Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Crynodeb o’r Bil (Cyfnod 2)

Cyhoeddwyd 14/06/2022   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 21 Mehefin, bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar welliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 3 ar daith y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Rydym wedi llunio crynodeb o'r newidiadau a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2, a ddigwyddodd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 12 Mai 2022.

Crynodeb o’r Bil: Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) – Cyfnod 2

Mae’r Bil yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn creu corff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru. Gelwir y corff newydd hwn yn Gomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd y corff hwn yn gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Senedd. Mae ein Crynodeb o'r Bil, a gyhoeddwyd pan gyflwynwyd y Bil, yn esbonio’r hyn mae'r Bil yn ei wneud ac yn rhoi rhagor o wybodaeth gefndirol amdano.

Gallwch wylio’r trafodion Cyfnod 3 yn fyw ar Senedd.TV ar 21 Mehefin.


Erthygl gan Rosemary Hill, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru