Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plant

Cyhoeddwyd 02/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plant yr wythnos hon. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd yr agenda gordewdra. Cymru sydd â'r cyfraddau uchaf o ordewdra mewn plentyndod yn y DU. Mae'r ystadegau diweddaraf – o Arolwg Iechyd Cymru 2012 – yn dangos, yn 2011, fod mwy na thraean o blant (35%) dros bwysau neu'n ordew: dangosodd bod 16% dros bwysau a bod 19% yn ordew. Yn 2007, cafwyd data am ordewdra plant am y tro cyntaf yn Arolwg Iechyd Cymru. Roedd yr ystadegau yn 2007 yn debyg iawn i'r rhai a gafwyd yn 2011, gyda 36% o blant dros bwysau neu'n ordew, gan gynnwys 20% yn ordew. Felly, mae'r ystadegau gordewdra yn dangos nad yw'r nifer o blant dros bwysau neu sy'n ordew wedi newid rhyw lawer dros gyfnod o bum mlynedd. Cyhoeddwyd dogfen Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan, Llywodraeth Cymru, yn 2010. Mae rhestr ar dudalen 14 o holl bolisïau, rhaglenni a gwasanaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r agenda gordewdra. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil hefyd wedi cyhoeddi Hysbysiad hwylus ar ordewdra plant yng Nghymru.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.