r awdurdod lleol yn cyhoeddi datganiad sy’n rhoi hawl gyfreithiol i becyn penodol o gymorth. Yn hytrach, bydd pob dysgwr ag ADY yn cael yr un math o gynllun statudol er mwyn diwallu eu hanghenion – Cynllun Datblygu Unigol. Fodd bynnag, byddai hyn yn gwahaniaethu o hyd rhwng rhai achosion (mwy difrifol a chymhleth) lle y byddai awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal CDU dysgwr, er mai'r ysgol neu'r coleg a fyddai'n gyfrifol yn y rhan fwyaf o achosion. Yr her fyddai sicrhau bod modd i'r dull cynhwysol barhau i ddarparu'r cymorth graddedig angenrheidiol, a hynny wedi'i deilwra'n briodol i'r lefel o ddifrifoldeb anghenion dysgwyr, ac nad yw'r cymorth a ddarperir i'r rhai sydd â datganiadau ar hyn o bryd yn gwanhau. Rhybuddiodd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru am y posibilrwydd o wanhau'r ddarpariaeth i ddysgwyr ag anghenion difrifol a chymhleth drwy geisio sicrhau bod y system yn hyblyg ac yn darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion llai difrifol. Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn? Mae diwygio’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer AAA wedi bod ar yr agenda ers amser yng Nghymru drwy nifer o adolygiadau blaenorol, ymgynghoriadau, datblygiadau ym maes polisi a chynlluniau peilot. Yn fwyaf diweddar, yn 2015, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Bil drafft a chyhoeddodd God Ymarfer drafft. Mae ein Papur Briffio Ymchwil, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru (Tachwedd 2016), yn cynnwys gwybodaeth gefndir. Roedd crynodeb Llywodraeth Cymru o'r 263 o ymatebion y cafodd i'r ymgynghoriad yn dangos, er gwaethaf cefnogaeth gyffredinol i’r egwyddorion a chyfeiriad y Bil drafft, bod gan randdeiliaid bryderon am y cynigion deddfwriaethol yn eu ffurf ddrafft. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys pum cwestiwn caeedig yn gofyn i gyfranogwyr a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â datganiad ynghylch a fyddai agwedd ar y Bil drafft yn effeithiol, neu nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno. Roedd mwy o ymatebwyr yn anghytuno nac yn cytuno â phob un o'r pum cwestiwn. Mae dadansoddiad pellach o ganlyniadau'r ymgynghoriad i'w weld ym mhennod 7 ein Papur Briffio Ymchwil (PDF 1.05 MB). Rhagflaenodd Llywodraeth Cymru ei chrynodeb o'r ymatebion i bob un o'r cwestiynau hyn drwy gyfeirio at y gefnogaeth i egwyddorion cyffredinol y Bil drafft. Dywedodd hefyd nad oedd y naratif a gyflwynwyd gan ymatebwyr i gefnogi eu hatebion i'r cwestiynau caeedig yn cyfleu cymaint o anghytundeb ag y mae'r canlyniadau yn ei awgrymu. Roedd llawer o'r materion a godwyd yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn adleisio'r rheini a godwyd yn ystod gwaith craffu cyn deddfu y cyn-Bwyllgor Plant, Plant Ifanc ac Addysg ar y Bil drafft ddiwedd 2015. Roedd y rhain yn cynnwys dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gydweithio, darpariaeth blynyddoedd cynnar ac ôl-16, a threfniadau ar gyfer osgoi anghytundeb a datrys anghydfod. Pa newidiadau a wnaed i'r Bil drafft? Mae'r Memorandwm Esboniadol (PDF 2.81 MB) (gweler paragraffau 4.15-4.19) yn cynnwys tabl yn rhestru'r newidiadau a wnaed i fersiwn ddrafft y Bil a sail resymegol Llywodraeth Cymru dros bob un o'r rhain. Gellid dadlau mai'r newid mwyaf arwyddocaol yw'r ymgais i gryfhau'r ddyletswydd ar gyrff iechyd i wneud darpariaeth i ddiwallu ADY plant a phobl ifanc y ADY, y beirniadwyd fel bod yn rhy wan yn y Bil draft.                  Roedd y Bil drafft (PDF 258 KB) yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG i sicrhau darpariaeth ADY i ddysgwr os yw'r ddarpariaeth honno wedi'i phennu yn ei Gynllun Datblygu Unigol. Fodd bynnag, byddai'r ddarpariaeth wedi cael ei chynnwys yn y Cynllun Datblygu Unigol dim ond os byddai'r corff iechyd yn 'cytuno' â hyn. Cafodd hyn gryn feirniadaeth a daeth rhanddeiliaid, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi hynny, i'r casgliad nad oedd hyn yn clymu'r sector iechyd yn ddigonol i gynnig darpariaeth a oedd yn angenrheidiol. Yr wrthddadl oedd mai barn glinigol gweithwyr iechyd proffesiynol a ddylai benderfynu pa ddarpariaeth sy'n briodol ac yn angenrheidiol i ddysgwyr ag ADY. Mae Llywodraeth Cymru wedi newid geiriad yr adran berthnasol yn y Bil (adran 18 bellach) fel:
  • Os bydd awdurdod lleol yn gofyn i gorff iechyd wneud hynny, mae'n 'rhaid i’r corff ystyried a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy'n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu'r person ifanc'.
  • Os yw’r corff iechyd yn nodi triniaeth neu wasanaeth o’r fath, ‘rhaid iddo sicrhau' y driniaeth neu’r gwasanaeth ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.
Mae'r prif newidiadau eraill a wnaed i'r Bil drafft yn cynnwys dyletswyddau a darpariaethau mwy penodol ynghylch a yw gwasanaethau ADY ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, mwy o fanylion ar wyneb y Bil (yn hytrach nag yn ddilynol mewn rheoliadau) ynghylch darpariaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, a dyletswyddau ar ddarparwyr nas cynhelir ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn hytrach na dim ond ysgolion meithrin a gynhelir. Beth fydd yn digwydd nesaf? Bydd y Pwyllgor Addysg, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu ar y Bil, sydd wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth i lywio ei waith. Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid hefyd yn rhoi trosolwg ar y Bil. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Cod ADY drafft a fydd yn cynnwys mwy o fanylion ynghylch sut y dylid asesu, nodi a darparu ar gyfer ADY plant a phobl ifanc (a sut y mae'n 'rhaid' gwneud hyn mewn rhai achosion). Bydd y Cod yn rhoi canllawiau statudol ac yn llywio gwaith craffu'r Cynulliad ar y Bil. Mae'r Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC, wedi pwysleisio bod y Bil yn rhan o raglen ehangach i drawsnewid y system ADY. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mabwysiadu dull gweithredu graddol i roi'r fframwaith statudol newydd ar waith ochr yn ochr â'i Rhaglen Trawsnewid ADY a fydd 'yn helpu partneriaid cyflenwi i symud yn effeithiol o'r system bresennol i'r drefn newydd'. Mae Grŵp Gweithredu Strategol ADY yn gyfrifol am gynllunio ar gyfer pontio. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori yn 2017 ar yr opsiynau ar gyfer cyflwyno'r system newydd yn raddol ac yna datblygu cynllun gweithredu a phontio manwl i'w gyhoeddi maes o law. O ran y ddeddfwriaeth ei hun, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cwblhau ei waith craffu ('Cyfnod 1) ar egwyddorion cyffredinol y Bil drwy gyflwyno adroddiad cyn 12 Mai 2017. Yna, bydd dadl gychwynnol a phleidlais yn y Cyfarfod Llawn cyn cyfnodau diwygio a phleidleisio pellach.