Menyw ifanc mewn masg yn eistedd ar ei phen ei hun mewn coridor ysbyty yn aros i rywun.

Menyw ifanc mewn masg yn eistedd ar ei phen ei hun mewn coridor ysbyty yn aros i rywun.

Tynnu’r masg: Disgwyliadau ac amcanion yn sgil cyhoeddi adroddiad cyntaf Ymchwiliad Covid-19 y DU

Cyhoeddwyd 18/07/2024   |   Amser darllen munud

Bydd yr adroddiad cyntaf yn sgil Ymchwiliad Covid-19 y DU ar barodrwydd ar gyfer y pandemig yn cael ei gyhoeddi am 12:00 heddiw. Mae'r adroddiad yn addo taflu goleuni ar y cyfnod cyn pandemig y coronafeirws ac a gafodd y risgiau eu nodi'n gywir ac a gynlluniwyd yn ddigonol ar gyfer y pandemig.

Daw’r adroddiad ar adeg pan fo achosion o Covid-19 yng Nghymru ar gynnydd, yn ystod cyfnod y cyfeirir ato fel ‘ton yr haf‘, sy’n deillo o leihad o ran lefelau imiwnedd a grŵp o amrywiolion Covid o’r enw FLiRT.

Byw gyda Covid-19 yw'r normal newydd

Yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), yr amrywiolyn FLiRT oedd yn gyfrifol am 40% o'r holl achosion o Covid-19 yn y DU ym mis Ebrill 2024. Mae UKHSA wedi nodi cynnydd bach yn nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â'r feirws.

Er gwaethaf hyn, mae'r byd yn dysgu byw gyda Covid-19, yn debyg iawn i'r ffordd yr ydym yn rheoli ffliw tymhorol a feirysau anadlol eraill. Mae Covid-19, a berodd i’r byd sefyll yn stond ar un adeg, bellach yn rhan o'n bywydau bob dydd.

Mae Mark Woolhouse, sy’n athro epidemioleg clefydau heintus, yn awgrymu na fydd Covid-19 yn achosi problem iechyd cyhoeddus sylweddol yn y dyfodol wrth i bobl ifanc iach ddatblygu imiwnedd naturiol, gan eu gwneud yn llawer llai agored i niwed pan fyddant yn oedrannus ac yn fregus. Dywedodd y bydd dal Covid-19, i bob pwrpas, fel dal annwyd yn y pen draw, ond rhybuddiodd nad ydyn ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.

Addasu i newidiadau

Mae'n bwysig cofio bod grŵp sy’n agored i niwed o hyd, gan gynnwys pobl sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol ac unigolion oedrannus, ac i'r bobl hyn, mae'r feirws yn dal i beri risg sylweddol.

Fodd bynnag mae’r rheolau a'r cyfyngiadau wedi newid. Mae’r drefn o ddarparu profion llif unffordd am ddim a'r defnydd o brofion PCR gan y cyhoedd wedi dod i ben (er bod profion PCR yn dal i gael eu defnyddio mewn lleoliadau risg uchel). Nid oes gofyniad cyfreithiol i hunanynysu na gwisgo masgiau. Fodd bynnag rhoddir cyngor o hyd y dylem osgoi dod i gysylltiad â phobl sy’n agored i niwed ac aros gartref ar ôl cael prawf positif.

Pwysigrwydd ymchwiliad Covid-19 y DU

Er nad yw Covid-19 yn peri'r un lefel o fygythiad bellach ag ydoedd ar un adeg, mae ôl y pandemig i'w weld o hyd. Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddwys ar y rhai sydd wedi colli aelodau o'r teulu, unigolion sy'n delio ag effeithiau iechyd hirdymor neu heriau iechyd meddwl oherwydd y feirws, a phobl ifanc a brofodd amhariad ar eu haddysg neu eu hyfforddiant.

Nod ymchwiliad y DU yw darparu dealltwriaeth fanwl o'r penderfyniadau a wnaed yn ystod y pandemig, gan roi'r cyfle i ddwyn y rhai a oedd mewn grym i gyfrif.

Erbyn mis Ionawr 2024, roedd Ymchwiliad y DU wedi casglu swm enfawr o wybodaeth:

Gallai canfyddiadau'r Ymchwiliad arwain at newidiadau polisi sylweddol, gan wella parodrwydd y DU ar gyfer pandemig yn y dyfodol a’i hymateb i sefyllfa o’r fath.

I'r rhai sydd wedi colli anwyliaid oherwydd Covid-19, efallai y bydd yr ymchwiliad yn cynnig rhywfaint o gyfle i dynnu llinell o dan eu profiadau.

Edrych yn ôl ar Fodiwl 1

Mae'r adroddiad heddiw yn canolbwyntio ar wydnwch a pharodrwydd, gan ystyried yr holl adnoddau a ddyrannwyd, y trefniadau rheoli risg, a pharodrwydd ar gyfer y pandemig. Mae’r adroddiad yn debygol o dynnu sylw at feysydd lle gallai'r ymateb fod wedi bod yn well, gan gynnig gwersi gwerthfawr ar gyfer argyfyngau iechyd cyhoeddus yn y dyfodol.

Daeth y gwrandawiadau cyhoeddus ar gyfer Modiwl 1 i ben ar 19 Gorffennaf 2023. Clywodd yr Ymchwiliad dystiolaeth gan 69 o dystion o bob rhan o bedair gwlad y DU, gan gynnwys gwleidyddion, gwyddonwyr, gweision sifil, arbenigwyr academaidd ac unigolion a oedd wedi colli anwyliaid.

Roedd y cwestiynau’n ymdrin â phynciau fel:

  • diogelwch cenedlaethol a pharodrwydd risg, gan gynnwys ymarferion modelu pandemigau Alice a Cygnus;
  • anghydraddoldebau iechyd cyn y pandemig;
  • cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd cyhoeddus;
  • cynllunio gwydnwch mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol a chartrefi gofal;
  • effaith paratoi i ymadael â’r UE heb gytundeb ar gynllunio ar gyfer trychineb, yn enwedig parodrwydd ar gyfer unrhyw bandemig posibl;
  • gwasanaethau iechyd lleol a fforymau gwydnwch a'u perthynas â gweinyddiaethau cenedlaethol; a
  • phrofiadau unigolion y bu eu hanwyliaid farw yn ystod y pandemig.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiadau monitro a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru y Senedd.

Mae’r Farwnes Hallet, Cadeirydd yr Ymchwiliad, yn disgwyl i bob un o’r argymhellion a dderbynnir gael ei weithredu'n brydlon, ac i’r sefydliadau perthnasol ymateb ymhen chwe mis i gyhoeddi’r adroddiad.

Mae tîm yr Ymchwiliad wedi dweud hefyd ei fod eisoes wedi dechrau drafftio'r ail adroddiad ar y penderfyniadau craidd a wnaed a rheolaeth wleidyddol, a fydd yn cynnwys canfyddiadau ac argymhellion o bob un o'r ymchwiliadau Modiwl 2 sy'n ymwneud â'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn ogystal â'r ymchwiliad ledled y DU.

Edrych ymlaen tuag at fodiwlau'r dyfodol

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn cynnwys sawl ymchwiliad – neu ‘Fodiwl’ – gwahanol sy’n ystyried gwahanol rannau o ymateb y DU i’r pandemig. Mae’r gwrandawiadau sy’n rhan o fodiwlau gweithredol eraill sydd eisoes ar waith yn cynnwys:

Dechreuwyd gwaith ar y ddau fodiwl a ganlyn yn ddiweddar:

Yn ddiweddarach yn yr hydref, mae disgwyl i'r Ymchwiliad lansio ymchwiliad i effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant.

Nod y Cadeirydd yw gorffen y gwrandawiadau cyhoeddus yn 2026.

Mae Pob Stori o Bwys

Mae rhaglen ddigwyddiadau Mae Pob Stori o Bwys yn canolbwyntio ar wrando ar brofiadau pobl o'r pandemig yn eu cymunedau lleol. Sefydlwyd fforwm profedigaeth hefyd i roi cyngor i'r Ymchwiliad ar Mae Pob Stori o Bwys a'r gwaith o goffáu’r rhai a fu farw.

Bydd pob stori sy'n cael ei rhannu â'r Ymchwiliad yn cael ei dadansoddi, a bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu adroddiadau thematig. Bydd y rhain yn cael eu rhannu ochr yn ochr â’r adroddiadau fesul modiwl, o Fodiwl 3 ymlaen. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr Ymchwiliad.

Mae prosiect ymchwil pwrpasol wedi cael ei gomisiynu i glywed yn uniongyrchol gan y plant a’r bobl ifanc yr effeithiodd y pandemig arnynt fwyaf.

Wrth i Ymchwiliad Covid-19 y DU gyhoeddi ei adroddiad cyntaf heddiw, mae'n gyfle i edrych yn ôl, i sicrhau atebolrwydd ac i sicrhau newid. Bydd y gwersi sy’n cael eu dysgu yn sgil yr ymchwiliad hwn yn helpu i lunio'r ymateb i bandemigau yn y dyfodol.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru