Wyth peth y mae angen i chi eu gwybod o adroddiadau blynyddol a chyfnodol cyntaf Swyddfa'r Farchnad Fewnol

Cyhoeddwyd 21/04/2023   |   Amser darllen munudau

Mae sut i reoli marchnad fewnol y DU wedi bod yn bwnc llosg ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Sefydlodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 drefn marchnad fewnol newydd ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol, yn lle’r rheolau sy’n llywodraethu marchnad sengl yr UE, ond fe’i pasiwyd heb gydsyniad Senedd Cymru na Senedd yr Alban.

Ar ôl ychydig dros ddwy flynedd ers rhoi'r drefn ar waith, mae Swyddfa'r Farchnad Fewnol wedi cyhoeddi ei hadroddiadau blynyddol a chyfnodol cyntaf ar sut mae marchnad fewnol y DU yn gweithredu.

Mae'r erthygl hon yn nodi wyth peth y mae angen i chi eu gwybod o'r adroddiadau.

Beth yw Swyddfa’r Farchnad Fewnol?

Mae Swyddfa'r Farchnad Fewnol yn rhan o'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Mae'n darparu cyngor, gwaith monitro ac adroddiadau annibynnol i bedair llywodraeth y DU ar weithrediad marchnad fewnol y DU.

Sefydlodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 drefn marchnad fewnol newydd ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol yn y DU. Sefydlodd rhannau 1-3 o’r Ddeddf 'Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad', sef cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, a chydnabyddiaeth awtomatig ar gyfer cymwysterau. Ceir rhagor o wybodaeth am Ddeddf Marchnad Fewnol y DU yn y briff ymchwil hwn.

Mae’n ofynnol i Swyddfa’r Farchnad Fewnol gyhoeddi dau adroddiad rheolaidd:

  • Adroddiad blynyddol ar weithrediad marchnad fewnol y DU.
  • Adroddiad cyfnodol bob pum mlynedd ar effeithiolrwydd yr Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad a sut maent yn rhyngweithio â’r Fframweithiau Cyffredin.

Cyhoeddodd Swyddfa’r Farchnad Fewnol ei hadroddiadau blynyddol a chyfnodol cyntaf ar 22 Mawrth 2023.

Beth mae'r adroddiadau yn ei ddweud wrthym?

Mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth gyffredinol ymhlith busnesau am Ddeddf Marchnad Fewnol y DU a’r Fframweithiau Cyffredin

Canfu ymgysylltiad Swyddfa’r Farchnad Fewnol â busnesau a chymdeithasau masnach fod diffyg dealltwriaeth o'r Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad a sut mae proses y Fframweithiau Cyffredin yn gweithio. Nid yw’r rhai sy'n ymwybodol o’r Fframweithiau Cyffredin hyd yn oed yn eglur ynghylch pa bynciau sy'n cael eu trafod a sut i gyfrannu at y trafodaethau hyn.

Dim ond 15 y cant o fusnesau’r DU sy’n masnachu gyda chwsmeriaid yng ngwledydd eraill y DU ond nid yw’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n gwneud hynny yn gweld unrhyw heriau

Mae tua 15 y cant o fusnesau yn masnachu gyda chwsmeriaid yng ngwledydd eraill y DU, o gymharu â 10 y cant sydd wedi allforio’n rhyngwladol yn y 12 mis diwethaf. Busnesau mwy o faint a’r rhai yn y diwydiant gweithgynhyrchu a masnach cyfanwerthu a manwerthu yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o werthu i gwsmeriaid yng ngwledydd eraill y DU. Nid yw mwy na hanner y busnesau sy’n gwerthu i gwsmeriaid mewn rhannau eraill o’r DU yn wynebu unrhyw heriau wrth wneud hynny. Dywedodd y rhan fwyaf o fusnesau na fyddent yn rhoi’r gorau i fasnachu mewn rhan arall o’r DU pe bai newid yn y rheoliadau ond y byddent yn ceisio newid eu cynnyrch neu ddod o hyd i gyflenwyr newydd.

Mae diffyg data ar gael i ddangos yr effaith y mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn ei chael ar fasnach rhwng rhannau o’r DU

Dim ond tair o bedair gwlad y DU (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) sy’n cyhoeddi ystadegau penodol ar fasnach sy’n cynnwys mewnforion ac allforion i rannau eraill o’r DU. Cyhoeddwyd data o Gymru a’r Alban yn fwyaf diweddar yn 2019, a hynny cyn i drefn y farchnad fewnol ddechrau gweithredu. Mae Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi data ar gyfer 2020 a 2021, sy’n awgrymu bod masnach gyda gweddill y DU wedi aros yn weddol ddigyfnewid yn ystod 2020 ond ei bod wedi tyfu yn 2021.

Mae Swyddfa'r Farchnad Fewnol OIM wedi cyhoeddi Cynllun Strategaeth Data i wella argaeledd data am farchnad fewnol y DU.

Mae yna ansicrwydd ynghylch effaith Deddf Marchnad Fewnol y DU oherwydd absenoldeb cyfraith achosion ac amharodrwydd i ddilyn llwybrau cyfreithiol

Canfu ymgysylltiad Swyddfa’r Farchnad Fewnol â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol ansicrwydd ynghylch effaith yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad oherwydd absenoldeb cyfraith achosion sydd wedi datblygu hyd yn hyn. Byddai unrhyw gamau cyfreithiol yn debygol o gael eu cymryd gan fusnesau mawr neu gymdeithasau masnach gan y gallai busnesau bach ystyried cyfreitha yn rhy gostus neu'n peri risg.

Mae yna safbwyntiau gwahanol rhwng pedair llywodraeth y DU ynghylch sut mae’r Ddeddf yn gweithredu’n ymarferol

Mae Llywodraeth y DU yn dweud nad oes ganddi unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad yn gweithredu ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ill dwy godi materion ynglŷn â sut y gallai’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad effeithio ar feysydd polisi datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon ynghylch sut mae deddfwriaeth sy’n cael ei phasio mewn rhannau eraill o’r DU, fel Bil Technoleg Genetig (Bridio Manwl) Senedd y DU, yn effeithio ar gyfraith Cymru o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU.

Mynegodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban bryderon am y broses ar gyfer cytuno ar eithriadau o’r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad a’r pŵer sydd gan Weinidogion y DU yn y broses honno.

Prin yw'r dystiolaeth bod Fframweithiau Cyffredin yn chwarae rhan arwyddocaol o ran rheoli effeithiau ymwahanu

Sefydlwyd Fframweithiau Cyffredin gan Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i reoli ymwahanu mewn rhai o’r meysydd polisi a oedd yn arfer cael eu cydgysylltu ar lefel yr UE. Mae’r Fframweithiau’n nodi sut y bydd y pedair llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd ac yn penderfynu pryd i ddilyn yr un rheolau a phryd i fabwysiadu dulliau gweithredu gwahanol.

Cafwyd rhai enghreifftiau o’r Fframweithiau Cyffredin yn cael eu defnyddio yn y modd hwn, er enghraifft pan geisiodd Llywodraeth yr Alban eithriad o'r Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad ar gyfer plastigau untro drwy'r Fframwaith Cyffredin Adnoddau a Gwastraff. Fodd bynnag, mae Swyddfa'r Farchnad Fewnol wedi gweld tystiolaeth gyfyngedig o’r Fframweithiau Cyffredin yn chwarae rhan o ran rheoli effeithiau ymwahanu mewn meysydd polisi eraill a gwmpesir gan yr Egwyddorion Mynediad i’r Farchnad.

Mae ymgysylltiad rhynglywodraethol cynnar yn bwysig os yw’r Fframweithiau Cyffredin am weithio'n effeithiol

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn gadarnhaol ynglŷn â photensial y Fframweithiau Cyffredin i reoli ymwahanu ym marchnad fewnol y DU yn effeithiol. Tynnodd Llywodraeth yr Alban sylw at bwysigrwydd ymgysylltu rhynglywodraethol yn gynnar yn y broses o ddatblygu polisi os yw’r Fframweithiau Tir Comin am weithio’n effeithiol.

Mae potensial am ymwahanu pellach sylweddol rhwng gwledydd y DU dros y 12 mis nesaf

Mae adroddiad blynyddol Swyddfa’r Farchnad Fewnol yn nodi nifer o feysydd ar gyfer 2023-24 lle mae potensial ar gyfer ymwahanu ar draws y DU. Yn benodol, gallai Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Senedd y DU arwain at ymwahanu os bydd llywodraethau’n mabwysiadu dulliau gwahanol o ymdrin â chyfreithiau sy’n deillio o’r UE mewn meysydd datganoledig.

Felly sut mae marchnad fewnol y DU yn gweithredu?

Mae’n weddol gynnar o hyd o ran trefn marchnad fewnol y DU, sydd ond wedi bod yn weithredol ers 31 Rhagfyr 2020. Dywed Swyddfa’r Farchnad Fewnol, gan mai dim ond nifer fechan o wahaniaethau rheoleiddiol a fu rhwng gwledydd y DU yn y cyfnod hwnnw, mai bwriad yr adroddiad cyfnodol hwn yw pennu llinell sylfaen. Dylai gwelliannau wrth gasglu data ac ymwahanu pellach yn y dyfodol helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o sut mae marchnad fewnol y DU yn gweithredu.

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru