Un o'r materion allweddol i ddeillio o drafodaethau Brexit diweddar rhwng y DU a'r UE yw pa fath o drefniadau tollau fydd gan y DU â'r UE unwaith y bydd yn gadael. Fel y nodir yn adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar Berthynas Cymru ag Ewrop yn y Dyfodol (PDG 9727KB), mae'r mater o dollau yn un o'r pryderon mwyaf i lawer o sectorau gwahanol economi Cymru.
Ar 2 Mawrth 2018, yn ei haraith yn y Mansion House, dywedodd Theresa May, Prif Weinidog y DU, bod y DU wedi bod yn glir ei bod yn gadael Undeb y Tollau.
Ar 30 Ebrill, cynhaliodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad sesiwn graffu gyda Mr Robin Walker AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Yn ystod y sesiwn, cadarnhaodd Mr Walker safbwynt Llywodraeth y DU:
The position of the UK Government is very clear, that we are leaving the EU customs union. We do then of course seek to negotiate a new arrangement between the UK and the EU that will allow for frictionless and tariff-free market access, and I think it's welcome that the EU's negotiating guidelines include that aspiration of no tariff barriers and frictionless arrangements with regard to the border.
Gorchfygu Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi
Ar 18 Ebrill, sef diwrnod cyntaf Cyfnod Adrodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn Nhŷ'r Arglwyddi, bu'r aelodau yn trafod gwelliant traws-feinciol mewn perthynas ag undeb tollau yr UE. Aeth y gwelliant i bleidlais, gyda'r Aelodau'n pleidleisio 348 i 225 o blaid gofyn i Weinidogion y DU wneud datganiad yn amlinellu'r camau a gymerwyd yn ystod trafodaethau Erthygl 50 i alluogi'r DU i barhau i gymryd rhan mewn undeb tollau â'r UE. Ymateb Llywodraeth y DU.
Mewn ymateb i'r bleidlais yn Nhŷ'r Arglwyddi, dywedodd Llywodraeth y DU:
This amendment does not commit the UK to remaining in a customs union with the EU, it requires us to make a statement in Parliament explaining the steps we've taken.
Our policy on this subject is very clear. We are leaving the customs union and will establish a new and ambitious customs arrangement with the EU while forging new trade relationships with our partners around the world.
Dadl Tŷ'r Cyffredin
Yn dilyn gorchfygu Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi, cyflwynodd grŵp trawsbleidiol o Gadeiryddion Pwyllgorau Dethol gynnig Tŷ'r Cyffredin yn nodi y dylai sefydlu undeb tollau gyda'r UE fod yn amcan allweddol yn sgyrsiau Brexit. Trafodwyd y cynnig gan yr Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin ar 26 Ebrill. Er i'r cynnig hwn gael ei basio gan y Tŷ, nid oedd yn orfodol, sy'n golygu nad yw'n ymrwymo Llywodraeth y DU i gymryd unrhyw gamau gweithredu.
Mae'n debyg y bydd dadl bellach ar y pwnc hwn yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddarach eleni, yn dilyn gwelliannau o blaid yr undeb tollau a gyflwynwyd i'r Bil Masnach (PDF 170KB) a'r Bil Trethiant (Masnach Trawsffiniol) (PDF 207KB). Gallai hyn roi cyfle i Aelodau Seneddol bleidleisio ar y mater pan fydd y Biliau hyn yn cyrraedd y Cyfnod Adrodd.
Safbwynt Comisiwn yr UE a chwestiwn ffin Iwerddon
Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ei haraith yn y Mansion House ar 17 Ionawr:
Our departure from the EU causes very particular challenges for Northern Ireland, and for Ireland… We have been clear all along that we don’t want to go back to a hard border in Ireland. We have ruled out any physical infrastructure at the border, or any related checks and controls.
Fodd bynnag, mae ansicrwydd o hyd ynghylch sut i osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon pe bai'r DU yn gadael yr undeb tollau. Yn ddiweddar, bu'r rhai sy'n cynnal y trafodaethau ar ran y DU a'r UE yn cynnal pedair wythnos o sgyrsiau ar y pwnc hwn, gan ddod i ben ar 18 Ebrill, ond methwyd â dod i gasgliad. Mae'r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn arbennig o bwysig i Gymru oherwydd y masnach trwm rhwng porthladdoedd Cymru ac Iwerddon. Yn ei ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i Borthladdoedd Cymru (PDF 2996KB), daeth Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad i'r casgliad:
Rydym yn pryderu y gallai ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a ffin forol galed rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, roi porthladdoedd Cymru o dan anfantais ddifrifol ac arwain at golli natur gystadleuol gan arwain at ddadleoli traffig o borthladdoedd Cymru - yn bennaf Caergybi - i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban, drwy Ogledd Iwerddon.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno dau gynnig tollau ôl-Brexit, a gelwir y cyntaf yn "bartneriaeth tollau newydd". Byddai'r cynnig hwn yn caniatáu i Brydain gynnal ei system o dariffau ei hun ond yn gweithredu fel casglwr tollau'r UE ar nwyddau i mewn i'r DU sydd ar eu ffordd i un o wledydd yr UE. Mae'r ail gynnig, a elwir yn "drefniant tollau syml iawn", yn cynnwys defnyddio datrysiadau technolegol i ostwng rhwystrau tollau.
Wrth ymddangos gerbron pwyllgor Tŷ'r Cyffredin ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar 25 Ebrill, cadarnhaodd David Davis AS, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi beirniadu amrywiol elfennau o bob un o'r ddau opsiwn a drafodwyd, ond dywedodd mai dim ond safbwynt agoriadol y Comisiwn yn y trafodaethau parhaus yw hyn.
Safbwynt Llywodraeth Cymru
Ar 2 Chwefror 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad Polisi Masnach: Materion i Gymru (PDF 1714KB) fel rhan o gyfres o bapurau safbwynt polisi sy'n gysylltiedig â Brexit. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru:
Rydym yn parhau i fod yn amheus fod gadael undeb tollau â'r UE o fudd inni, o leiaf cyn belled ag y bo modd dweud ar hyn o bryd. Os yw Llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd ei pholisi o adael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau gan ffafrio polisi masnach hollol annibynnol, bydd hyn yn cyflwyno risg o osod rhwystrau di-dariff, ac, o bosibl, tariffau, a allai fod yn niweidiol i fusnes yng Nghymru a’r DU [...] Credwn ar hyn o bryd mai parhau'n rhan o'r Undeb Tollau, gan gynnwys ar gyfer cynnyrch amaethyddol a physgodfeydd, yw'r sefyllfa orau o hyd ar gyfer busnesau Cymru a'r DU.
Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 8 Mai 2018, dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
Mae'n bwysig dros ben bod y DU yn aros o fewn yr undeb tollau. Nid yw polisi masnach wedi'i ddatganoli - dyna'r gwirionedd. Ond [mae Llywodraeth Cymru] wedi sicrhau bod gennym ni lais i wneud yn siwr bod llais Cymru yn cael ei glywed.
Bydd y mater hwn yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o'r trafodaethau rhwng y DU a'r UE dros y misoedd nesaf. Y dyddiad allweddol nesaf yn y trafodaethau fydd y Cyngor Ewropeaidd ym mis Mehefin, lle bydd Penaethiaid Gwladol a Llywodraethau yr UE yn cwrdd i drafod cynnydd y trafodaethau.
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Alastair Grey gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a olygodd y gallai’r blog hwn gael ei gwblhau.
Erthygl gan Alastair Grey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun: o Flickr gan Martin Pettitt. Dan drwydded Creative Commons