Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Yr hyn y gellid ei gytuno yn ystod yr 11 mis nesaf?

Cyhoeddwyd 03/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Heddiw rydym yn cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy'n nodi'r llinell amser a’r manylion am yr hyn y mae'r DU a'r UE wedi ymrwymo i gytuno arno yn y trafodaethau ynglŷn â’u perthynas yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth y DU am ddod â'r trafodaethau i ben erbyn mis Rhagfyr 2020, gan roi 11 mis i'r timau negodi ddod i gytundeb ar y meysydd a nodir yn y ffeithluniau isod.

Yn ogystal â chytundeb masnach ar nwyddau a gwasanaethau, mae'r ddwy ochr wedi ymrwymo i geisio cytundeb ar nifer o feysydd pwysig eraill fel pysgodfeydd, hedfan, seiberddiogelwch a gwrthderfysgaeth. Mae'r ddwy ochr hefyd wedi cytuno i ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio’n barhaus mewn meysydd fel addysg, diwylliant, gwyddoniaeth ac arloesi. Mae'r rhain yn feysydd y mae pwyllgorau'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru wedi'u nodi fel rhai sy'n bwysig i Gymru.

Llinell amser ar gyfer y trafodaethau

Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE ar 31 Ionawr, mae'r DU bellach wedi dechrau cyfnod pontio pan fydd yn ceisio trafod ac wedyn trosglwyddo i berthynas newydd gyda'r UE. Mae’r Cytundeb Ymadael yn nodi y gellid ymestyn y cyfnod pontio ond mae Llywodraeth y DU, trwy Ddeddf Cytundeb Ymadael yr UE, wedi deddfu i atal Gweinidogion y DU rhag cytuno i estyniad o’r fath. Mae hyn yn golygu y bydd angen dod â thrafodaethau i ben a chadarnhau cytundeb gan y ddwy ochr erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Mae'r llinell amser isod yn nodi rhai o'r cerrig milltir allweddol yn ystod yr 11 mis nesaf yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

Llinell Amser Brexit

Yr hyn y mae angen cytuno arno

Ym mis Hydref 2019, cytunodd y DU a'r UE ar destun Datganiad Gwleidyddol. Mae'r Datganiad yn nodi'n fras 'map ffordd' ar gyfer yr hyn y mae'r ddwy ochr yn credu y dylid ei gynnwys mewn cytundeb ar y berthynas yn y dyfodol. Rydym wedi dadansoddi'r gwahanol ymrwymiadau a wnaed yn y testun ac wedi'u grwpio yn bedwar maes eang, sydd wedi'u nodi yn yr ffeithluniau isod, sef:

  • partneriaeth economaidd, gan gynnwys cytundeb masnach rydd ar nwyddau, pysgota, gwasanaethau ariannol, a thrafnidiaeth ffyrdd, rheilffyrdd, awyr ac arforol;
  • partneriaeth ddiogelwch, gan gynnwys cydweithredu ar orfodi'r gyfraith a materion barnwrol, diogelwch ac amddiffyn;
  • cytundebau ar feysydd cydweithredu parhaus, gan gynnwys cyfranogiad posibl y DU mewn rhaglenni a ariennir gan yr UE; a
  • cytundeb llywodraethu sy'n nodi sut y bydd y berthynas yn y dyfodol yn cael ei llywodraethu a sut y bydd unrhyw anghydfodau ynghylch ei gweithredu yn cael eu datrys.

Nid yw'n sicr eto a fydd y rhain yn rhan o un cytundeb neu a fydd cyfres o wahanol gytundebau rhwng y DU a'r UE.

Y Bartneriaeth Economaidd

Y Bartneriaeth Economaidd

Partneriaeth Ddiogelwch

Partneriaeth Ddiogelwch

Meysydd O Gydweithio Parhaus

Meysydd O Gydweithio Parhaus

Trefniadau Sefydliadol A Llorweddol Erailll

Trefniadau Sefydliadol A Llorweddol Erailll

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Disgwylir i'r ddwy ochr yn awr fabwysiadu mandadau negodi manylach cyn i'r trafodaethau ddechrau o ddifrif ddiwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth. Bydd y testunau hyn yn nodi'n fanwl yr hyn y mae'r ddwy ochr yn gobeithio'i gyflawni yn y trafodaethau a'r meysydd blaenoriaeth i gytuno arnynt.

Disgwylir i Gyngor yr UE gytuno ar fandad yr UE yng nghyfarfod y Cyngor Materion Cyffredinol ar 25 Chwefror 2019, ac ar ôl hynny bydd y mandad yn cael ei gyhoeddi. Disgwylir i Lywodraeth y DU gyhoeddi rhagor o fanylion am ei sefyllfa yn ystod yr wythnosau nesaf.

Byddwn yn nodi rhagor o fanylion ynghylch pa elfennau o'r trafodaethau a allai fod o ddiddordeb mwyaf i Gymru mewn blog ar wahân ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol yn ddiweddarach yr wythnos hon.


Erthygl gan Nia Moss, Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru