Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Diogelu’r Amgylchedd

Cyhoeddwyd 27/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o erthyglau sy’n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol, a gyhoeddwyd ar 12 Gorffennaf. I gael trosolwg cyffredinol o’r cynigion, darllenwch ein blog blaenorol.

Mae’r erthygl hon yn edrych yn benodol ar elfennau’r Papur Gwyn sydd fwyaf perthnasol i ddiogelu’r amgylchedd. Llun: Rhaeadr a choed

‘Dim atchweliad’ amgylcheddol

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig y byddai’n ymrwymo i ‘safonau amgylcheddol rheoleiddiol uchel’ drwy ofyniad ‘dim atchweliad’ mewn cytundeb ar y berthynas â’r UE yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y byddai’r UE a’r DU yn ymrwymo i gynnal y safonau amgylcheddol presennol sy’n atal y naill barti neu’r llall rhag gwanhau’r safonau er mwyn sicrhau mantais economaidd gystadleuol.

Yn flaenorol, mynnodd Michel Barnier, prif negodwr yr UE ar Brexit gymal dim atchweliad mewn unrhyw fargen yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd yn ymddangos y byddai Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn diystyru gofyniad dim atchweliad mewn tystiolaeth i Bwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ’r Cyffredin ym mis Ebrill 2018:

The non-regression clause is, in essence, a means of the EU giving itself potential control over domestic legislation. I do not think that is necessary. It goes against the spirit of taking back control. It is up to the Government and Parliament to demonstrate in the future, in fact, that it will not be necessary.

Galwodd rhanddeiliaid am egwyddor dim atchweliad statudol ar ôl ymadael â’r UE yn ystod ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) y Cynulliad i lywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol ar ôl Brexit. Roedd Greener UK, sef clymblaid o sefydliadau amgylcheddol, yn argymell yn ddiweddar (PDF 150KB) y dylai dim atchweliad o ran safonau amgylcheddol fod yn sail i bartneriaeth y DU a’r UE yn y dyfodol.

Er bod rhanddeiliaid wedi croesawu’r ffaith bod yr egwyddor dim atchweliad wedi’i chynnwys yn y Papur Gwyn, cafwyd galwadau (e.e. o du y rhwydwaith academaidd Brexit a’r Amgylchedd) i fynd y tu hwnt i ddim atchweliad drwy gynnwys egwyddor ‘dilyniant’ a fyddai’n ymrwymo’r UE a’r DU i anelu at safonau amgylcheddol uwch. Dywedodd David Henig, arbenigwr masnach o’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Economi Gwleidyddol Ryngwladol, fod y cymal dim atchweliad yn swnio’n rymus ond ei fod yn gymal safonol mewn cytundebau masnach. Mae cymalau o’r fath i’w gweld yng nghytundebau diweddar yr UE â Chanada a’r Wcráin.

Mae Adroddiad ENDS yn amlygu nad yw’r Papur Gwyn yn trafod a fyddai Llywodraeth y DU yn parchu targedau’r UE mewn meysydd fel gwastraff, dŵr neu ansawdd aer nad yw’r DU yn eu cyrraedd ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae Greener UK yn codi pryderon o ran hepgor y Rhaglen Natura 2000 ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt.

Safonau amgylcheddol - y ‘llyfr rheolau cyffredin’

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig partneriaeth economaidd a fyddai’n cynnwys ‘llyfr rheolau cyffredin’ ar gyfer nwyddau, gan gynnwys bwyd-amaeth. Byddai hwn yn cwmpasu y rheolau hynny sydd eu hangen ar gyfer masnach llyfn ar y ffin yn unig. Mae hyn yn awgrymu y byddai’r DU yn ymrwymo i ddim ond rhai o’r un safonau amgylcheddol â’r UE ar nwyddau.

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i ddiweddaru’r llyfr rheolau yn unol â rheoliadau’r UE, ond byddai Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig yn cael dweud eu dweud o ran sut y gellid gweithredu’r rheolau hyn. Gallent ddewis peidio â’u gweithredu, gan dderbyn y byddai canlyniadau o ran mynediad at y farchnad o wneud hynny. Mae rhagor o fanylion am y trefniadau arfaethedig ar gyfer y sector bwyd-amaeth wedi’u nodi yn y blog blaenorol yn y gyfres hon.

Roedd Canllawiau trafod y Cyngor Ewropeaidd yn pwysleisio pwysigrwydd atal manteision cystadleuol annheg drwy bennu gofynion is o ran rheoliadau amgylcheddol. Cefnogwyd y safbwynt hwn gan Senedd Ewrop.

Cynnal cytundebau amgylcheddol rhyngwladol

Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys ymrwymiadau i gynnal cytundebau cydweithredu amgylcheddol rhyngwladol. Dywed y dylai hefyd fod ymrwymiad cyfatebol i gydweithredu amgylcheddol parhaus, gan gynnwys y fforymau rhyngwladol, i ddatrys heriau byd-eang cyffredin.

Mae’r Papur Gwyn yn ychwanegu bod y DU yn rhan o ‘nifer o gytundebau amgylcheddol aml-ochrol’, ac yn dweud bod Llywodraeth y DU ‘wedi ymrwymo i gynnal ei chyfrifoldebau rhyngwladol o dan y cytundebau hyn ar ôl iddi ymadael â’r UE’.

Mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Nid yw’r cymal dim atchweliad wedi’i gynnwys o ran newid yn yr hinsawdd. Mae’r ddogfen, fodd bynnag, yn ymrwymo i gynnal safonau uchel o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar ôl Brexit ac mae’n amlygu bod cyfraith y DU yn mynd y tu hwnt i gyfrifoldebau presennol yr UE. Mae’n dweud y canlynol:

The UK recognises the UK’s and the EU’s shared interest in global action on climate change and the mutual benefits of a broad agreement on climate change cooperation. The UK’s world leading climate ambitions are set out in domestic law and are more stretching than those that arise from its current obligations under EU law. The UK will maintain these high standards after withdrawal.

Bydd blog diweddarach yn y gyfres yn crynhoi’r agweddau ar y Papur Gwyn sy’n ymwneud ag ynni.

Llywodraethu o ran y DU a’r UE, a Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r Papur yn cynnig y dylid sefydlu corff llywodraethu newydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig i reoli’r berthynas yn y dyfodol. Byddai hwn yn fforwm i weinidogion ac arweinwyr gyfarfod bob dwy flynedd. Mae’r Papur Gwyn yn nodi y byddai Llywodraeth y DU yn cynrychioli’r DU gyfan ar y corff hwn ond yn ystyried barn y llywodraethau datganoledig.

Byddai Cydbwyllgor a fyddai’n cynnwys swyddogion y DU a’r UE yn cwrdd yn amlach ac yn trafod materion manwl ynghylch gweithredu’r berthynas, ac yn ceisio datrys unrhyw anghydfodau ynglŷn â’i gweithredu yn anffurfiol. Pan na ellir datrys anghydfodau mewn Cyd-bwyllgor, mae’r Papur Gwyn yn cynnig system ar gyfer cymrodeddu annibynnol. Bydd blog diweddarach yn y gyfres yn disgrifio’r trefniadau llywodraethu a gynigir yn y Papur Gwyn.

O ran llywodraethu dull dehongli a gweithredu safonau amgylcheddol a gedwir mewn llyfr rheolau cyffredin, pe na allai’r Cydbwyllgor ddatrys yr anghydfod, dywed y Papur Gwyn y gellid cyfeirio at Lys Cyfiawnder yr UE (CJEU) ar y cyd i gael dehongliad. Byddai gan y CJEU rôl o ran dehongli y rheolau’r UE hynny y mae’r DU wedi cytuno i ymlynu wrthynt fel mater o gyfraith ryngwladol. Byddai’n rhaid i’r Cydbwyllgor neu banel cymrodeddu ddatrys yr anghydfod mewn ffordd sy’n gyson â’r dehongliad hwn.

Gallai dinasyddion y DU roi cwyn gerbron llys y DU i gael adolygiad barnwrol ar ddefnyddio deddfau’r DU sy’n gweithredu’r llyfr rheolau cyffredin. Byddai’n rhaid i lysoedd y DU roi ‘ystyriaeth ddyledus’ i gyfraith achosion yr UE mewn meysydd lle mae’r DU yn defnyddio llyfr rheolau cyffredin ar nwyddau.

Mae Brexit and Environment yn codi pryderon nad oes digon o fanylion yn y Papur Gwyn ar sut y bydd y berthynas rhwng cenhedloedd y DU yn cael ei rheoli. Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyhoeddi Bil i sefydlu corff a allai gymryd camau gorfodi amgylcheddol ar lefel ddomestig (gan gynnwys camau cyfreithiol os oes angen). Fodd bynnag, bu pryder sylweddol (PDF 455KB) ynghylch Cynigion Llywodraeth y DU.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi nodi argymhellion ar gyfer corff llywodraethu amgylcheddol yn ei adroddiad ar drefniadau llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol ar ôl Brexit . Mae blog blaenorol yn darparu rhagor o wybodaeth am y materion llywodraethu amgylcheddol ar gyfer Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r Papur Gwyn roedd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cwestiynu ymarferoldeb y cynigion a’r warant o ran safonau amgylcheddol:

... Ond am bob ateb y mae’r Papur Gwyn yn ceisio ei roi, mae cyfres arall o gwestiynau yn codi [...] sut y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sicrwydd i 27 o wledydd yr UE ynglŷn â materion amgylcheddol a safonau’r farchnad lafur, i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol?

Ymateb y Comisiwn Ewropeaidd:

Wrth ymateb i’r Papur Gwyn, dywedodd Michel Barnier bod sawl elfen yn agor y ffordd ar gyfer cynnal trafodaeth adeiladol, gan gynnwys ymrwymiadau’n ymwneud â safonau amgylcheddol. Fodd bynnag, mae’n codi’r mater y byddai llawer o safonau’r UE o ran nwyddau na chânt eu gwirio ar y ffin, gan gynnwys safonau ar gyfer GMOau a phlaladdwyr. Felly, mae’n codi cwestiynau ynghylch diogelu defnyddwyr Ewropeaidd, a’r sail y gallai’r UE ei defnyddio i dderbyn symudiad nwyddau yn rhwydd.

Bydd y blog nesaf yn y gyfres yn edrych ar yr hyn y gallai goblygiadau’r cynigion yn y Papur Gwyn fod i economi Cymru.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru